
Glanhau Data yn y Catalog
‘Glanhau data yn y catalog’; nid y cyfuniad mwyaf cyffrous o eiriau efallai, ond mae wedi arwain at lawer o ddarganfyddiadau. Ar ôl ymddeol roeddwn i’n chwilio am rywbeth holloll wahanol i’w wneud – ac yna ddifyrrwch – a allai elwa ar y sgiliau roeddwn wedi’u crynhoi yn ystod gyrfa ym maes ymchwil gwyddonol.

Mae gennyf ddiddordeb ers erioed mewn archaeoleg a phensaernïaeth, felly roedd y cyfle i wirfoddoli yn y Comisiwn Brenhinol yn ateb fy anghenion i’r dim. Wrth bori yn y cylchgronau a chyfnodolion niferus, o adroddiadau’r Moated Sites Research Group i’r Journal of Conflict Archaeology drwy Hanes Lleol yng Ngheredigion, fe ddeuthum ar draws bydoedd rhyfeddol wedi’u cadw mewn manylder syfrdanol. Roedd yn gyfle i ddarllen y dogfennau mwyaf dyrys a fyddai fel rheol wedi cael eu diystyru, ond roedd pob cyhoeddiad yn cynnwys arbenigaethau oes, hyd yn oed obsesiynau, eu hawduron. Byddai pob diwrnod o lanhau yn datgelu rhywbeth o ddiddordeb a bydd eiliadau “duw!, duw!” yn y dyfodol yn fy arwain i gyfeiriadau difyr newydd.
Steve Taylor – Gwirfoddolwr
Er bod y Llyfrgell ar gau ar hyn o bryd, gallwch fynd ar daith rithiol a phori’r silffoedd neu chwilio catalog ein Llyfrgell.


10/06/2020