
Golwg berffaith ar gêm rygbi
Wrth chwilio’n ddiweddar drwy ein casgliad o awyrluniau Arolwg Ordnans mawr, daethom o hyd i gyfres o luniau fertigol a dynnwyd wrth hedfan dros Ben-y-bont ar Ogwr. Tynnwyd un o’r rhain yn union uwchben Maes y Bragdy (NPRN 415289), cartref Clwb Rygbi Pen-y-bont. Roedd yr amodau tywydd yn ddelfrydol ar gyfer dangos manylion ar y ddaear. Gellir gweld amlinell y castell (NPRN 93036) yn y cornel chwith isaf. Tynnwyd y llun ar yr 8fed o Ebrill 1989, ar uchder o 5,300 troedfedd, gan ddefnyddio lens 12”; y cyfeirnod ffilm yw 89-073, a’r ffrâm dan sylw yw Rhif 535.
Mae’r maes parcio’n llawn, ac mae gêm bwysig yn mynd rhagddi. Gan fod dyddiad y ffotograff gennym, a oes modd darganfod pa dimau sy’n chwarae a phwy a enillodd?
10/01/2018