
Gorffennol Digidol 2017: Galwad am Gyfraniadau
Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan.
15 a 16 Chwefror 2017, Glan yr Afon, Casnewydd
Galwad am gyfraniadau
Rydym yn ceisio cyflwyniadau gan y rheiny sy’n gweithio ar brosiectau arloesol yn y meysydd a amlinellir isod, naill ai fel ymchwilwyr neu staff, a all gyfrannu i’r gynhadledd flaengar hon. Gellir cyfrannu ar ffurf cyflwyniadau, seminarau neu weithdai ffurfiol, neu’n fwy anffurfiol drwy’r sesiwn ‘anghynhadledd’ neu stondin arddangos. Rydym ni’n croesawu cyfraniadau Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog. Manylion ynghlwm http://cbhc.gov.uk/cynhadledd-gorffennol-digidol/galwad-am-gyfraniadau/
Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyniadau:
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau, seminarau a gweithdai yw Dydd Gwener, yr 14 eg o Hydref 2016. Caiff penderfyniadau eu gwneud ar ôl ystyried rhinweddau’r cyflwyniadau unigol a sut maent yn cyd-fynd â’r rhaglen gyffredinol, a hysbysir yr ymgeiswyr erbyn Dydd Gwener, yr 21 ain o Hydref 2016.
Cynhadledd ddau ddiwrnod flynyddol wedi’i threfnu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n canolbwyntio ar dechnolegau a thechnegau digidol arloesol ar gyfer cipio data, dehongli a lledaenu gwybodaeth am dreftadaeth Cymru, y DU a thu hwnt yw Gorffennol Digidol. Mae’n dwyn ynghyd unigolion o’r sectorau masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol, ac o’r trydydd sector, a’i nod yw hybu trafodaeth a gwybodaeth am y technolegau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu datblygu, i gofnodi a deall yr amgylchedd hanesyddol.
07/10/2016