
Gorffennol Digidol 2020: Ein Hail Brif Sesiwn!
Cynhelir ein hail brif sesiwn ar ail brynhawn y gynhadledd Gorffennol Digidol, gan ddod â’r holl gynadleddwyr ynghyd ar gyfer cyfres wych arall o sgyrsiau.

Dr Marinos Ioannides yw cyfarwyddwr Cadair UNESCO ar Dreftadaeth Ddiwylliannol Ddigidol, ac yn gydlynydd Cadair ERA yr UE ar Dreftadaeth Ddiwylliannol Ddigidol: Mnemosyne ym Mhrifysgol Technoleg Cyprus. Yn ei gyflwyniad, ‘Mae i gyd yn ymwneud â Gwybodaeth, Stori a Chof’, bydd yn canolbwyntio ar faes dogfennaeth gyfannol 3D, yn enwedig sicrhau, wrth ddogfennu gwrthrych cyffyrddadwy mewn 3D, y rhoddir sylw i’w gefndir hanesyddol a’i werth – ei dreftadaeth anghyffyrddadwy – yn ogystal â’i geometreg. Bydd Marinos yn ymdrin â heriau’r ymagwedd hon, gan gynnwys diffyg safoni, y diffiniad o ‘Gwybodaeth, Cof, Stori a Hunaniaeth’, a sut y gall y wybodaeth hon gael ei chysylltu ag Europeana. Gellir darllen ei grynodeb llawn yn https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2019/12/2.-Digital-Past-Its-All-About-Knowledge-Marinos-Ioannides-Cy.pdf.

Gan barhau â’r cysylltiad ag Europeana, symudwn i’n hail siaradwr yn y sesiwn, Harry Verwayen, Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad Europeana, sy’n gweithredu’r platfform Europeana. Yn ei sgwrs ar ‘Gyrru Trawnsnewid Digidol’, bydd Harry yn ystyried y chwyldro digidol sy’n digwydd yn y sector treftadaeth: mae Deallusrwydd Artiffisial, Data Mawr a Realiti Estynedig i gyd yn cyfuno i greu dyfodol lle mae yn awr yn bosibl dychmygu y bydd gan bopeth gynrychioliad digidol, pedwerydd dimensiwn a fydd yn newid y ffordd a weithredwn fel unigolion, sefydliadau a chymunedau. Gan ddefnyddio profiad Europeana, mewn perthynas ag ymchwil a datblygu a gwreiddio treftadaeth ddiwylliannol mewn mentrau cymdeithasol ac economaidd ehangach, bydd Harry’n gofyn beth fydd lle treftadaeth ddiwylliannol yn y byd newydd hwn. Darllenwch ei grynodeb yma: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2019/12/4.-Europeana-Driving-digital-transformation-Harry-Verwayen-Cy.pdf

Ein siaradwr olaf yn y sesiwn fydd Josie Fraser, Pennaeth Polisi Digidol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a fu gynt yn uwch ymgynghorydd technoleg yn yr Adran ar gyfer Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Bydd Josie yn egluro pam mae hyder digidol a sgiliau digidol yn hanfodol ar gyfer pob unigolyn a sefydliad sy’n gweithio yn y sector treftadaeth, ac yn cyfeirio at yr amrywiaeth eang o gyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wireddu’r uchelgais hwn. Crynodeb llawn: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2020/02/1.-Digital-Skills-for-Heritage-Josie-Fraser-Cy.pdf
Mae rhaglen lawn ar gyfer y gynhadledd ar gael a gellir Cofrestru nawr hyd at 5pm ar Dydd Gwener 7fed Chwefror.
#GorffennolDigidol2020
Gorffennol Digidol: Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan
12 & 13 o Chwefror 2020, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth.
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Gwybodaeth Defnyddiol | Cofrestru | Sylwadau | Blog | Stondinau Arddangosfa | Nawdd
06/02/2020