
Gorffennol Digidol: Ein Noddwyr 2018
Bydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn ymdrechu’n galed i gadw ei chynhadledd Gorffennol Digidol mor fforddiadwy â phosibl. Gwyddom ei bod hi’n aml yn anodd dod o hyd i’r adnoddau i fynychu cynadleddau, felly bob blwyddyn rydym yn ddiolchgar iawn i’n noddwyr sy’n ein galluogi i gynnal digwyddiad sy’n werth da am arian i’n cynadleddwyr.
Ein noddwyr Aur eleni yw FARO® a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Cafodd FARO® ei sefydlu ym 1981 ac erbyn heddiw fe’i cydnabyddir drwy’r byd am ei dechnoleg mesur, delweddu a sylweddoli 3D. Bydd y cwmni’n datblygu ac yn gweithgynhyrchu datrysiadau arloesol i amrywiaeth o ddiwydiannau ym maes cipio, mesur a dadansoddi 3D trachywir. Mae hyn yn cynnwys datrysiadau a llifoedd gwaith ar gyfer dogfennu adeiladau hynafol, henebion, cerfluniau a chloddiadau mewn 3D. Mae’r offer hyn yn helpu haneswyr ac archaeolegwyr i gipio, rheoli a dadansoddi data ‘fel y’i hadeiladwyd’ hanesyddol yn effeithlon, gan ddangos safleoedd hanesyddol fel yr oeddynt yn y gorffennol. Bydd David Fowkes a David Southam ar gael yn ystod dau ddiwrnod y gynhadledd i roi cyngor ac ateb cwestiynau am eich anghenion arolygu – dewch i’w gweld ar stondin FARO®!
Cronfa Dreftadaeth y Loteri yw’r cyllidwr un-pwrpas mwyaf ym maes treftadaeth yn y DU ac yn ddadleuwr blaenllaw dros werth ein treftadaeth. Mae’n gyfrifol am ddosbarthu’r arian a roddir gan y Loteri Genedlaethol at bwrpas cefnogi treftadaeth, a rhoddwyd £7.7 biliwn i 42,000 o brosiectau ers ei sefydlu ym 1994. Mae’r prosiectau hyn yn amrywio o adfer tirweddau naturiol i achub adeiladau a esgeuluswyd, ac o gofnodi hanesion cymunedol i ddarparu hyfforddiant sy’n newid bywydau. Mae CDL wedi ymrwymo i sicrhau bod ein treftadaeth yn cael ei diogelu ac yn hygyrch i bawb. Bydd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cymru, yn cynnal gweithdy yn y gynhadledd a fydd yn cynnwys ymgynghori ar strategaeth newydd CDL. Hefyd bydd gan CDL stondin lle atebir eich holl gwestiynau am brosiectau a chyllid CDL.
I gael mwy o wybodaeth am ein holl noddwyr a’n pecynnau nawdd, ewch i wefan Gorffennol Digidol.
Diolch o galon i’n holl noddwyr am eu cefnogaeth!
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Gwybodaeth Defnyddiol | Cofrestru | Sylwadau | Blog | Stondinau Arddangosfa | Cynnig
01/24/2018