
Gorffennol Digidol yn croesawu dychweliad 3deep
Mae 3deep Media yn adnabyddus am ei waith modelu arloesol o safon uchel ar longddrylliadau hanesyddol a safleoedd tanddwr eraill ac am ddarparu profiadau ymgollol. Seiliwyd un o’r prif gyflwyniadau yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013 ar waith y cwmni ar longddrylliadau Scapa Flow.
Yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2017, bydd Mike Postons yn dychwelyd i drafod menter ddiweddaraf y cwmni, 3deep Aerial. Gan fynd ag arbenigedd y cwmni ym meysydd arolygu, mapio a thwristiaeth rithwir i’r awyr, bydd Mike yn trafod datblygiad ffotograffiaeth ddrôn wrth greu teithiau awyr 360°, dehongli ail-greu a mapio orthograffig. Cyflwynir peth o waith diweddar 3deep Aerial, gan ganolbwyntio’n benodol ar y diwydiant mwyngloddio ar hyd arfordir Cernyw.
Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
12/16/2016