
Gorffennol Digidol yn mynd ar-lein fel digwyddiad di-dâl
Dydd Mercher 10 Chwefror 2021: Cynhadledd
8-12 Chwefror 2021: Gweithdai
Gorffennol Digidol 2021: Technolegau Newydd ym meysydd Treftadaeth, Dehongli ac Estyn-allan
Am y tro cyntaf, fe fydd ein Cynhadledd Gorffennol Digidol reolaidd yn ddigwyddiad ar-lein di-dâl, a bydd felly’n fwy hygyrch nag erioed o’r blaen. Gorffennol Digidol yw cynhadledd flynyddol lwyddiannus y Comisiwn Brenhinol sy’n rhoi sylw i’r technolegau digidol arloesol diweddaraf a ddefnyddir i gofnodi, cyflwyno a dehongli treftadaeth yng Nghymru, y DU a thu hwnt.
Yn lle’r digwyddiad deuddydd arferol, bydd cynhadledd 2021 yn dilyn y drefn ganlynol: diwrnod o sgyrsiau ar Ddydd Mercher 10 Chwefror, a gweithdai rhwng 8 a 12 Chwefror 2021. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws byth i chi fynychu digwyddiadau sydd o ddiddordeb arbennig i chi a byddwch chi’n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o sgyrsiau, trafodaethau, a gweithdai arbenigol.
Y themâu ar gyfer cynhadledd 2021 fydd ‘Technoleg Ddigidol’ a ‘Treftadaeth Ddigidol’, a’r prif bynciau fydd:
- Mynediad rhithiol i dechnoleg
- Amrywiaeth mewn treftadaeth ddiwylliannol ddigidol
- Treftadaeth ddigidol, yr amgylchedd a newid hinsawdd.
Mae’r gynhadledd Gorffennol Digidol yn dwyn ynghyd arbenigwyr o’r sectorau masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol ac o’r trydydd sector. Nod y gynhadledd yw hyrwyddo dysgu a thrafod mewn perthynas ag amrywiaeth o dechnolegau digidol a ddefnyddir ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu datblygu, i gofnodi a deall yr amgylchedd hanesyddol.
I gael gwybodaeth am y siaradwyr a’r rhaglen, ewch i: Siaradwyr a Chrynodebau.
I gofrestru, ewch i: Cofrestru.
Mae tocynnau ar gael nawr ar gyfer y gynhadledd undydd ar Ddydd Mercher 10 Chwefror ac ar gyfer y gweithdai unigol a gynhelir yn ystod yr wythnos 8-12 Chwefror 2021.




12/15/2020