CBHC / RCAHMW > Newyddion > Gorsaf Reilffordd Aberystwyth: Atgofion a Chasgliad Rokeby gan Reina van der Wiel
Black-and-white photograph of the interior of Aberystwyth Railway station, from our Rokeby Collection

Gorsaf Reilffordd Aberystwyth: Atgofion a Chasgliad Rokeby gan Reina van der Wiel

Ffotograff du a gwyn o du mewn Gorsaf Reilffordd Aberystwyth, o Gasgliad Rokeby y Comisiwn
Ffotograff du a gwyn o du mewn Gorsaf Reilffordd Aberystwyth, o Gasgliad Rokeby y Comisiwn

Mae’r ffotograff du a gwyn hwn o du mewn Gorsaf Reilffordd Aberystwyth yn dod o Gasgliad Rokeby.

Roedd y Parch. Hubert Denys Eddowes Rokeby yn dwli ar reilffyrdd a cheir yn y casgliad ffotograffau a chardiau post du a gwyn o bob gorsaf ac arhosfa yng Nghymru rhwng 1950 a 1969.

* (Roedd ei waith yn cwmpasu’r cyfan o’r DU mewn gwirionedd ond cafodd y casgliad ei rannu rhwng y tri Chomisiwn Brenhinol (bryd hynny) – Yr Alban, Cymru a Lloegr.) Cedwir y casgliad Cymreig yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae ar ffurf naw albwm, y mae rhai ohonynt yn cynnwys mapiau sy’n dangos llwybr y rheilffyrdd.

Yn ogystal â bod yn ddelwedd drawiadol, sy’n dangos yn union sut yr oedd yr orsaf yn edrych yng nghanol yr ugeinfed ganrif, mae Gorsaf Reilffordd Aberystwyth yn agos iawn at fy nghalon. Symudais i Aberystwyth ym mis Ionawr 2015 ond am y flwyddyn gyntaf (hyd nes i mi ddechrau gwaith yn y Comisiwn Brenhinol ym mis Ionawr 2016) bûm yn gweithio yn Llundain, lle buom yn byw gynt. Bob bore Mawrth am 5.10am byddai fy ngŵr a minnau’n cerdded i’r orsaf er mwyn i mi ddal y trên am 5.30am. Gallech feddwl bod hyn yn amser tawel o’r dydd – ond meddyliwch eto: yn Aberystwyth rydych chi’n cael cwmni gwylanod sgrechlyd! Er na allaf ddweud fy mod i’n gweld eisiau’r daith gymudo 5 awr, pryd bynnag y byddaf yn gweld y llun hwn mae’n fy atgoffa o’m blwyddyn gyntaf yn Aber. Fel llawer un o’m blaen, teimlais yn gartrefol yn syth wrth roi fy nhroed ar y platfform am y tro cyntaf.

* Nid oes dyddiad ar y ffotograff hwn, felly rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw syniad pryd y cafodd ei dynnu!

Gan Reina van der Wiel, Rheolwr Llywodraethu a Risg

07/07/2020

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x