
Grym Data Agored
Mae’n bron 20 mlynedd ers i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddechrau digido ei chasgliadau. O ganlyniad mae cannoedd ar filoedd o eitemau digidol wedi’u harchifo erbyn hyn. Yn sgil newid mawr mewn polisi mynediad agored, a phenodi Wicipediwr Preswyl yn 2015, mae’r Llyfrgell wedi dechrau rhannu miloedd o’i delweddau digidol ar Flickr, cyfryngau cymdeithasol a Wikipedia Commons.
Yn ogystal ag ennill cryn sylw i’r casgliadau – maen nhw wedi’u cysylltu ag erthyglau Wicipedia mewn mwy na 70 o ieithoedd ac wedi cael eu gwylio bron 33 miliwn o weithiau – mae hyn wedi’i gwneud hi’n bosibl i’r deunydd gael ei ddefnyddio a’i ddelweddu mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2017 bydd Jason Evans, Wicipediwr Preswyl LlGC, yn trafod ffyrdd o ddelweddu, cysylltu a gweithio gyda’r data er mwyn gwneud casgliadau’r Llyfrgell yn fwy hygyrch a defnyddiol.
Archebwch eich tocyn Gorffennol Digidol yn awr
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
21/12/2016