
Gwaith Cyfnerthu ar un o Dai Hynaf Ceredigion

Y Neuadd, Tŷ Tuduraidd Diweddar yn Llan-non, Ceredigion.
Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd gwaith cyfnerthu’n parhau ar safle’r Neuadd, y tŷ Tuduraidd Diweddar yn Llan-non. Mae Richard Suggett, hanesydd pensaernïol ac uwch-ymchwilydd tîm arolygu’r Comisiwn Brenhinol, yn awgrymu i’r tŷ carreg tair-uned sydd â simnai ystlysol gael ei adeiladu rhwng 1550 a 1575, a’i fod felly’n un o’r tai hynaf yng Ngheredigion.
Dan oruchwyliaeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, mae llawer o waith wedi’i wneud ar y safle i gael gwared â llystyfiant a bron 70 tunnell fetrig o rwbel, fel bod modd gweld y nodweddion sydd wedi goroesi yn glir. Mae’r rhain yn cynnwys porth croes-gyntedd, braced lamp, lle tân ystlysol (wedi’i ailwynebu yn y cefn), ac agoriadau ffenestr.
Ar 27 Gorffennaf fe gynhelir Diwrnod Agored Cloddiad Cymunedol rhwng 11am a 4pm. Bydd y Comisiwn Brenhinol yn ymuno ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ac Amgueddfa Ceredigion ar gyfer Diwrnod Agored yn Nhŷ Tuduraidd Y Neuadd ac Amgueddfa’r Bwthyn yn Llan-non. Fe fydd amrywiaeth o weithgareddau wedi’u seilio ar y cloddiadau cymunedol a bydd y digwyddiadau’n cynnwys sgwrs ar y safle gan Richard Suggett.

Lle tân ystlysol wedi’i gau o’r unfed ganrif ar bymtheg.
Manylion y safle: Y Neuadd www.coflein.gov.uk
Coflein yw cronfa ddata ar-lein gyhoeddus CHCC, y gellir ei chwilio’n ddaearyddol drwy fapiau Arolwg Ordnans neu ymholiadau testun.
Erthygl gan Charles Green, Swyddog Graffigwaith, Tîm Ymgysylltu â’r Cyhoedd.
05/23/2013