Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) sy’n dal y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru o’r cyfnodau cynharaf hyd heddiw.
Mae bron i 2 filiwn o ffotograffau a miloedd ar filoedd o luniadau, arolygon, adroddiadau a mapiau yn y casgliadau hyn:
Prif gyfres y ffeiliau o gofnodion: ceir ynddi ffotograffau, lluniadau, adroddiadau, gohebiaeth, ac ati.
Y casgliad o luniadau: mae’n cynnwys dros 11,000 o luniadau o lawer math.
Y casgliad o negyddion ffotograffig: mae’n cynnwys rhyw 1.5 filiwn o negyddion ac, yn eu plith, enghreifftiau hanesyddol bwysig, a bregus, o dechnegau ffotograffig cynnar.
Y casgliadau o awyrluniau: mae ynddynt dros 500,000 o ffotograffau, gan gynnwys rhai fertigol a lletraws. Daw’r ffotograffau o raglen hedfan y Comisiwn Brenhinol ei hun ac o ffynonellau mawr eraill, gan gynnwys yr Arolwg Ordnans a’r Awyrlu Brenhinol a’r casgliad Aeroffilmiau.
Mapiau’r Arolwg Ordnans: delir rhyw 30,000 o fapiau graddfa-fawr. Maent yn ymwneud â Chymru gyfan mewn sawl argraffiad ac ar amrywiol raddfeydd.
Casgliadau arbennig: yn ogystal â’r casgliadau cyffredinol, mae yma lu o gasgliadau arbennig a roddwyd, neu a roddwyd ar fenthyg, gan sefydliadau eraill ac unigolion, neu sy’n ffrwyth prosiectau penodol CBHC.
Yr archif digidol: dyma gasgliad cynyddol o ffotograffau, testunau ac arolygon digidol a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Brenhinol neu ffynonellau allanol. Lle bynnag y bo modd, trefnir iddynt fod yn uniongyrchol hygyrch drwy Coflein.
Casgliadau’r Llyfrgell: mae gan CHCC hefyd lyfrgell arbenigol, a’i nod yw darparu ffynonellau cyhoeddedig i gydategu’r wybodaeth anghyhoeddedig sydd ar gael yn yr archif.
Chwiliwch Coflein i ddod o hyd i wybodaeth am safle penodol a chofnodion archifol cysylltiedig.