Croeso i’n Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil.
Diogelu iechyd, diogelwch a llesiant ein staff ac ymwelwyr yw ein prif flaenoriaeth. Felly a fyddech cystal â darllen y canllawiau hyn yn ofalus cyn dod.
Er diogelwch a chysur ein staff ac ymwelwyr byddwn yn cyfyngu ar nifer y bobl a all fod yn ein Hystafell Ymchwil er mwyn sicrhau pellter cymdeithasol a byddwn yn gofyn i ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb. Yn ogystal, fe weithredir y rheolau trin dogfennau archifol arferol.
Rydym ni ar agor ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Iau rhwng 9:30 a 16:00, ac ar Ddydd Mercher rhwng 10:30 a 16:30.
Os ydych chi am weld awyrluniau, deunydd am fwy nag un safle, neu gryn dipyn o ddeunydd archifol, byddwch cystal â chysylltu â Gwasanaeth Llyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau’r Comisiwn Brenhinol i wneud apwyntiad o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn dyddiad eich ymweliad, gan restru’r eitemau yn y llyfrgell ac archif yr ydych am eu gweld.
Dim ond 3 ymwelydd ar y mwyaf a fydd yn cael mynediad ar unrhyw adeg. Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig, rhowch wybod i ni wrth drefnu’ch ymweliad.
Mae croeso i chi ddefnyddio’r Llyfrgell a gweld peth deunydd archifol heb wneud apwyntiad os oes llai na 3 ymwelydd yn yr ystafell ymchwil.
I drefnu’ch ymweliad, neu os hoffech gael cymorth i ddewis dogfennau, cysylltwch â ni.
Cysylltwch â ni:
Ffôn: 01970 621200
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Chwiliwch gatalog ein harchif yn www.coflein.gov.uk a chatalog ein llyfrgell yn https://rcahmw.koha-ptfs.co.uk/.
Er diogelwch ein staff ac ymwelwyr, mae mesurau yn eu lle i leihau i’r eithaf y perygl o drosglwyddo heintiadau.
Byddwn yn sicrhau bod y Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil yn cael ei hawyru’n naturiol yn ystod eich ymweliad, a byddwn yn rheoli nifer yr ymwelwyr sydd yno ar unrhyw un adeg.
Yn ogystal, mae gofyn i bob aelod staff a defnyddiwr llyfrgell wisgo gorchudd wyneb ar bob adeg. Felly bydd angen i chi wisgo masg wyneb yn Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn Brenhinol drwy gydol eich ymweliad a hynnyer eich diogelwch chi eich hun a diogelwch ymwelwyr eraill a’n staff
Os nad ydych chi’n gallu gwisgo masg am resymau iechyd, cewch eich esgusodi rhag gwneud, ond bydd gofyn i chi ddod â feisor gyda chi i’w wisgo drwy gydol eich ymweliad.
Cyfrifoldeb cyfreithiol yw hwn yn sgil y rhwymedigaethau sydd arnom o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 a Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999, felly ni chaniateir i ymwelwyr nad ydynt yn gwisgo masg wyneb neu feisor ddod i mewn i’r Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil.
Darllenwch ein Datganiad ar Ddefnyddio Gorchuddion Wyneb yma.
Er eich diogelwch eich hun a diogelwch ein staff ac ymwelwyr eraill, gofynnwn i chi gadw pellter o 2 fetr (6.5 troedfedd) rhyngoch chi a defnyddwyr eraill yn y Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil.
Darperir diheintydd dwylo yn y fynedfa i’r Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil. Byddwch cystal â diheintio’ch dwylo cyn dod i mewn.
DS. Os oes gennych unrhyw symptomau salwch ar ddiwrnod eich apwyntiad, neu os na allwch ddod, byddwch cystal â chysylltu â ni i ohirio neu aildrefnu.
Bydd yn bosibl cyrchu terfynellau cyfrifiadur yn yr Ystafell Ymchwil at bwrpas gwneud ymchwil sylfaenol, edrych ar ein catalogau a chyrchu systemau GIS.
Gofynnwn i chi ddod â’ch gliniadur eich hun gyda chi os oes modd. Bydd mynediad llawn i Wi-Fi.
Byddwch cystal â nodi na chewch ddefnyddio’r cyfleusterau cyfrifiadurol a rhwydwaith diwifr a ddarperir gan CBHC i gyrchu neu edrych ar ddeunydd anweddus neu ddeunydd arall a allai dramgwyddo defnyddwyr eraill.
Gofynnwn i chi fod yn ystyriol ac yn barod i gydweithredu pan fyddwch yn ymweld â ni, a thrafod unrhyw broblemau’n agored â’r staff fel y gellir ymdrin â nhw mewn ffordd gadarnhaol a chwrtais.
Byddwch cystal â thrin ein staff ac ymwelwyr â pharch ar bob adeg.
Bydd disgwyl i bawb gydymffurfio â’r rheolau hyn ac os na fyddwch yn gwneud hynny fe ofynnir i chi adael yr adeilad.
Diolch
10/03/2022