Bydd Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn croesawu ymholiadau gan unigolion a sefydliadau sy’n ymddiddori yn yr holl amrywiaeth o agweddau ar dreftadaeth Cymru. Er enghraifft:
Gallwch ymgynghori â Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru drwy Coflein; a gwneud cais am ddeunydd drwy lenwi’r ffurflen ymholi ar-lein.
Gallwch hefyd gysylltu’n uniongyrchol â’n gwasanaeth ymholiadau cyhoeddus dros y ffôn, e-bost neu’n bersonol yn ein llyfrgell ac ystafell chwilio yn Aberystwyth. Bydd y staff arbenigol yno’n chwilio ein cronfeydd data a’n deunydd archifol i roi gwybodaeth a chymorth i ateb eich ymholiad ac yn sôn wrthych am unrhyw wybodaeth berthnasol a all fod yn yr archif.
Mae ein llyfrgell gyfeirio arbenigol yn cynnwys llyfrau a chyfnodolion y cewch chi ymgynghori â hwy yn ystod yr oriau agor cyhoeddus. Mae modd prynu copïau o ddeunydd o’r archif yn y fan a’r lle yn y Comisiwn Brenhinol neu drwy ddefnyddio ffurflen archebu y gwasanaeth ymholiadau .
Gall cyfyngiadau hawlfraint fod ar beth o’r deunydd. Gellir trefnu i grwpiau addysg a grwpiau â diddordeb arbennig ymweld i gael golwg ar ddeunydd sydd wedi’i ddethol o’r casgliadau archifol.
Bydd aelodau o’r staff hefyd yn rhoi darlithiau a sgyrsiau i grwpiau a chymdeithasau.
Rydym yn darparu gwasanaethau dwyieithog.