Amddiffynnir deunydd sy’n cael ei ddarparu gan Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) gan gyfraith hawlfraint. Dylid gwneud ceisiadau am drwydded gan ddefnyddio’r Ffurflen Archebu ar lein at https://cbhc.gov.uk/cysylltu-a-ni/ neu gan lenwi’r Ffurflen Archebu (LES08) ac anfon i chc.cymru@cbhc.gov.uk. Sylwer os gwelwch yn dda: mae’n bosibl y bydd angen i chi gael caniatâd y sawl sy’n dal yr hawliau os yw’r hawlfraint yn perthyn i drydydd parti ac os yw’r eitem yn dal dan hawlfraint. Chi sy’n gyfrifol am gael caniatâd mewn perthynas â’r eitem neu eitemau rydych chi’n dymuno ei/eu defnyddio.
Ni ddylai deunydd gael ei atgynhyrchu ar unrhyw ffurf, ei werthu na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben heblaw am ymchwil breifat, nes y byddwch wedi cael trwydded.
£15 i £35 |
£25 i £150 |
Os bydd mwy na 5000 yn cael eu hargraffu, ychwanegwch 25%.
Addysgol, anfasnachol | Am ddim |
Masnachol | £45 |
Anfasnachol | Am ddim |
Masnachol (gyda thâl mynediad) | £20 i £50 |
Achosion cyfreithiol | £20 |
Darlledu a ffrydio yng Nghymru neu’n rhanbarthol: am bob delwedd | £50 i £170 |
Darlledu a ffrydio ar rwydwaith y DU: am bob delwedd | £60 i £180 |
Darlledu a ffrydio ledled y byd: am bob delwedd | £70 i £200 |
Mae’n bosibl y bydd cyfraddau arbennig ar gael i gwmnïau sy’n defnyddio mwy na 5 delwedd.
Os oes angen dyfynbris arnoch ar gyfer unrhyw ddefnydd arall, cysylltwch â’r Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau yn y cyfeiriad uchod.
Bydd anfoneb yn cael ei hanfon ar ôl cadarnhau ffi’r drwydded. Dylid talu’r swm sy’n ddyledus cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael anfoneb.
Gellir talu drwy BACS, â cherdyn credyd neu ddebyd, neu â siec sy’n daladwy i ‘Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru’.
Codir prisiau yn unol â Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2015 a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.