Rhestr Brisiau

Sylwch fod cyfraith hawlfraint yn diogelu deunydd a gyflenwir o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Cyflenwir copïau o eitemau o’r casgliad at ddibenion ymchwil breifat yn unig o dan ein ‘Telerau ac Amodau ar gyfer defnyddio Gwybodaeth o CHCC’(LES18). Os dymunwch atgynhyrchu’r deunydd mewn unrhyw fformat neu ddefnyddio’r deunydd yn fasnachol, bydd angen i chi ofyn am ganiatâd drwy lenwi ein ‘Ffurflen Archebu’ (LES08).

Ffioedd chwilio

Chwiliadau safonol (hyd at 15 diwrnod gwaith)Am ddim
Chwiliadau cymhleth (e.e. 3 safle neu fwy) a/neu grynodeb o gynnwys (cynnwys ffeil/ffolder) – Uchafswm o 3 awr
    Anfasnachol£20.00 am bob hanner awr
    Masnachol£50.00 am bob hanner awr
Chwiliadau am awyrluniau£20.00 am bob safle/ardal
Gwasanaeth chwilio â blaenoriaeth (hyd at ddau ddiwrnod gwaith)£75.00

Rhaid cael taliad am chwiliad â blaenoriaeth cyn i’r chwiliad gychwyn, a rhaid talu amdano hyd yn oed os na ddeuir o hyd i unrhyw ganlyniadau. D.S. Mae’r gwasanaeth hwn yn amodol ar argaeledd.

Gwasanaethau copïo (am bob copi)

Codir isafswm o £5 am unrhyw nwyddau neu wasanaethau (ar wahân i gopïau a brynir yn yr Ystafell Chwilio).

Llungopïau: hyd at A3£1.00 am bob copi
Sganiau llungopïwr cydraniad isel: hyd at 1050c am bob sgan
Sganiau llungopïwr cydraniad isel: 11+£1.00 am bob sgan
Ffotograff cydraniad isel, a dynnir gan y staff ac sydd o safon addas ar gyfer ymchwil£2.00
Gwasanaeth digido proffesiynol (hyd at 15 diwrnod gwaith)
    Delwedd ddigidol sy’n bodoli eisoes (Maint ffeil mwyaf JPEG)£10.00
    Sgan newydd (Maint ffeil mwyaf JPEG)£20.00

D.S. Ni fydd dogfennau’n cael eu copïo os yw’r eitem yn rhy fawr, os yw mewn cyflwr bregus, neu os oes cyfyngiadau hawlfraint yn berthnasol.

Setiau data digidol

Mae data sylfaenol gwefan Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ar gael i’w lawrlwytho am ddim dan y Drwydded Llywodraeth Agored, o Cymru Hanesyddol

Os hoffech i ni ddarparu detholiad wedi’i deilwra o’r data dylech lenwi ffurflen archebu ac, os oes modd, anfon ‘ffeil siâp’ System Gwybodaeth Ddaearyddol atom drwy ebost.

Gellir cyflenwi gwybodaeth yn y fformatau canlynol: Ffeil Testun, MS Access, MS Excel neu ‘Ffeil Siâp’ System Gwybodaeth Ddaearyddol. Mae’n bosibl y gallai fformatau eraill a setiau data mawr fod ar gael drwy drefniant.

Cofnod sylfaenol ynghyd â disgrifiad os oes un ar gael     £100.00 am bob 500 cofnod

Ymweliadau gan grwpiau

Rydym yn croesawu ymweliadau â’r Llyfrgell a’r Ystafell Chwilio gan grwpiau, a drefnir ymlaen llaw. Byddant fel rheol yn para rhwng awr a dwy awr a byddant yn cynnwys sgyrsiau, arddangosfa o ddeunydd yr archif, a thaith o gwmpas ystafelloedd diogel ein harchif.

Rydym hefyd yn cynnig ymweliadau a sgyrsiau rhithiol ar gyfer grwpiau, y gellir eu teilwra i ddiddordebau grŵp unigol.

Yn y gorffennol, rydym wedi cael ymweliadau gan ysgolion, prifysgolion, grwpiau ieuenctid, grwpiau hanes lleol a hanes teulu, grwpiau sydd â diddordeb arbenigol, cymdeithasau dinesig a chyrff proffesiynol. Mae croeso i bawb.

Am ddim, yn amodol ar argaeledd. Cysylltwch â ni i drafod.

Sesiynau ymgynghori un i un drwy Zoom neu Microsoft Teams

Os na allwch ymweld â’n Llyfrgell a’n Hystafell Chwilio yn bersonol, gallwch drefnu sesiwn ymgynghori un i un ar-lein gydag aelod o staff drwy Microsoft Teams neu Zoom.

Yn ystod y sesiynau hyn, byddwn yn barod i drafod eich ymchwil â chi ac argymell ffynonellau o’n llyfrgell a’n harchif, a/neu ddangos y dogfennau i chi a’ch helpu i ddewis yr eitemau/tudalennau y byddech yn hoffi cael copïau ohonynt.

D.S. Ni allwn chwilio drwy ddogfennau ar eich rhan neu ddarllen darnau ohonynt yn uchel yn ystod y sesiwn ymgynghori rithiol. Cysylltwch â ni os hoffech gomisiynu chwiliad neu os bydd angen gwybodaeth fanwl o’r fath arnoch.

Oherwydd yr amser sydd ar gael, dim ond nifer gyfyngedig o ddogfennau y byddwn yn gallu eu dangos i chi. Ni fyddant yn cael eu dal i fyny neu’u trin mewn unrhyw ffordd a allai achosi difrod iddynt.

Rhaid archebu dogfennau ymlaen llaw ac ni ellir eu cyrchu yn ystod y sesiwn.

Gellir trefnu sesiynau bob dydd Gwener. Cysylltwch â ni i gael y manylion.

Sesiwn ymgynghori un i un am 40 munud gydag aelod o staff£45

Codir prisiau yn unol â Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2015 a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.


Talu

Codir isafswm tâl o £5 am bob nwydd a gwasanaeth (heblaw am gopïau a brynir yn yr Ystafell Ymchwil).

  • Rhaid i ni dderbyn y tâl neu archeb brynu cyn y bydd y nwyddau’n cael eu hanfon.
  • Dylid talu’r swm sy’n ddyledus cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael anfoneb.
  • Dylid gwneud sieciau’n daladwy i ‘Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru’.
  • Derbynnir y cardiau credyd neu ddebyd canlynol: Mastercard, Maestro, Visa, Visa Electron.
  • Ni chodir TAW.

Disgownt addysgol

Disgownt addysgol: gall myfyrwyr sydd â cherdyn myfyriwr dilys hawlio disgownt o 20% (heb gynnwys cludiant a phacio).


Archebu deunydd a gwneud cais am drwydded

Dylid gwneud pob archeb gan ddefnyddio’r Ffurflen Archebu ar lein at https://cbhc.gov.uk/cysylltu-a-ni/ gan restru’r deunydd, y fformat gofynnol a’r defnydd bwriadol.  Yna, gellir darparu dyfynbris a rhoi cytundeb trwydded yn ôl yr angen. Mae’r ffurflen archebu ar gael ar ein gwefan https://cbhc.gov.uk/gwasanaethau/gwasanaethau-ymholiadau/ neu gan Wasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Mae’n bosibl y bydd angen talu Ffi Trwydded ychwanegol am atgynhyrchu deunydd, yn enwedig at ddibenion masnachol sy’n cynnwys cyhoeddi. Gweler ein dogfen ‘Ffïoedd Trwydded’ (LES17) neu cysylltwch â Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru i gael gwybodaeth am y taliadau presennol.

Caiff deunydd ei gyflenwi at ddefnydd personol dan y Drwydded Llywodraeth Anfasnachol neu dan ein dogfen ni ynghylch ‘Telerau ac Amodau Defnyddio Gwybodaeth o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru’ (LES18).

D.S. Ni fydd dogfennau’n cael eu copïo os yw’r eitem yn rhy fawr, os yw mewn cyflwr bregus, neu os oes cyfyngiadau hawlfraint.


Tweets