Mae 4 lle parcio wedi’u neilltuo yn y maes parcio sy’n cael ei rannu â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wrth ochr yr adeilad, wrth y groesfan.
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi’i leoli yn adeiladau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae prif fynedfa Llyfrgell Genedlaethol Cymru (a leolir ym mlaen yr adeilad) yn hollol hygyrch gyda ramp a drws awtomatig.
Mae Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn Brenhinol ar y llawr cyntaf (Lefel 0). O’r brif fynedfa, cymerwch y tro cyntaf i’r dde ac ewch i fyny’r grisiau. Yn y man lle mae’r staff diogelwch mewn iwnifform trowch i’r dde, ewch i fyny’r coridor, a byddwch yn dod o hyd i’n Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil ar y dde ychydig cyn cyrraedd Ystafell Ddarllen y Gogledd.
Os yw’n well gennych ddefnyddio’r lifft, gweler isod.
Mae lifft wedi ei leoli i’r dde (wrth siop y Llyfrgell Genedlaethol) wedi i chi ddod i mewn i’r adeilad. Mae Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn Brenhinol ar Lefel 0.
Ar ôl dod allan o’r lifft, cymerwch y tro cyntaf i’r dde gan ddilyn y carped coch, yna trowch i’r chwith lle mae’r staff diogelwch mewn iwnifform. Ewch i fyny’r coridor a byddwch yn dod o hyd i’n Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil ar y dde ychydig cyn cyrraedd Ystafell Ddarllen y Gogledd.
Mae croeso i ymwelwyr ddod â’u cŵn cymorth i Lyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn Brenhinol ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae dŵr ar gael i gŵn wrth fynedfa llawr gwaelod y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae 3 cadair olwyn ar gael at ddefnydd y cyhoedd, o’r fynedfa ar y llawr gwaelod.
Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn Brenhinol cyn eich ymweliad, er y bydd staff ar gael yn ystod ein horiau agor os bydd angen cymorth arnoch.
Cysylltwch â ni ar 01970 621 000 neu 01970 621 209.
Mae 3 thoiled mynediad arbennig wedi’u lleoli o gwmpas y Llyfrgell Genedlaethol:
Y toiled ar y llawr gwaelod (Lefel 0) sydd agosaf at ein Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil.
Mae gan y Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil gyfarpar i helpu ymwelwyr i ddefnyddio’r adnoddau:
Mae bwyty Pen Dinas wedi’i leoli ar y llawr gwaelod ar y dde i’r fynedfa. Mae ar agor rhwng 9:30 a 4:30, ac yn darparu brecwast, cinio a the prynhawn.
Rhaid rhoi pob cot a bag mewn un o’r loceri a ddarperir. Mae angen darn £1 i agor locer, a fydd yn cael ei ad-dalu pan ewch i nôl eich eiddo.
Dylid dweud am unrhyw ddamweiniau neu salwch wrth naill ai staff Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn Brenhinol neu aelod o staff diogelwch mewn iwnifform y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae’r larwm tân yn seinydd electronig di-dor. Dylai darllenwyr ac ymwelwyr adael yr adeilad trwy’r allanfa agosaf neu fel y mae aelodau o’r staff yn cyfarwyddo. Dylid dilyn yr arwyddion gwyrdd EXIT gan fynd allan i’r teras gwaelod o flaen y Llyfrgell Genedlaethol trwy’r drysau ar y llawr gwaelod. Peidiwch â defnyddio’r lifft o dan unrhyw amgylchiadau pan fydd y larwm tân yn seinio.
Mewn achos o argyfwng/gwagio’r adeilad ar frys, dylai ymwelwyr anabl adael y Llyfrgell trwy’r un drws ag y daethant i mewn, sef y fynedfa ar y llawr gwaelod, os yw’n ddiogel i wneud hynny.
Os oes ymwelwyr anabl ar y llawr cyntaf (Lefel 0), ni ddylent fynd i mewn i’r lifftiau o dan unrhyw amgylchiadau; dylent aros ar y llawr gwaelod a hysbysu aelod o’r staff o’u presenoldeb. Mae cadeiriau arbennig ar gael i’w defnyddio mewn argyfwng.
Os yw defnyddiwr cadair olwyn ar y llawr cyntaf (Lefel 0), dylai hysbysu aelod o’r staff o’i bresenoldeb a bydd yn cael ei hebrwng i un o’r mannau llochesu dynodedig: