Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi’i leoli yn adeiladau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Y cyfeiriad llawn yw Ffordd Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU. Ein rhif ffôn yw 01970 621 200.
(I lawrlwytho’r ddogfen hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: Dod o Hyd i Ni.)
Mae cyfleusterau llyfrgell ac ymholiadau’r Comisiwn Brenhinol wedi’u lleoli ar y llawr cyntaf (lefel 0), ychydig cyn cyrraedd Ystafell Ddarllen y Gogledd yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i’r Comisiwn Brenhinol.
Mae’r ddogfen ‘dod o hyd i’ch ffordd’ hon wedi’i rhannu’n bedair adran:
1. Mewn car
2. Ar fws
3. Ar droed
4. Yn yr adeilad
a. Yn y lifft
b. I fyny’r grisiau
I lawrlwytho’r ddogfen ‘dod o hyd i’ch ffordd’ hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: Sut i Ddod o Hyd i Ni
Os ydych chi’n gyrru i fyny allt Penglais (A487, o’r dref), mae’r tro i’r Llyfrgell ar y dde ar ôl Ysbyty Bronglais.
h
h
Os ydych chi’n gyrru i lawr allt Penglais (A487), mae’r tro i’r Llyfrgell Genedlaethol ar yr ail chwith ar ôl Campws Prifysgol Aberystwyth.
h
Dilynwch y ffordd…
…a throwch tuag at ochr dde adeilad y Llyfrgell.
Mae’r maes parcio ar y dde.
Ar ôl parcio, cerddwch yn ôl yr un ffordd ag y daethoch i du blaen yr adeilad.
Fe welwch arwydd glas gyda chyfarwyddiadau yno.
Mae llwybr troed yn arwain at du blaen yr adeilad.
Ar ôl cyrraedd y tu blaen, fe welwch arwydd y Comisiwn Brenhinol, potiau planhigion a’r drws ffrynt.
Gallwch fynd at y fynedfa drwy fynd i fyny’r grisiau (ar y chwith) neu’r ramp (ar y dde).
Mae arwydd ‘Mynedfa | Entrance’ uwchben y drws ffrynt.
Os cymerwch y bws (gwasanaeth 03) i’r Llyfrgell, byddwch chi’n mynd i lawr (ac yn ei ddal) ger y maes parcio.
Dilynwch y cyfarwyddiadau o’r maes parcio uchod.
Os na allwch fynd i fyny grisiau, dilynwch y lôn yr holl ffordd o gwmpas i ochr dde adeilad y Llyfrgell a dilynwch y cyfarwyddiadau o’r maes parcio uchod.
Os cyrhaeddwch y Llyfrgell ar droed, ewch i fyny’r grisiau o’r briffordd.
Mae’r brif fynedfa ar ochr dde tu blaen yr adeilad.
Wrth yr ail set o risiau, ewch i fyny a dilynwch y grisiau i’r dde.
Fe welwch ‘garreg’ y Llyfrgell Genedlaethol ar y chwith, yna’r drws ffrynt.
Gallwch gyrraedd y fynedfa drwy fynd i fyny’r grisiau (ar y chwith) neu’r ramp (ar y dde).
Mae arwydd ‘Mynedfa | Entrance’ uwchben y drws ffrynt.
Y tu mewn i’r adeilad, trowch i’r chwith ac ewch drwy’r drysau cylchdroi.
Fe welwch dderbynfa’r Llyfrgell Genedlaethol ar y chwith.
hh
Os na allwch fynd i fyny’r grisiau, mae’r lifft ar y dde, wrth ymyl y coridor i Café Pen Dinas.
hh
Rydych chi ar Lefel -1 neu’r Llawr Gwaelod Isaf (LG).
Mae’r Ystafelloedd Darllen ar Lefel 0 neu ar y Llawr Gwaelod (G). Yn y lifft, pwyswch ‘G’.
Wrth ddod allan o’r lifft, fe welwch goridor hir a silffoedd llyfrau ar y ddwy ochr.
Cymerwch y tro cyntaf i’r dde. Fe fydd arwydd i’r Ystafelloedd Darllen.
Dilynwch y carped coch nes cyrraedd y grisiau, yna trowch i’r chwith.
Dilynwch y carped coch eto. Fe welwch ddwy set o arwyddion uwch eich pen: 1) ‘Yr Ystafell Ddarllen’…
…a 2) ‘Ystafell Ddarllen y Gogledd’ a ‘Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru’.
Ewch drwy’r drws ac fe welwch Lyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn Brenhinol ar y dde.
hh
Cerddwch heibio i siop y Llyfrgell Genedlaethol…
…nes i chi weld arwyddion i’r Ystafelloedd Darllen.
Dilynwch yr arwyddion a chymerwch y tro cyntaf i’r dde, drwy’r drysau, i ‘Ystafell Peniarth’.
Ym mhen Ystafell Peniarth, ewch i fyny’r grisiau.
Ar ben y grisiau, dilynwch yr arwyddion i’r Ystafelloedd Darllen a throwch i’r dde.
Trowch i’r dde eto wrth ddesg y porthor.
Dilynwch y carped coch. Fe welwch ddwy set o arwyddion uwch eich pen: 1) ‘Yr Ystafell Ddarllen’…
…a 2) ‘Ystafell Ddarllen y Gogledd’ a ‘Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru’.
Ewch drwy’r drws ac fe welwch Lyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn Brenhinol ar y dde.