Fynd ar daith dywys y tu ôl i’r llenni i weld archifau a storfeydd y Comisiwn Brenhinol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru!

Gweithdai yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2020

Yn ogystal ag amrywiaeth o siaradwyr gwych, gall Gorffennol Digidol 2020 gynnig naw gweithdy gwahanol iawn i’r cynadleddwyr. Cynhelir y gweithdai ar fore’r ail ddiwrnod ac maen nhw’n amrywio o deithiau tywys y tu ôl i’r llenni i hyfforddiant ymarferol.

Cyflwyniad Ymarferol i Ddronau ac Archaeoleg
Cyflwyniad Ymarferol i Ddronau ac Archaeoleg

Rhai o’r sesiynau hyfforddiant ymarferol yw ‘GIS – Fu Pethau Erioed Mor Dda!: Sut i Greu, Adeiladu a Defnyddio Amgylchedd GIS gan Ddefnyddio GIS Ffynhonnell Agored a Data Agored’ sef dwy sesiwn 40-munud dan arweiniad y Comisiwn Brenhinol sy’n ymdrin yn gyntaf â hanfodion GIS ac yn ail â delweddu data, a ‘Cyflwyniad Ymarferol i Ddronau ac Archaeoleg’ sy’n ymdrin â hanfodion hedfan dronau’n ddiogel ac â phrosesu’r delweddau a gesglir ganddynt.

Vizgu - Gyflwyniadol ar eu meddalwedd ar gyfer creu arddangosfeydd i bobl â nam ar eu golwg
Vizgu – Gyflwyniadol ar eu meddalwedd ar gyfer creu arddangosfeydd i bobl â nam ar eu golwg

Bydd Vizgu yn cynnal sesiwn gyflwyniadol ar eu meddalwedd ar gyfer creu arddangosfeydd i bobl â nam ar eu golwg, a dilynir hon gan hacathon a fydd yn galluogi sefydliadau i greu syniadau ar gyfer eu casgliadau eu hunain ac ennill gwasanaethau Vizgu i’w rhoi nhw ar waith!

Bydd gweithdai eraill yn darparu cyfleoedd ar gyfer trafodaethau bord gron wedi’u seilio ar gyflwyno astudiaethau achos.

Bydd y Comisiwn Brenhinol a Chasgliad y Werin Cymru - Archif Cof
Bydd y Comisiwn Brenhinol a Chasgliad y Werin Cymru – Archif Cof

Bydd y Comisiwn Brenhinol a Chasgliad y Werin Cymru yn arddangos Archif Cof, prosiect sy’n edrych ar sut y gellir defnyddio archifau i helpu pobl sy’n byw gyda dementia, tra bydd Grwpiau Hanes Pum Cymuned Sir Benfro yn sôn am eu prosiect Rhannu Hanes Lleol yn Ddigidol sy’n hwyluso trafodaeth ar ddigido archifau cymunedol. Yn y gweithdy Mapio Cymru yn Gymraeg, prosiect o eiddo Mapio Cymru, edrychir ar fapio enwau lleoedd hanesyddol Cymru – yr anghenion, heriau a phrosesau – a gelwir ar bawb i gymryd rhan. 

Pleser mawr gennym yw croesawu aelodau ifanc y prosiect Treftadaeth Ddisylw? a fydd yn dangos rhai o’u gweithgareddau yn y gweithdy Minecraft, Sgrialu, Fortecs-amser Neidio-i-fyny (a Straeon Eraill) ac yn rhoi cyfle i’r cynadleddwyr eu profi. Estynnwn groeso hefyd i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a fydd yn cynnal gweithdy ar y cyd ar strategaethau cyllido ar gyfer treftadaeth ddigidol.

Fynd ar daith dywys y tu ôl i’r llenni i weld archifau a storfeydd y Comisiwn Brenhinol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru!
Fynd ar daith dywys y tu ôl i’r llenni i weld archifau a storfeydd y Comisiwn Brenhinol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru!

Ac yn olaf, bydd cyfle gwych i fynd ar daith dywys y tu ôl i’r llenni i weld archifau a storfeydd y Comisiwn Brenhinol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru!

Mae rhaglen lawn ar gyfer y gynhadledd ar gael a gellir Cofrestru nawr hyd at 5pm ar Dydd Gwener 7fed Chwefror.

#GorffennolDigidol2020

Gorffennol Digidol: Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan

12 & 13 o Chwefror 2020, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth.

Cynhadledd Gorffennol Digidol | Gwybodaeth Defnyddiol | Cofrestru | Sylwadau | Blog | Stondinau Arddangosfa | Nawdd

02/07/2020

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x