Gweithdy Gorffennol Digidol 2018

Yn ogystal â’r cyflwyniadau niferus ac amrywiol yn y gynhadledd Gorffennol Digidol, cynigir dewis o weithdai ymarferol a gynhelir ar fore Iau yr 8fed o Chwefror.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru yn cychwyn ar gyfnod o ymgynghori cyhoeddus ar strategaeth, gan gynnwys ei strategaeth ar dreftadaeth ddigidol. Bydd Richard Bellamy, Pennaeth CDL Cymru, yn cynnal gweithdy’n seiliedig, Cronfa Drefadaeth y Loter – Cyfeiriad a Chyllid y Dyfogol, ar yr ymgynghoriad hwn.

Bydd Dan Boys o Audio Trails/placesandtrails yn arwain gweithdy 40 munud ar y platfform placesandtrails, ffordd rad a chyfeillgar o ddarparu cynnwys treftadaeth ddigidol mewn unrhyw leoliad. Bydd Dan yn egluro sut mae’r platfform yn gweithio ac yn dangos sut i sefydlu ac addasu’ch gwefan eich hun.

DanBoys2             Screen Shot 2018-01-08 at 14.00.11

Mewn gweithdy 40 munud arall, bydd Owain Dafydd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn amlinellu’r camau a gymerwyd gan y Llyfrgell i greu amrywiaeth hynod lwyddiannus o adnoddau dysgu digidol ar y platfform Hwb. Bydd Owain yn trafod anghenion y cwricwlwm yng Nghymru ac yn rhannu profiadau ynghylch yr hyn sy’n gweithio orau wrth gynhyrchu cynnwys diddorol a defnyddiol.

Bydd Jon Dolley, Swyddog Mapio a GIS Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn arwain taith gerdded i Fryngaer Pen Dinas, un o’r bryngaerau mwyaf o Oes yr Haearn yng ngorllewin Cymru. Bydd Pen Dinas: Taith dywys i ddysgu am ddarganfyddiadau hen a newydd yn rhoi cyfle i archwilio’r fryngaer a chlywed am waith diweddar ym meysydd geoffiseg a GIS sydd wedi newid ein dealltwriaeth o’r safle pwysig hwn.

Bydd Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yn cynnig taith dywys ac arddangosiadau o rai o’u Robotau, Deallusrwydd Artiffisial a Realiti Rhithwir. Bydd hyn yn cynnwys Labordy Realiti Rhithwir y Brifysgol, y Labordy Systemau Deallus sy’n gartref i robotau dan do fel y robot iCub, y Labordy Roboteg Faes a Chymhwysol, a’r Llwyfan Golau.

                                          iCub27-200x300                   idris

Bydd Li Sou, Ymchwilydd Ôl-Ddoethurol ym Mhrifysgol Bradford, a Chris Caswell, Pennaeth Gwaith Maes yn DigVentures, yn defnyddio cyfuniad o gyflwyniadau a thrafodaeth bord gron i ddwyn ynghyd y rheiny sy’n ymddiddori neu’n cymryd rhan mewn creu, prosesu, dadansoddi ac archifo setiau data digidol o sganiau laser neu ffotogrametreg fel y gellir trafod y ffordd orau o’u rheoli a’u harchifo. Rhagwelir mai’r gweithdy Setiau data digidol 3D: Rheoli ac archifo fydd y cyntaf o lawer o gyfarfodydd yn y maes hwn, a gobeithir ffurfio gweithgor i barhau â’r drafodaeth yn y dyfodol.

session image data low res

Cynhadledd Gorffennol Digidol | Gwybodaeth DefnyddiolCofrestru | Sylwadau | Blog | Stondinau Arddangosfa | Cynnig

 

02/02/2018

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x