Gwirfoddoli yn Llyfrgell Arbenigol y Comisiwn Brenhinol

Ydych chi’n hoffi llyfrau?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn archaeoleg, pensaernïaeth, archaeoleg arforol, hanes Cymru neu archaeoleg ddiwydiannol?
Hoffech chi ddysgu medrau newydd i wella’ch CV?
Hoffech chi gael profiad ymarferol a dysgu sut mae llyfrgell arbenigol fach yn gweithio?

Os oes gennych amser i’w sbario ac os yw un neu fwy o’r uchod yn mynd â’ch bryd, dewch i wirfoddoli yn Llyfrgell y Comisiwn Brenhinol.

Mae gennym sawl lle ar gyfer gwirfoddolwyr ar hyn o bryd. Mae’r cyfleoedd yn cynnwys gweithio gyda’n casgliadau o hen lyfrau prin, paratoi deunydd ar gyfer ei gatalogio, a helpu i roi ein Bwletin CHCC misol wrth ei gilydd. Bydd cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gynhelir gan y Comisiwn Brenhinol.

Sut y byddwch chi’n elwa ar y profiad:

  • Meithrin medrau newydd ac ennill profiad yn y sector treftadaeth
  • Cyfarfod â ffrindiau newydd o gyffelyb bryd
  • Cefnogi gwaith y Comisiwn Brenhinol
Ein tîm o wirfoddolwyr.

Ein tîm o wirfoddolwyr.

 

Dewch i ymuno â’n tîm cyfeillgar!

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Penny Icke, Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth, Ffôn: 01970 621200 neu e-bost: penny.icke@rcahmw.gov.uk

08/31/2018

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets