Gwirfoddoli yn y Comisiwn Brenhinol: profiad personol gan John Crompton

Gwirfoddoli yn y Comisiwn Brenhinol: profiad personol gan John Crompton

Fel rhan o Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr rydym ni wedi gofyn i’n gwirfoddolwyr beth y buont yn ei wneud yn ddiweddar. Daw ein cyfraniad cyntaf gan John Crompton, ein gwirfoddolwr hiraf ei wasanaeth:

Fe ddeuthum i fyw ger Aberystwyth yn 2005, ac yn fuan wedyn fe ailafaelais yn fy nghysylltiad â’r Comisiwn Brenhinol yr oeddwn wedi gwneud cryn ddefnydd o’i gofnodion yn ystod fy ngyrfa fel athro. Erbyn 2008 roeddwn wedi datblygu ymchwil cynharach o’m heiddo ar Ynys Môn a Gogledd Cymru ac roeddwn i’n awyddus i fwy o bobl weld fy nghofnodion; felly ar 11 Mehefin 2008 fe bostiais fy nghofnod newydd cyntaf ar Coflein, cronfa ddata ar-lein y Comisiwn. Rydw i wedi bod wrthi nawr ers bron naw mlynedd bleserus iawn, ac wedi ychwanegu cofnodion ar chwareli llechi Gogledd Cymru ac ar felinau gwynt a dŵr ar hyd a lled Cymru. Yn ddiweddar bûm yn paratoi rhestri a mapiau electronig o felinau, bron 3,000 ohonynt, drwy sganio’r cyfan o Gymru fel y’i dangosir ar y mapiau Arolwg Ordnans hanesyddol 25 modfedd. Mae’r rhestri hyn yn sail i gofnodion newydd, a gobeithiaf y byddant yn helpu pobl eraill, gan gynnwys aelodau Cymdeithas Melinau Cymru, i ysgogi a llywio ymchwil yn y maes. Rydw i hefyd wedi bod yn dadansoddi gwybodaeth sydd eisoes ar gael, er enghraifft, rydw i wedi bod drwy holl gofnodion y Comisiwn am olwynion dŵr gan nodi’r rheiny sy’n rhoi enw’r gwneuthurwr, ac wedi mapio dosbarthiad y rhain mewn perthynas â’r ffowndrïau lle cawsant eu cynhyrchu.

Sut ydw i’n elwa ar wirfoddoli yma? Un o’r prif fanteision yw fy mod i’n gallu cyrchu GIS (System Gwybodaeth Ddaearyddol) y Comisiwn sy’n darparu cymaint o wybodaeth wedi’i mapio. Rydw i hefyd wedi’i defnyddio i ddysgu sut i greu mapiau newydd. Yn ogystal rydw i’n cael y boddhad o drosglwyddo peth o’m gwybodaeth a’m profiad fy hun – ond yr hyn sy’n wirioneddol fuddiol yw’r symbylu rheolaidd, y profiad a’r cyfeillgarwch sy’n dod o fod mewn cysylltiad â staff y Comisiwn. Dyma agwedd y byddwn i’n ei hargymell i rywun.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am wirfoddoli gyda’r Comisiwn, ewch i dudalen gwirfoddoli ein gwefan.

06/07/2017

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x