
Gwlân Cymreig, Caethwasiaeth a’r Amgylchedd Adeiledig
Roedd caethwasiaeth yn rhan greiddiol o’r economi fodern gynnar, a’r cysylltiadau’n ddwfn gyda gweithgareddau economaidd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Roedd hyn yn wir yng Nghymru hefyd. Tynnwyd sylw at gysylltiad yr amgylchedd adeiledig ag imperialaeth, gan gynnwys caethwasiaeth ryngwladol, mewn nifer o adroddiadau diweddar:
- Adroddiad Historic England, ‘The Impact of Transatlantic Slavery on England’s Built Environment: a Research Audit’,
- ‘Interim Report on the Connections between Colonialism and Properties now in the Care of the National Trust, Including Links with Historic Slavery’ gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac
- Adroddiad Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfraniadau gan y Comisiwn Brenhinol, ‘Y Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig; Archwiliad o Goffáu yng Nghymru’.
Gall y cysylltiad rhwng caethwasiaeth ryngwladol a’r amgylchedd adeiledig fod yn un cymhleth. Gall safleoedd o weithgaredd economaidd ddangos sut mae ardaloedd lleol yn rhan o’r darlun ehangach, er bod y safleoedd hyn yn debygol o fod wedi newid dros amser. Er enghraifft, gall fod yn anodd diffinio’r safleoedd sy’n gysylltiedig â chynhyrchu brethyn cartref Cymreig, y ‘Welsh Plains’, sef brethyn plaen, bras, a gynhyrchwyd yng nghanolbarth Cymru a’i ddefnyddio i ddilladu caethweision. Gall y safleoedd hyn, er hynny, amlygu pwysigrwydd economaidd caethwasiaeth mewn rhai cymunedau yng Nghymru.
Yn y cyfnod modern cynnar roedd y diwydiant gwlân yn neilltuol o bwysig yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Y prif gynnyrch oedd gwlanen Sir Drefaldwyn, ond yn ail o ran pwysigrwydd oedd y brethyn cartref bras, y ‘Welsh Plains’. Yn General View of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales (1810), nododd Walter Davies fod y brethyn hwn:
“… yn gynnyrch o dair ardal benodol yn unig: yn gyntaf, tref Dolgellau, a dalgylch o thua 12 milltir o’i hamgylch, yn Sir Feirionnydd; yn ail roedd tref Machynlleth a Dyffryn Dyfi yn Sir Drefaldwyn; a’r drydedd ardal oedd ardal Glyn yn Sir Ddinbych, yn cynnwys plwyfi i’r gogledd ac i’r gorllewin o Groesoswallt”.
Fodd bynnag, yn Journal of a Tour through North Wales and Part of Shropshire (1797), nododd Arthur Akin bod y brethyn a gynhyrchwyd yn Sir Ddinbych yn wahanol i’r hyn a gynhyrchwyd yn Sir Feirionnydd a Sir Drefaldwyn, a bod ansicrwydd a ddylid ei ystyried yn frethyn ‘Welsh Plains’.

Mae sylwebyddion cyfoes hefyd wedi nodi ble roedd y farchnad ar gyfer y brethyn hwn. Yn Tours in Wales (1778–1781), adroddodd Thomas Pennant ei fod yn cael ei anfon yn bennaf i America i ddilladu pobl dduon, neu i Fflandrys, lle’r oedd yn cael ei ddefnyddio gan y werin [1]. Esboniodd Akin hefyd:
“… bod dilladu’r caethweision yn India’r Gorllewin a De America yn creu gofyn sylweddol; roedd sanau yn cael eu creu o’r brethyn yn yr Almaen a rhannau eraill o’r cyfandir; ac roedd y ddiweddar Ymerodres yn Rwsia wedi defnyddio’r brethyn i ddilladu rhai o’i milwyr ar un adeg”.
Roedd y farchnad gaethweision mor bwysig fel i Syr Thomas Cullum nodi yn ‘Diary of a Journey into South Wales’ 1811, fod trigolion Dolgellau yn bryderus iawn am yr hyn oedd yn digwydd yn America. Hyd yn oed ar ôl diddymu caethwasiaeth ar gyfandir America, roedd erthygl papur newydd ym mis Rhagfyr 1899 am ddilledydd a maer Dolgellau, John Meyrick Jones, yn cofio pa mor dda oedd y brethyn o ran cryfder a gwytnwch ym marn cynrychiolwyr caethfeistri, ac nad oedd dim yn eu bodloni dim ond y brethyn cartref o fframiau gwehyddu Dolgellau.
Drwy gydol y ddeunawfed ganrif, tyfodd y diwydiant a datblygu trefn o rannu gwaith allan, gyda’r brethyn cartref bras oedd yn cael ei gynhyrchu’n lleol yn cael ei brynu a’i gludo i’w orffen a’i allforio, a hynny drwy’r Amwythig yn bennaf. Roedd y farchnad yn ei hanterth tua diwedd y ganrif pan oedd y brethyn lleol yn cael ei allforio’n uniongyrchol drwy borthladd Abermaw. Fodd bynnag, ciliodd yr allforio yn ystod y Chwyldro a’r Rhyfel Napoleonaidd yn Ffrainc, ac o’r 1820au, trodd cynhyrchwyr y canolbarth eu golygon at ddefnyddiau eraill fel gwlanen, neu at farchnadoedd eraill.
Roedd y gwaith o gynhyrchu brethyn yn digwydd gan fwyaf mewn cartrefi cyffredin, gan gynnwys y tai gwŷdd, sef estyniadau bychan ar dai, yn benodol ar gyfer gwehyddu. Dim ond ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr ymddangosodd ffatrïoedd gwlân yn ardal Dolgellau – yn Esgair Wen a Chlywedog yn 1801, ac yn Nhwll-y-Bwbach yn fuan wedyn. Fel mae’r adroddiad ‘Deall Nodweddion Trefol’ am Ddolgellau yn ei ddangos, mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau’n ymwneud â’r diwydiant brethyn yn yr ardal wedi eu hadeiladu neu eu haddasu ar ôl y cyfnod pan oedd y brethyn Cymreig yn cael ei allforio i gaethfeistri yn ystod yr 1820au – 1840au a c.1880. Yr eithriad i’r mecaneiddio hwyr oed y broses o bannu, lle’r oedd y defnydd gwlân yn cael ei olchi a’i guro yn y pandai er mwyn glanhau a thewychu’r ffeibrau. Y pandai oedd yr unig safleoedd penodol yn y broses o gynhyrchu’r brethyn ‘Welsh plains’ ac yn ôl Chris Evans, roeddent yn fath ar fynegai o dwf y diwydiant [2].
Mae angen gofal fodd bynnag gyda’r ‘mynegai’ hwn: nid oedd pob un o’r pandai ym Meirionnydd a gorllewin Sir Drefaldwyn yn cynhyrchu’r Welsh Plains; nododd Davies felin fawr ar afon Dulas ger Machynlleth a oedd yn cynhyrchu gwlanen. Ymddengys hefyd na allai pandy gynhyrchu’r ddau fath o frethyn, a nododd Aikin fod y stociau neu’r morthwylion yn ysgafnach ar gyfer cynhyrchu gwlanen o gymharu â’r brethyn cartref brasach. I gymhlethu pethau ymhellach, dim ond dau bandy lle mae’r peiriannau’n gyflawn sydd wedi goroesi: Ffatri Isaf yn Abercegir a Phandy’r Moelwyn ger Blaenau Ffestiniog. Mae’r peirianwaith sydd ynddynt yn dyddio o gyfnod llawer diweddarach na’r cyfnod pan oedd y ‘Welsh Plains’ yn cael eu cynhyrchu ar gyfer allforio i gaethfeistri. Mae’n anodd dweud felly pa felinau penodol oedd yn cynhyrchu’r brethyn fyddai’n cael ei wisgo gan y caethweision, er ei bod yn debygol iawn bod y mwyafrif o’r pandai yn yr ardal yn gysylltiedig.

Still, the proliferation of fulling mills gives a general impression of the industry’s strength. David H. Jones has identified thirty-five sites associated with the woollen industry throughout Montgomeryshire, although many were of a later date or invoMae nifer y pandai, er hynny, yn rhoi syniad o faint a chryfder y diwydiant. Mae David H.Jones wedi nodi pymtheg ar hugain o safleoedd sy’n gysylltiedig â’r diwydiant gwlân ledled Sir Drefaldwyn, er bod nifer o gyfnod mwy diweddar neu’n ymwneud â chynhyrchu gwlanen. [3] Yn y cyfamser, nododd J. Geraint Jenkins unarddeg ar hugain o bandai oedd wedi eu sefydlu ym Meirionnydd cyn 1725, gyda unarddeg ar hugain arall rhwng 1725 ac 1851.[4] Mae gwaith Bob Owen wedi adnabod un ar bymtheg o ffatrïoedd gwlân yn y sir cyn 1830. Mae enwau lleoedd yn cynnwys yr elfen ‘pandy’ hefyd yn nodi pa mor niferus oeddent. Mae’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn nodi wyth deg tri enw o’r fath yn Sir Feirionnydd ac wyth deg chwech yn Sir Drefaldwyn, llawer ohonynt yn ardal Machynlleth. Mae’n gyfri mawr o safleoedd, er y byddai A. J. Parkinson yn dadlau na fyddai’r pandai i gyd yn weithredol yn yr un cyfnod.[5]

Mae cofnodion cyfoes hefyd yn disgrifio bwrlwm y diwydiant. Mae Davies yn disgrifio undonedd parhaus y fframiau gwehyddu, y pandai a pheiriannau eraill. Adroddodd Humphry W. a Penelope Woolrych yn 1819 bod gwŷdd i’w gweld yn gyson yn y bythynnod…a’r pandai i’w clywed ymhob cyfeiriad. Disgrifiodd Thomas Pennant:
“Y digonedd o ddefaid, yn bywiogi’r mynyddoedd hyn, oedd yn dod â chyfoeth sylweddol i’r wlad yng nghyfnod fy ymweliad. Mae cynhyrchu gwlanen a brethyn bras ar gyfer y fyddin, ac ar gyfer dilladu tlodion [pobl dduon] yn India’r Gorllewin yn digwydd yn y rhan fwyaf o’r wlad”. [6]
It appears the production of cloth for sale to slavYmddengys bod cynhyrchu brethyn cartref y ‘Welsh Plains’ i’w werthu i gaethfeistri yn ddiwydiant bywiog.
Ond dydy’r ffaith bod y diwydiant yn llawn bwrlwm ddim yn golygu nad oedd hefyd yn gythryblus. Roedd yn ansicr o ran elw, a’r bobl hefyd yn wynebu cynnydd mewn rhenti, trethi’r degwm a phrisiau grawn yn enwedig. Roedd y costau hyn yn mynd y tu hwnt i gyflogau yr oedd y gweithwyr cyffredin yn fwy a mwy dibynnol arnynt, wrth i gynnyrch gwlân beidio â bod yn weithgaredd i greu incwm ychwanegol a throi’n brif ffynhonnell incwm. Nid yw caledi bywyd y cynhyrchwyr a’u cynhaliaeth bitw yn dileu eu cyswllt ag economi caethwasiaeth, ond mae’n ei osod yng nghyd-destun bywydau a phrofiadau’r Cymry cyffredin. Yn ogystal, mae deall ble y cynhyrchwyd y brethyn Cymreig ‘Welsh Plains’ yn gymorth i leoli cymunedau Cymreig o fewn cyfundrefn a hanes rhyngwladol ehangach.
Er mai elfen fechan o hanes y diwydiant gwlân Cymreig yn y cyfnod cynnar yn Sir Feirionnydd a Sir Drefaldwyn yw cynhyrchu ac allforio brethyn i gaethfeistri, y mae, er hynny, yn elfen arwyddocaol o’r hanes hwnnw. Gellir cymharu i ryw raddau â rôl caethwasiaeth mewn diwydiannau Cymreig eraill. Er enghraifft, rôl greiddiol y masnachwr a’r caethfeistr Anthony Bacon wrth sefydlu pwysigrwydd Merthyr Tudful o fewn y diwydiant haearn. Er bod deall cysylltiad cyfoeth Bacon â chaethwasiaeth yn berthnasol i ddeall hanes y diwydiant haearn yng Nghymru, nid yw’n disodli cyfoeth hanes diwydiannol Cymru na bywydau a phrofiadau gweithwyr a rheolwyr gweithfeydd haearn a ddatblygodd yn ddiweddarach, hyd yn oed os ydyw’n cyflwyno cyd-destun priodol. Yn yr un modd, mae hanes brethyn y ’Welsh Plains’ a’r berthynas â chaethwasiaeth yn rhoi cyd-destun i ddiwydiant gwlân a brethyn a ddatblygodd ymhellach, ond nid dyna’r hanes yn ei gyfanrwydd. Ar yr un pryd, mae’r anhawster i leoli safleoedd penodol fu’n gysylltiedig â chynhyrchu’r ‘Welsh Plains’ yn ei gwneud yn fwy pwysig byth bod yr hanes yn wybyddus, yn ddealladwy ac yn cael ei gydnabod.
Dr Adam N. Coward, Cymhorthydd Llyfrgell ac Ymholiadau
[1] Oherwydd bod y gair a ddefnyddiwyd yn wreiddiol gan Pennant bellach yn cael ei ystyried yn anaddas, mae wedi ei ddisodli yn y cofnod blog hwn. Gellir gweld y dyfyniad gwreiddiol yma, t. 239.
[2] Chris Evans, Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery, 1660–1850 (Caerdydd, Gwasg y Brifysgol, 2010), t. 46.
[3] David H. Jones, ‘The Watermills of Montgomeryshire’, Melin, 27 (2011), 65–95 (86–95).
[4] J. Geraint Jenkins, The Welsh Woollen Industry (Caerdydd: Gwasg y Brifysgol, 1969), tt. 173–74.
[5] Gweler A. J. Parkinson, ‘Fulling Mills in Merionethshire’, Journal of the Merioneth Historical and Record Society, IX: iv (1984), 420–56
[6] Oherwydd bod y gair a ddefnyddiwyd yn wreiddiol gan Pennant bellach yn cael ei ystyried yn anaddas, mae wedi ei ddisodli yn y cofnod blog hwn. Gellir gweld y dyfyniad gwreiddiol yma, t. 178.
23/08/2021