
‘Gwneud y Cysylltiad’: Project Newydd i Gysylltu Cofnodion Colledion Cofrestr Lloyd’s a Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru
Mewn prosiect cyffrous newydd, bydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Sefydliad Cofrestr Lloyd’s yn defnyddio Cofnodion Colledion Cofrestr Lloyd’s/Lloyd’s Register Casualty Returns (sydd ar gael ar wefan Sefydliad Cofrestr Lloyds ac ar Internet Archive) i gyfoethogi Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (sydd ar gael ar wefan Coflein) a chysylltu’r ddau gofnod â’i gilydd. Mae ‘Gwneud y Cysylltiad: Cofrestr Lloyd’s a Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru’ yn dod â dwy ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth yn ymwneud â hanes morwrol Cymru at ei gilydd, gan ddarparu sylfaen a model ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

Cofnodion Colledion Cofrestr Lloyd’s a CHCC
Mae Cofnodion Colledion Cofrestr Lloyd’s yn cofnodi’r llongau masnach cefnforol dros 100 tunnell fetrig gros sy’n cael eu colli ar hyd a lled y byd. Ers 1891, mae’r cofnodion hyn yn nodi maint, math, a chenedl pob llong a gollwyd, yn ogystal â manylion y daith a chargo’r llong. Ond y peth pwysicaf o safbwynt y prosiect hwn yw eu bod hefyd yn nodi ble y collwyd y llong. Felly gallwn bori’r cofnodion i ddod o hyd i unrhyw golledion yn nyfroedd Cymru.
Ar ôl cael hyd i golledion, caiff y manylion eu cymharu â’r cofnodion yn CHCC. Os yw’r wybodaeth yn y Cofnodion Colledion a CHCC yn wahanol, adolygir hyn, a chaiff unrhyw safleoedd newydd a welir yn y Cofnodion Colledion eu hychwanegu at CHCC. Yn bwysicaf oll, defnyddiwn hypergysylltiadau i ffeiliau PDF ar-lein y Cofnodion Colledion i wneud cofnodion safle CHCC yn fwy gwerthfawr byth. Mae hyn yn golygu bod y ffynonellau gwreiddiol amhrisiadwy hyn ar gael yn uniongyrchol i ymchwilwyr.

Cofnod Cenedlaethol: Adnodd Rhyngwladol
Er bod y Cofnodion Colledion yn cael eu defnyddio i wella cofnod cenedlaethol, mae ganddynt arwyddocâd byd-eang. Mae llawer o ddigwyddiadau o bwys rhyngwladol, fel y Rhyfel Cyntaf rhwng China a Japan, y Rhyfel Mil Diwrnod, a’r Rhyfel rhwng Rwsia a Japan, yn ogystal â thrychinebau naturiol fel echdoriadau folcanig, yn cael eu cofnodi ynddynt. Cofnodir colledion yn holl gefnforoedd y byd, ac mewn llynnoedd hyd yn oed, ac nid ger porthladdoedd cyfarwydd yn unig.

Mae natur ryngwladol y Cofnodion Colledion yn rhoi llongddrylliadau Cymru mewn cyd-destun byd-eang. Mae hyn yn arbennig o drawiadol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, gan fod y cofnodion yn pwysleisio lle canolog Cymru yn economi’r byd. Byddai llongau’n dod â choed o Ganada, Mexico, Ffrainc a Phortiwgal i borthladdoedd diwydiannol Cymru, tra llifai glo o borthladdoedd de Cymru – Caerdydd, Y Barri, Casnewydd, Abertawe, Llanelli – i bedwar ban byd. Ceir cyfeiriadau at lechi o Borthmadog, tun o Bort Talbot, a choed a oedd ar ei ffordd i ierdydd adeiladu llongau Sir Aberteifi.
Câi nwyddau llai eu cludo hefyd. Roedd yr OGMORE yn hwylio i Gaerdydd gyda chargo o datws o’r Alban pan suddodd ym 1894. Cafodd y DOON ei cholli ym 1903 ar ei ffordd i Ayr a’i howld yn llawn stowt. Ond, yn achos llawer o longau, nid Cymru oedd dechrau na diwedd eu taith, ac mae rôl ein dyfroedd fel llwybr môr rhyngwladol yn hollol amlwg.
photo

I grynhoi, mae’r Cofnodion Colledion yn cynnig cyd-destun rhyngwladol ar gyfer Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Drwy gysylltu’r adnoddau hyn, gobeithiwn y bydd defnyddwyr yn manteisio ar y ddau ac yn meithrin dealltwriaeth well o hanes morwrol ein gwlad. Mae pob cofnod yn y Cofnodion Colledion yn adrodd stori, y mae llawer ohonynt yn drasig, a gallant fod yn fan cychwyn ar gyfer darganfod ein hanes. Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn arwain at ddatblygu mwy o gysylltiadau rhwng adnoddau a sefydliadau, gan wneud hanes Cymru a’i hanes morwrol ehangach yn fwy hygyrch i bawb.
Dr Adam N. Coward, Cynorthwyydd Ymchwil Morwrol, CBHC
Y Goron sydd â’r hawlfraint i wefan Coflein a’r ddelwedd C643604 ac fe’u hatgynhyrchir gyda chaniatâd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC), o dan awdurdod dirprwyedig Ceidwad y Cofnodion Cyhoeddus.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon hefyd ar wefan Sefydliad Cofrestr Lloyd’s.
05/12/2020