Gwrachod Cymru

Llys ym Miwmares.

Llys ym Miwmares.

 

Mae Nos Calan Gaeaf yn agosáu a bydd meddyliau’n troi, gyda pheth ofn hwyrach, at wrachod, ysbrydion a bodau eraill. Yng Nghymru, efallai’n fwy nag mewn rhannau eraill o Ynysoedd Prydain, mae’r dirwedd yn llawn enwau sy’n ein hatgoffa o fyd yr ysbrydion: mae llawer o leoedd sy’n gysylltiedig â gwrachod, bwbachod, ysbrydion a bodau arswydus eraill. Er mwyn darganfod enwau lleoedd sydd â chysylltiadau â’r goruwchnaturiol, ewch i wefan Enwau Lleoedd Hanesyddol y Comisiwn Brenhinol, teipiwch y gair gwrach (neu air arall), ac edrychwch ar y canlyniadau.

Beth yw cefndir hanesyddol yr enwau lleoedd hyn? Mewn llyfr newydd, mae Richard Suggett, Uwch Ymchwilydd Pensaernïol CBHC, yn ymchwilio i dystiolaeth ddogfennol yn ymwneud â dewiniaeth yng Nghymru.* Mae’r dystiolaeth ysgrifenedig am ryw ugain achos wedi’i thrawsgrifio’n llawn yn y llyfr. Mae’r testunau’n adrodd hanesion rhai digwyddiadau a phersonoliaethau rhyfeddol sydd wedi aros ynghudd am dri chan mlynedd. Yn yr achosion hyn deuwn ar draws menywod sy’n cael eu hamau o fod yn wrachod, melltithwyr ac iachawyr, pobl sy’n defnyddio dewiniaeth a swynion cariad, pobl sy’n credu yn y tylwyth teg, a sawl twyllwr a gynigiai gyfoeth a gwellhad drwy ddulliau goruwchnaturiol.

Cafodd tua deugain o bobl eu herlyn am ddewiniaeth yng Nghymru a chafodd pump o’r anffodusion hyn eu crogi am y drosedd. Gallwch ymweld o hyd â lleoedd ac adeiladau a oedd yn gysylltiedig â’r achosion llys hyn. Mae’r llys hynod (NPRN 23134) ym Miwmares, lle cafwyd Margaret ferch Richard yn euog o ddewiniaeth ym 1655 a’i dienyddio wedyn, yn unigryw o ran y modd y mae’r tu mewn addysgiadol ac atmosfferig wedi’i gadw. Byddai’r ffenestr orllewinol brydferth a’r to o’r unfed ganrif ar bymtheg yn Eglwys Diserth (NPRN 300471), Sir y Fflint, wedi bod yn gyfarwydd i’r tystion a roddodd dystiolaeth yn erbyn Gwen ferch Elis, a gafwyd yn euog o ddewiniaeth a’i chrogi ym 1584. Mae Ffynnon Elian (NPRN 32271), ffynnon ‘sanctaidd’ ger Abergele, a ddaeth yn ddrwgenwog fel ffynnon felltith, yn parhau’n nodwedd yn y dirwedd hanesyddol.

Bydd Richard Suggett yn trafod y bobl a’r lleoedd a oedd yn gysylltiedig â dewiniaeth yng Nghymru yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar 31 Hydref 2018.  Mae’r holl docynnau wedi’u gwerthu ond caiff y ddarlith ei ffrydio’n fyw a bydd ar gael ar Periscope.

* Richard Suggett, Welsh Witches: Narratives of Witchcraft from Sixteenth- and Seventeenth-century Wales.  Rhagair gan Ronald Hutton.  Atramentous Press, 2018.

 

Richard Suggett, Welsh Witches: Narratives of Witchcraft from Sixteenth- and Seventeenth-century Wales.

Richard Suggett, Welsh Witches: Narratives of Witchcraft from Sixteenth- and Seventeenth-century Wales.

10/24/2018

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets