Gŵyl Archaeoleg 2020 a’r Comisiwn Brenhinol, 11–19 Gorffennaf

Fel cymaint o wyliau eraill, mae’r Ŵyl Archaeoleg ar-lein eleni. Mae’n cael ei chynnal o Ddydd Sadwrn yr 11eg hyd Ddydd Sul y 19eg o Orffennaf, a gellir gweld y rhaglen lawn yn.

Cadwch eich llygaid ar agor am sgwrs ar-lein am ddim Toby Driver, Bronze, Glass and Gold: Prehistoric and Roman Treasures from Ceredigion. Cynhelir y sgwrs hon mewn partneriaeth ag Amgueddfa Ceredigion, a chaiff ei phostio ar ein tudalen Facebook ar brynhawn Dydd Mercher am 2pm.

Bydd yn rhoi sylw i ddarganfyddiadau cynhanesyddol a Rhufeinig prin ac arbennig o sir Ceredigion yng Nghymru, y mae nifer ohonynt o bwys cenedlaethol i Gymru ac i’r DU gyfan. O’r ‘disg haul’ aur cynhanesyddol bach a ddarganfuwyd yng Nghwmystwyth i darian Rhos Rydd o’r Oes Efydd Ddiweddar o Flaenplwyf, llwyau Penbryn o’r Oes Haearn o Gastell Nadolig a ddefnyddid i broffwydo’r dyfodol, a’r bowlen wydr-nadd Rufeinig unigryw o fila Rufeinig Abermagwr, fe fydd y sgwrs yn trafod y rhan a chwaraewyd gan lwc a siawns yn y darganfyddiadau archaeolegol. Gellir gweld llawer o’r gwrthrychau a grybwyllir yn y sgwrs yn Oriel Bowen, Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth.

Ar ôl y sgwrs, bydd Toby wrth law i ateb eich cwestiynau drwy Facebook.

Llun a dynnwyd yn ystod Gŵyl Archaeoleg 2012 yn dangos taith gerdded i Ben Dinas, bryngaer o’r Oes Haearn; bydd digwyddiad eleni yn sicrhau bod pawb yn cadw pellter!
Llun a dynnwyd yn ystod Gŵyl Archaeoleg 2012 yn dangos taith gerdded i Ben Dinas, bryngaer o’r Oes Haearn; bydd digwyddiad eleni yn sicrhau bod pawb yn cadw pellter!

Drwy gydol yr wythnos fe fydd archaeolegwyr y Comisiwn Brenhinol yn brysur yn cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau ar-lein yr Ŵyl. Mae’r rhain yn cynnwys y gweithgaredd A Day in Archaeology ar Ddydd Llun. Ydych chi erioed wedi meddwl beth mae archaeolegwyr yn ei wneud mewn gwirionedd? Wel cewch wybod drwy fynd i gyfrif Twitter @CB_Arolygu. Oes gennych chi gwestiwn i’n harchaeolegwyr? Ar Ddydd Mercher, yr un diwrnod â sgwrs Toby, bydd ein harchaeolegwyr yn brysur ar eu cyfrif CB_Arolygu yn ateb eich holl gwestiynau. Anfonwch gwestiwn atynt gyda’r hashtag #AskAnArchaeologist #GofynIArchaeolegydd ac fe gewch ateb ganddynt! Hefyd fe fydd ein tîm CHERISH yn brysur yn ystod yr Ŵyl yn cyfrannu at thema eleni, sef Hinsawdd a’r Amgylchedd, drwy eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Darganfyddwch beth maen nhw’n ei wneud yn @CHERISHProj. Fe fydd rhywbeth i bawb!

07/13/2020

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x