
Gŵyl Archaeoleg Pendinas
Dewch i fwynhau Gŵyl Archaeoleg Pendinas ar ddydd Sadwrn 16 Medi, o 10:00-16:00. Gŵyl hwyl a sbri i bob oed, a fydd yn dathlu Prosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas, a lansiwyd ym mis Mawrth eleni. Bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal trwy gydol y dydd yn yr Hwb ym Mhenparcau. Bydd gweithgareddau thema Geltaidd i’r teulu cyfan, gan gynnwys taflu slingshots, peintio wynebau a gwneud potiau, yn ogystal â stondinau gwybodaeth treftadaeth. Mapiwch eich atgofion bywyd gwyllt o Bendinas gyda’r arbenigwr bywyd gwyllt, Chloe Griffiths. A pheidiwch â cholli’r teithiau tywys o amgylch y fryngaer yn y bore a chyfle i gwrdd â siarad â’r gwirfoddolwyr sy’n cloddio tŷ crwn o’r Oes Haearn o fewn y fryngaer.
Am 12:30 ymunwch â’r sesiwn Holi-ac-Ateb ar ddatgelu metel ac archaeoleg gyda’r arbenigwyr, David Howell o’r Cynllun Henebion Cludadwy a Christopher Catling o’r Comisiwn Brenhinol. O 14:00 tan 15:00 bydd sgyrsiau arbennig gan yr archaeolegwyr Ken Murphy a Dr Toby Driver ar ‘Recent and current archaeological excavations at Bendinas’ ac ‘From the Celts to the Romans of Pendinas’. I ddathlu yn y prynhawn, mwynhewch de, coffi a thafell o gacen bryngaer yn rhad ac am ddim!
Gweithgareddau i gynnwys:
- Pentrefwyr Oes yr Haearn o Gastell Henllys fydd yn cymryd drosodd yr Hwb!
- Gweithgareddau Celtaidd i’r teulu i gyd yn yr Hwb ac ar gopa Pendinas!
- Stondinau gwybodaeth treftadaeth yn yr Hwb
- Teithiau Tywys o amgylch Pendinas a siawns i drafod y cloddiad gyda’r gwirfoddolwyr
- Sgyrsiau archaeoleg gan arbenigwyr:
- 12:30: C&A ar Ddatgelu Metel ac Archaeoleg gyda David Howell a Christopher Catling
- 14:00: ‘Recent and current archaeological excavations at Pendinas’ gan Ken Murphy
- 14:30: ‘From the Celts to the Romans of Pendinas’ gan Dr Toby Driver
- 15:00: Te a chacennau i ddathlu
Mi fydd parcio am ddim ar gael ym maes parcio Ysgol Llwyn-yr-Eos. Y cyfeirnod ‘What3Words’ yw drainage.waxes.latitudes.
Dewch a phicnic a mwynhewch y dydd!
Mae’r prosiect yma yn bartneriaeth dwy flynedd rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, sydd wedi ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Cadw. Dros y chwe mis diwethaf mae’r prosiect wedi cynnal ei gloddiad archaeolegol cyntaf, wedi’i staffio gan 50 o wirfoddolwyr lleol, ac rydym wedi gweithio gyda mwy na 100 o blant o’r ysgol gynradd leol, ac wedi arwain nifer o deithiau cerdded ar gyfer grwpiau cymunedol lleol.
Mae’r digwyddiad yma yn rhad ac am ddim, yn agored i bawb, a does dim angen archebu tocyn ymlaen llaw.
Os oes gennych unrhyw gwestiynnau, ebostiwch: beca.davies@cbhc.gov.uk a nicola.roberts@cbhc.gov.uk.
31/08/2023