Gwylfa Hiraethog 1953 (Image DI2009_0892)

Gwylfa Hiraethog – Yr Wylfa Gymreig

Saif Bryn Trillyn yng nghanol Mynyddoedd Hiraethog yn sir Ddinbych. Yn ogystal, mae yn enw ar dafarn a godwyd tua 1829 ar y ffordd dyrpeg a adeiladwyd rhwng Pentrefoelas a Bylchau ger Dinbych er mwyn cysylltu ardal Hiraethog â’r A5 rhwng Llundain a Chaergybi. Mae’r dafarn yn fwyaf adnabyddus fel yr un uchaf yng Nghymru, tua 495m uwchben lefel y môr ar ffordd a gaeir yn aml gan eira. Gelwir hi hefyd yn ‘Sportman’s Arms’ gan fod yr ardal yn hynod boblogaidd tua diwedd oes Fictoria a dechrau’r ugeinfed ganrif ar gyfer hela a saethu grugieir.

Gwylfa Hiraethog yn 1954, yn dal i deyrnasu dros y wlad o’i chwmpas (Delwedd DI2009_0891)
Gwylfa Hiraethog yn 1954, yn dal i deyrnasu dros y wlad o’i chwmpas (Delwedd DI2009_0891)

Hyn yn wir a ddenodd gŵr o’r enw Hudson Ewbanke Kearley, a ddaeth yn ddiweddarach yn Is-Iarll Devonport (1856-1934), i’r ardal. Gŵr busnes oedd Kearley a oedd wedi gwneud ei arian drwy sefydlu’r International Tea Company Stores, cadwyn gyda mwy na 200 siop. Bu hefyd yn wleidydd llwyddiannus a chafodd ei benodi’n weinidog gyda chyfrifoldeb dros gyflenwadau bwyd yng nghabinet Lloyd George yn 1916.

Is-Iarll Devonport 1925 (Wikipedia commons)
Is-Iarll Devonport 1925 (Wikipedia commons)

Gwylfa Hiraethog

Yn y 1890au fe gododd Kearley gaban hela sylweddol o goed ger y dafarn. Galwodd ef yn Wylfa Hiraethog, er i bobl leol ei alw’n Blas Pren. Mewnforiwyd yr adeilad gwreiddiol o Norwy ac fe’i hail-godwyd ar safle llwm ac agored iawn â golygfeydd godidog o Eryri. Anerchodd Lloyd George dorf fawr o’r oriel yn 1908 ar ôl i’r wylfa gael ei hailadeiladu i greu plasty carreg yn y dull Jacobeaidd. Roedd ganddo 11 ystafell wely a chafodd ei estyn yn 1913. Rhaid bod y plasty’n peri cryn syndod i deithwyr ar y ffordd fynyddig, anghysbell hon.

Cartref i giperiaid erbyn 1953 (Delwedd DI2009_0890)
Cartref i giperiaid erbyn 1953 (Delwedd DI2009_0890)

Byddai’r teulu’n cynnal partïon saethu ar gyfer ffrindiau cyfoethog a gellir olrhain olion y mannau saethu yn y grug. Fodd bynnag, roedd yn anodd denu gweision a morynion i weithio yno a thasg drafferthus iawn oedd cludo nwyddau i’r safle. Dywedwyd, er enghraifft, ei bod yn cymryd un ar bymtheg o geffylau i gludo glo o Ddinbych i Wylfa Hiraethog. Wrth iddi ddod yn haws teithio i rostiroedd grugieir o’r fath mewn ceir, penderfynodd yr Arglwydd Devonport werthu’r ystâd, a gwnaed hynny yn 1925. Yr olaf i fyw yno oedd y cipar, Hugh Williams, a fu’n beili ystâd Hafod Elwy ar ôl hynny.

Gwylfa Hiraethog yn 2009 (Delwedd DS2009_176_001)
Gwylfa Hiraethog yn 2009 (Delwedd DS2009_176_001)

Mae’r tŷ yn wag ers y 1950au ac ychydig iawn o’r adeilad sydd ar ôl erbyn heddiw – diflannodd y crandrwydd a fu. Fel y canodd Ieuan Fardd i Lys Ifor Hael,

‘Drain ac ysgall, mall a’i medd,
Mieri lle bu mawredd’.

Gwylfa Hiraethog o’r awyr yn 2009 (Delwedd AP_2009_4015)
Gwylfa Hiraethog o’r awyr yn 2009 (Delwedd AP_2009_4015)

▶ Disgrifiad o’r safle a lluniau ar Coflein: Gwylfa Hiraethog

Gan Dr Ywain Tomos, Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell


Gobeithiwn i chi fwynhau ein postiad blog diweddaraf. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu storïau yr hoffech eu rhannu, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

06/08/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x