Hanes Cryno Llyfrgell Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Llyfrgell RCAHMW a’r Ystafell Chwilio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2021

Cyflwyniad

Yn 1908, sefydlwyd RCAHMW o dan Warant Brenhinol i gofnodi ac ymchwilio i dreftadaeth archaeolegol ac adeiledig Cymru. Cynhyrchwyd arolygon, ffotograffau a Stocrestri fel rhan o’r gwaith hwn a chasglwyd llyfrau, pamffledi a gwybodaeth arall fel sail iddynt. Erbyn y 1960au roedd casgliad enfawr o ddeunyddiau wedi cronni oedd angen eu dodoli, cofnodi eu derbyn a’u catalogio ac, yn 1963, sefydlwyd y Cofnod Henebion Cenedlaethol (NMRW) yn swyddogol. Roedd yn cynnwys yr archif a’r llyfrgell, gan gadw deunydd heb ei gyhoeddi ac wedi’i gyhoeddi yn eu trefn.    

Er iddi gael ei chreu’n wreiddiol i wasanaethu staff y Comisiwn, mae’r llyfrgell bellach ar agor i’r cyhoedd ac yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â’r casgliadau archif. Mae ei stoc yn ategu ac yn gwella’r archifau yn uniongyrchol, gan gwmpasu pob agwedd ar archaeoleg, pensaernïaeth, archaeoleg forol, hanes, topograffeg a chartograffeg, deddfwriaeth gynllunio a strategaeth amgylchedd hanesyddol Cymru. Cedwir casgliad hynafiaethol bychan hefyd. Mae testunau sy’n cwmpasu ardaloedd daearyddol ehangach yn darparu cyd-destun ar gyfer y deunydd Cymreig.

Mae’r llyfrgell yn casglu holl gyfnodolion cyfredol y cymdeithasau archaeolegol sirol ar gyfer Cymru, yn ogystal â’r cyfnodolion archaeolegol, pensaernïol a hanesyddol arbenigol perthnasol. Mae’r casgliadau’n cynrychioli ymdriniaeth gyffredinol ag archaeoleg a phensaernïaeth Cymru, yn ogystal ag adlewyrchu diddordebau penodol staff a’r prosiectau maent wedi ymgymryd â hwy. Ceir casgliadau arbennig o gryf ar feysydd pwnc allweddol anghydffurfiaeth yng Nghymru, pensaernïaeth werinol, ac archaeoleg ddiwydiannol.

Y Blynyddoedd Cynnar


Llyfrgellydd cyntaf y Comisiwn oedd W. Gwyn Thomas (1928–1994). Ymunodd â staff y Comisiwn yn 1956 fel ymchwilydd yn gweithio i ddechrau ar Stocrestri Sir Gaernarfon, tra hefyd yn gyfrifol am y casgliad llyfrau. Erbyn y 1970au roedd y casgliad hwn wedi tyfu’n sylweddol ac roedd yn cael ei adnabod fel ‘Llyfrgell yr Ymchwilwyr’. Dyfeisiwyd cynllun dosbarthu sylfaenol iawn i ganiatáu i’r meysydd pwnc cyffredinol gael eu cadw gyda’i gilydd ar silffoedd. Yn ystod y cyfnod hwn, aeth rheolwyr y llyfrgell ati i weithredu’n fwy ffurfiol, gan gyflwyno gweithdrefnau benthyca staff a gwahanu llyfrau cyfeirio yn unig. Erbyn 1980 roedd pob llyfr yn cael ei ddewis gan bwyllgor llyfrgell yn cynnwys cynrychiolwyr o arbenigeddau’r Comisiwn ym maes archaeoleg a phensaernïaeth: Rhufeinig a Chynhanes; Canoloesol; Tuduraidd a Stiwartaidd; Modern.

A Historical Tour through Pembrokeshire (1811) gan Richard Fenton.

Tudalen deitl o An Historical Tour in Monmouthshire (1801) gan William Coxe yn dangos stamp yr Arolwg Ordnans.

Yn 1983 cafodd Adran Archaeolegol yr Arolwg Ordnans ei dirwyn i ben a rhoddwyd ei deunydd Cymreig yn yr NMRW, gan gynnwys nifer sylweddol o lyfrau a chyfnodolion. Roedd nifer o lyfrau hynafiaethol ymhlith y deunydd, gan gynnwys An Historical Tour in Monmouthshire (1801) gan Coxe ac A Historical Tour through Pembrokeshire (1811) gan Fenton. Mae’n debyg mai’r ychwanegiad sylweddol hwn at y llyfrgell a ysgogodd Thomas i ddiweddaru’r cynllun dosbarthu syml presennol i’r un y mae ei nodiant alffaniwmerig sylfaenol i’w weld yn y dosbarthiad cyfredol. Mae’n gynllun unigryw a oedd wedi’i effeithio mae’n debyg gan ddylanwad cynllun y Sefydliad Ymchwil Hanesyddol (IHR) lle roedd Thomas wedi gweithio ar ddechrau ei yrfa. Mae’r ddau gynllun yn defnyddio nodiant alffaniwmerig ac mae’r ddau’n gadarn yn ddaearyddol. Ers hynny, mae wedi’i ehangu a’i ‘ronynnu’ i ymgorffori’r stoc cynyddol a datblygu pynciau.

Datblygiad


Mae’n ymddangos bod derbyn y casgliad OS wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid yn y llyfrgell ac, unwaith yr ymddeolodd Gwyn Thomas yn 1988, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am y llyfrgell i’r NMRW o dan arweiniad Hilary Malaws (Sherrington gynt). Yn 1990 cafodd y llyfrgell lyfrgell bersonol Dr Hogg, casgliad sylweddol arall o lyfrau a chyfnodolion. Cynyddodd ein casgliadau yn gyflym eto gyda rhoddion gan yr Ysgrifennydd a oedd yn ymddeol, Peter Smith, a’r Comisiynydd, Dr Apted.

Peter Smith yn cofnodi tŷ neuadd Tŷ-mawr, Castell Caereinion, cyn ei adfer (NPRN 21452, Cyf. llun: DI2010_0757).

Houses of the Welsh Countryside (2il argraffiad adolygedig, 1988) a oedd yn cynnwys Tŷ-mawr. Fe wnaeth casgliad llyfrau Peter Smith wella adran pensaernïaeth werinol y llyfrgell yn fawr.

Yn ystod y cyfnod hwn, newidiwyd pwyslais y llyfrgell o gefnogi gweithgarwch prosiect y Comisiwn yn unig i adeiladu casgliad mwy cynrychioliadol o archaeoleg a phensaernïaeth Cymru. Yn 1996, pan symudodd y Comisiwn i Blascrug, agorodd y llyfrgell i’r cyhoedd at ddibenion cyfeirio ac, yn 1997, o dan arweiniad y Llyfrgellydd Patricia Moore, datblygwyd catalog cyfrifiadurol. Symudwyd hwn yn 2016 i Koha, system rheoli llyfrgell ar-lein, sy’n caniatáu i’r cyhoedd chwilio a phori drwy’r catalog gartref.

Catalog llyfrgell ar-lein RCAHMW lle gallwch chi bori a chwilio drwy ein casgliadau.

O’i dechrau un yn ystafell Gwyn Thomas yn Nhŷ Eddleston i agoriad ffurfiol y llyfrgell i’r cyhoedd ym Mhlascrug yn 1996, mae llyfrgell y Comisiwn wedi bod ar sawl ffurf wrth barhau i ddatblygu. Yn 2016 cyflwynwyd llyfrgell y Grŵp Pensaernïaeth Werinol yn ogystal â chasgliad mawr o ddeunydd am Brydain Rufeinig. Y flwyddyn honno hefyd symudodd RCAHMW i Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle byddwch yn dod o hyd i’n llyfrau a’n cyfnodolion gyda mynediad agored yn ystafell chwilio’r Comisiwn Brenhinol. Mae’r silffoedd ar gael i bori ar eu hyd a gellir eu defnyddio ochr yn ochr â’r casgliadau archif sy’n caniatáu i ddarllenwyr ddefnyddio dull ymchwil cwbl integredig.

Casgliad


Mae tarddiad llyfrgell y Comisiwn yn nodweddiadol o lawer o lyfrgelloedd sefydliadol arbenigol ac yn adlewyrchu’r ffordd maent yn tyfu’n organig gan ymateb i anghenion defnyddwyr mewnol. Wrth iddi ddatblygu dros amser, mae ei chasgliadau wedi ehangu ac mae wedi agor i’r cyhoedd. Mae rhoddion hael o gasgliadau llyfrau sylweddol wedi darparu sylfaen gadarn ar gyfer adeiladu llyfrgell sy’n adlewyrchu llwybr archaeolegol, topograffig a phensaernïol ehangach Cymru. Felly, nid yn unig mae’r llyfrgell bresennol yn ategu ac yn darparu cyd-destun i archif NMRW ond mae hefyd wedi dod yn adnodd pwysig ynddo’i hun ar gyfer ymchwil i amgylchedd hanesyddol Cymru.

Penny Icke, Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth.

10/08/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x