
Hanes Tŷ ar y Mynydd – Arddangosfa yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth: cyfle prin i weld ffermdy gwag yn ucheldir Cymru drwy lygaid ffres!
Mae’r arddangosfa ‘Hanes Tŷ ar y Mynydd / The Story of a House on a Hill’ yn cael ei dangos yn ffenestr Oriel y Piazza yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth hyd 11 Hydref 2021.
Mae’r arddangosfa ‘ffenestr’ newydd hon, wedi’i chreu a’i churaduro gan grŵp o archaeolegwyr ifanc o Geredigion, yn rhoi golwg unigryw ar dreftadaeth leol.

Mae ‘Ceredigion Gyfyngedig?’, a sefydlwyd yn 2017, yn un o saith prosiect rhanbarthol sy’n cael eu hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o brosiect ehangach o’r enw ‘Treftadaeth Ddisylw?’ sydd yng ngofal Cadw. Arweinir y prosiect hwn gan bobl ifanc gyda chymorth y Comisiwn Brenhinol, a’i nod yw ennyn brwdfrydedd y cyfranogwyr ifanc dros dreftadaeth.
Ers ei sefydlu, mae aelodau panel ‘Ceredigion Gyfyngedig?’ (y CHYPs fel y’u gelwir gan bawb) wedi gweithio’n galed i ddiogelu a chofnodi eu treftadaeth leol. Eu syniadau, safbwyntiau a chymeriadau eithriadol nhw sydd wedi llywio’r gwaith. Maen nhw wedi dilyn eu greddfau a’u mympwyon eu hunain a buont ar dipyn o antur gyda’i gilydd.

Roedd gan y prosiect thema wahanol bob blwyddyn: ‘Ysbrydion, Llafur a Lladdfa: Darganfod gweithwyr a gweithleoedd drychiolaethol Ceredigion gynt’ yn 2017–2018; ‘Cartref, Aelwyd, Bywyd a Marwolaeth: Chwilio am chwedlau’r aelwyd yng nghartrefi cudd Ceredigion’ yn 2018–2019; ac ‘Ysblander, Adloniant a Chân: Darganfod y personoliaethau a lleoedd ysblennydd yng ngorffennol amser hamdden Ceredigion’ yn 2019-2020.
Yn anffodus, cafodd y prosiect ergyd drom yn 2019 pan gollwyd ei arweinydd ysbrydoledig, Anna Evans. Er cof amdani, ac er gwaethaf y pandemig byd-eang, brwydrodd y CHYPs yn ddygn yn erbyn pob anhawster a daethant at ei gilydd i ddylunio a chyhoeddi eu llyfr eu hunain, ‘Hanes Tŷ ar y Mynydd / The Story of a House on a Hill’. Mae’r llyfr cyfoethog a bywiog hwn yn arwydd amlwg o’u cariad at eu treftadaeth.

Yn 2019, aeth y CHYPs ati i gofnodi ffermdy gwag yn y bryniau y tu hwnt i Bont-goch. Mae ‘Hanes Tŷ ar y Mynydd / The Story of a House on a Hill’ yn dathlu eu darganfyddiadau a’r gwaith a wnaed wedyn i gofnodi ac archifo’r bywyd, y fywoliaeth a’r gymuned a oedd yn gysylltiedig â’r lle. Maen nhw’n eich arwain drwy bob ystafell yn y tŷ, gan rannu â chi eu meddyliau a’u teimladau ar y pryd. Maen nhw’n mynd â chi yn ôl mewn amser i fyd sydd wedi hen ddiflannu.

ystafell wely.’ Tudalen 16
Trefniant o’r arteffactau a ddarganfuwyd yn y ffermdy yw’r arddangosfa bresennol yn ffenestr Oriel y Piazza, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Rhoddwyd hi wrth ei gilydd yn ofalus i gynrychioli bywydau a chymunedau o’r gorffennol sydd o’n cwmpas ymhobman, wedi’u cuddio rhag y llygad modern. Yn ogystal â dathlu’r prosiect hwn a’r bobl ifanc, mae’n talu teyrnged i’r bobl a ddaeth o’n blaen ac a adawodd drywydd y gallwn ei ddilyn.

Mae’r arddangosfa ‘Hanes Tŷ ar y Mynydd / The Story of a House on a Hill’ yn cael ei dangos yn ffenestr Oriel y Piazza, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth hyd 11 Hydref 2021.
Mae llyfr y CHYPs, ‘Hanes Tŷ ar y Mynydd / The Story of a House on a Hill’, ar gael fel eLyfr am ddim, neu fel copi printiedig argraffiad cyfyngedig am £3.99 (costau pacio a phostio) o’n siop ar-lein. Mae nifer cyfyngedig o gopïau ar gael hefyd yn Oriel Un, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
I lawrlwytho’r eLyfr ewch i: https://siop.cbhc.gov.uk/collections/downloads/products/the-story-of-a-house-on-a-hill
I archebu copi papur argraffiad cyfyngedig ewch i: https://siop.cbhc.gov.uk/collections/books/products/the-story-of-a-house-on-a-hill-1
Darganfyddwch fwy am y Prosiect Treftadaeth Ddisylw:
- https://treftadaethddisylw.cymru/
- https://treftadaethddisylw.cymru/ceredigion/
- https://ceredigionofflimits.home.blog/category/uncategorized/
- https://cbhc.gov.uk/treftadaeth-ddisylw-ddim-yn-ddisylw-mwyach/
- https://www.youtube.com/playlist?list=PLybtZ8nONZJlPmGADr0YaEFw8mrOvtU8X
- https://cbhc.gov.uk/prosiect-ieuenctid-newydd-yn-y-comisiwn-brenhinol-treftadaeth-ddisylw-ceredigion-gyfyngedig/
- https://cbhc.gov.uk/pobl-ifanc-a-threftadaeth/
- https://cbhc.gov.uk/pymtheg-prosiect-treftadaeth-yn-cyrraedd-rownd-derfynol-gwobrau-angel-treftadaeth-cymru/
- https://cbhc.gov.uk/treftadaeth-ddisylw-darganfod-hanes-anghofiedig-cymru-wrth-ymgysylltu-ar-genhedlaeth-nesaf/
Gan Marisa Morgan
16/09/2021