
Hanes y Dyfodol
Bydd ein prif siaradwr, Dr Alexy Karenowska o’r Sefydliad Archaeoleg Ddigidol, yn siarad am y posibiliadau ar gyfer cadwraeth ddiwylliannol ac archaeoleg a gynigir gan dechnoleg. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y defnydd o dechnolegau argraffu a pheiriannu 3D i adfer neu gopïo adeiladweithiau ac arteffactau sydd wedi cael eu difrodi neu eu dinistrio, a datblygu technolegau newydd ar gyfer nodweddu a diogelu gwrthrychau treftadaeth. Mae hi hefyd wrthi’n datblygu trafodaeth ar beth yw treftadaeth ddiwylliannol, beth mae’n ei golygu i’r gymdeithas sydd ohoni, a sut y gallwn weithio fel cymuned ryngwladol i’w gwarchod.
Ym mis Ebrill 2016, roedd Dr Alexy Karenowska yn gyfrifol am reoli gosod replica graddfa enfawr y Sefydliad Archaeoleg Ddigidol o’r Porth Buddugoliaeth ym Mhalmyra, Syria ar Sgwâr Trafalgar yn Llundain, ac yn ddiweddarach yn Efrog Newydd. Cafodd yr adeiladwaith hwn ei gynhyrchu drwy gyfuniad o fodelu cyfrifiadurol 3D seiliedig ar ffotogrametreg a’r technegau peiriannu 3D diweddaraf mewn carreg.
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Lleoliad | Cofrestru | Sylwadau | Blogs | Arddangosfeydd | Ein Noddwyr
13/02/2017