
Hedfan yn uchel – olion cnydau newydd a ddarganfuwyd gan y Comisiwn Brenhinol yn cael sylw ar The One Show
Ddydd Mawrth diwethaf, ar ôl wythnosau o dynnu lluniau nifer anhygoel o olion cnydau newydd sy’n tystio i fodolaeth llu o safleoedd archaeolegol anghofiedig yng Nghymru, cyfarfu Dr Toby Driver, ymchwilydd o’r awyr y Comisiwn Brenhinol, â’r newyddiadurwraig Lucy Siegle a chriw The One Show i rannu rhai o’i ddarganfyddiadau. Y man cyfarfod oedd Goginan, ger Aberystwyth, Ceredigion, lle mae’r sychder wedi datgelu’n hynod o eglur grug ffos ddwbl o’r Oes Efydd Gynnar a gafodd ei ddefnyddio’n ddiweddarach ar gyfer claddedigaethau canoloesol. Ar yr un diwrnod, daeth plant o’r ysgol gynradd leol, Ysgol Penllwyn, i archwilio’r safle gyda chaniatâd caredig y tirfeddiannwr, Kathy Price. Yn y prynhawn, ymunodd Lucy â Toby ar daith hedfan i ymchwilio ymhellach i safleoedd archaeolegol newydd eu darganfod yn ardal Hwlffordd.
I ddilyn hanes Toby a’r tîm, daliwch i fyny gyda’r One Show nos yfory, Nos Fawrth 24 Gorffennaf.
Sychder ledled Cymru yn datgelu mwy o henebion archaeolegol coll

Lucy Siegle gyda Toby a’r peilot cyn hedfan o faes awyr Hwlffordd.

Toby gyda Lucy a chriw The One Show yng Ngoginan.

Mae dau gylch crug consentrig Goginan i’w gweld yn glir fel olion cnydau yn sgil y sychder mawr eleni.
07/23/2018