
Hendre Uchaf, Abergele, gan Nicola Roberts, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Mae fy hoff luniau’n ymwneud â safle sydd o ddiddordeb mawr i mi’n bersonol – sef y tŷ y bûm yn byw ynddo yn fy arddegau wrth dyfu i fyny yng ngogledd Cymru yn y 1970au a’r 1980au: Hendre Uchaf, Abergele.
Yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl ymuno â’r Comisiwn ym mis Mawrth 2007, fe wnes i’r peth cyntaf y bydd llawer ohonom yn ei wneud wrth ddod ar draws y cannoedd ar filoedd o ddelweddau anhygoel y gallwch eu llwytho i lawr o Coflein – chwilio am hen gartref y teulu neu safle sydd o ddiddordeb personol.

Er llawenydd i mi, ni fûm fawr o dro yn dod o hyd i gyfres o ffotograffau a dynnwyd gan y ffotograffydd pensaernïol gwych a thoreithiog, G B Mason, a fu’n gweithio i’r Cofnod Adeiladau Cenedlaethol (a ddaeth yn sylfaen i’n Cofnod Henebion Cenedlaethol yn ddiweddarach). O gyfnod yr Ail Ryfel Byd hyd y 1960au fe dynnodd tua 11,000 o luniau o safleoedd ar hyd a lled Prydain, yn aml cyn iddynt gael eu dymchwel neu eu hadnewyddu. Tynnwyd y ddau lun hyn o Hendre Uchaf ym 1953, ymhell cyn i mi fynd yno i fyw (!) a chyn i’r tŷ gael ei adnewyddu. Ond rydw i’n cofio bod yr ardd fwy neu lai fel y mae yn y llun, gyda’r rhosod dringo yn cyrraedd ffenestr yr ystafell wely. Ac rydw i’n cofio’r drws ffrynt mawr o dderw a dyddiad adeiladu’r tŷ, 1591, wedi’i gerfio ar garreg uwch ei ben. Fe fyddaf i’n edrych ar y drws heddiw, gyda Mr Black, ci defaid y perchennog blaenorol, yn cysgu’n ddiog yn heulwen y prynhawn o’i flaen, ac yn meddwl faint o weithiau y rhedais i mewn ac allan bryd hynny, heb boeni am y dyfodol nac am hanes y tŷ – dim ond cartref oedd ef i mi ac i’m brodyr a’m chwiorydd sydd bellach wedi’u gwasgaru i bedwar ban byd!

Wrth ymchwilio i hanes Hendre Uchaf, fe ddarganfûm fod Peter Smith wedi gwneud cynllun o’r tŷ ac i hwn gael ei gynnwys yn ei gyfrol fawr Houses of the Welsh Countryside (ffig. 95c). Dangosodd fod y tŷ yn perthyn i ddosbarth o dai lloriog cynnar â lle tân yn y wal hir. Cafodd ei gynnwys ar bedwar map dosbarthiad (Mapiau 28, 37, 28 a 48a) sy’n crynhoi hanes pensaernïol y tŷ. Rydw i’n gwybod erbyn hyn fod yna gannoedd, os nad miloedd, o dai hanesyddol yng Nghymru, ond i mi fe fydd Hendre Uchaf bob amser yn arbennig.
Manylion y Safle: https://coflein.gov.uk/cy/site/27312/details/hendre-uchaf
Gan Nicola Roberts
06/30/2020