
HMS Hamadryad: troi llong yn ysbyty
Bydd llawer o bobl Caerdydd yn cofio Ysbyty’r Royal Hamadryad, ysbyty i forwyr ar un adeg ac yna ysbyty seiciatrig yn ardal y dociau a gaeodd yn 2002, ond nid yw ei hanes fel llong ysbyty, HMS Hamadryad, mor gyfarwydd. Yn ystod y 1860au, roedd HMS Hamadryad yn un o dair llong ryfel bren wedi’u hadeiladu gan y Morlys a gafodd eu hangori’n barhaol yn nociau Caerdydd. ‘Llong efengylu’ at ddefnydd y genhadaeth eglwysig oedd HMS Thisby ac ‘Ysgol Garpiog’ a ddefnyddid i hyfforddi bechgyn ar gyfer bywyd ar y môr oedd HMS Havannah.
Y drydedd long – a’r enwocaf – oedd HMS Hamadryad, hen ffrigad 46-gwn yn perthyn i’r dosbarth Leda, dosbarth llwyddiannus o ffrigadau a gafodd eu hadeiladu gan y Llynges Frenhinol o 1802 ymlaen.

Ysbyty’r Hamadryad
Agorodd yr ysbyty ar 1 Tachwedd 1866 i ddarparu gofal ar gyfer morwyr sâl o borthladdoedd Caerdydd, Y Barri a Chasnewydd. Ysbyty’r Hamadryad oedd yr unig ysbyty yng Nghaerdydd ar gyfer trin afiechydon heintus nes i ysbyty heintiau gael ei agor yn y 1890au ar Ynys Echni. Cafodd y llong ei haddasu’n llong ysbyty drwy osod 60 o welyau ynddi ar gost o £2791 0s 5d ond roedd yn parhau’n eiddo i’r Llynges Frenhinol. Ei lleoliad cychwynnol oedd Doc Dwyreiniol Bute, ond ym 1867 cafodd ei hangori ger loc môr Camlas Sir Forgannwg ar dir gwastraff a roddwyd gan Ardalydd Bute, a hynny’n agos at ardal o dai a fyddai’n datblygu’n Tiger Bay. Sylfaenydd Ysbyty’r Hamadryad oedd Dr Henry James Payne, Prif Swyddog Iechyd cyntaf Caerdydd rhwng 1855 a 1877. Gweithiodd Dr Payne yn ddiflino i leihau colera, y frech wen a theiffws, ac yn ystod ei phedwar degawd yn nociau Caerdydd fe gafodd mwy na 173,000 o gleifion eu trin ar y llong. Roedd y gyfradd marw o 4½ y cant yn hanner y gyfradd mewn rhai o ysbytai Llundain. Cafodd cleifion o bob cenedl eu derbyn, ond nid menywod, gan ei fod yn ysbyty ar gyfer morwyr, er eu bod yn hollol hanfodol fel nyrsys wrth gwrs!

Ysbyty Hamadryad Brenhinol i Forwyr
Ym mis Mehefin 1905 fe gafodd gwaith y llong ysbyty ei symud i’r lan i ysbyty pwrpasol newydd gerllaw. Cawsai’r ysbyty ei gynllunio gan E W M Corbett, pensaer stad Ardalydd Bute, a chafodd ei ailenwi’n Ysbyty Hamadryad Brenhinol i Forwyr. Disgrifiad John Newman (cyn Gomisiynydd Brenhinol) o’r adeilad brics coch gyda manylion terra cotta oedd ‘An ebullient performance in [Corbett’s] favourite Queen-Anne-cum-Jacobean style’. Roedd 54 gwely yn yr ysbyty newydd a pharhaodd yn ysbyty i forwyr hyd 1948 – dim ond un o ddau ym Mhrydain a gynigiai driniaeth ddi-dâl i forwyr yn unig. Ar ôl sefydlu’r GIG, daeth yr Hamadryad yn ysbyty cyffredinol, ac yna’n ysbyty seiciatrig, nes ei gau yn 2002.

Drwy gydol y cyfnod hwn fe edrychai blaenddelw HMS Hamadryad i lawr yn rhadlon ar y staff a’r cleifion. Mae’r flaenddelw a chloch y llong bellach yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru – National Museum of Wales.
Mae hanes HMS Hamadryad yn ein hatgoffa o’r frwydr arwrol yn erbyn afiechydon heintus. Mae Dr David Jenkins yn rhoi sylw manwl i stori’r Hamadryad yng nghyd-gyhoeddiad diweddaraf y Comisiwn Brenhinol, Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr, lle ceir llu o hanesion eraill gan fwy na 50 o arbenigwyr ar hanes morwrol Cymru. Gellir ei brynu gan Gyngor Llyfrau Cymru: http://www.gwales.com
05/01/2020