Houses of the Welsh Countryside

Clawr yr argraffiad cyntaf, a ddangosai Hen Ficerdy Aberriw, 1975.
Clawr yr argraffiad cyntaf, a ddangosai Hen Ficerdy Aberriw, 1975.

Dros ran helaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, bu hynafiaethwyr yn astudio ffermdai a bythynnod gan weithredu fwy neu lai’n annibynnol ar archaeolegwyr a haneswyr proffesiynol. Ym 1975 cyhoeddwyd dau lyfr arloesol ar bensaernïaeth frodorol, sef English Vernacular Architecture gan Eric Mercer a Houses of the Welsh Countryside gan Peter Smith, ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol. Yr oedd y ddau lyfr yn wahanol iawn o ran eu dull i inventories y Comisiwn, yn gyfuniadau cywrain o ymchwil empeiraidd a myfyrdod aeddfed. Er bod y ddwy gyfrol yn anelu at wneud synnwyr o gorff sylweddol o wybodaeth, yr oedq agwedd y naill at y pwnc  yn wahanol i eiddo’r  llall. Lle mabwysiadodd Mercer ddull esblygiadol, gan ddadlau i bensaernïaeth tai weld cyfnodau o ddatblygiad nad oedd yn amrywio rhyw lawer o le i le, gwelai Smith ddatblygiadau pensaernïol newydd yn lledu ar draws Cymru.

▶️ Morgannwg: Ffermdai, Tai a Phlastai
Crucks Cymru
Yr oedd y mapiau niferus yn Houses of the Welsh Countryside yn dangos dosbarthiad daearyddol y bensaernïaeth frodorol: ar fap 12 dangoswyd dosbarthiad adeiladau â nenffyrch.

Patrwm newydd sbon oedd i HWC (fel y bydd staff y Comisiwn Brenhinol yn cyfeirio at y gyfrol). Tynnai’r is-deitl, ‘a study in historical geography’, sylw at galon y llyfr, sef cyfres o hanner cant o fapiau a ddangosai ddosbarthiad daearyddol nodweddion pensaernïol arbennig tai yng Nghymru. Yr oedd y rhestr gyfun o safleoedd – a honno wedi’i threfnu fesul sir fel yr inventories – yn llenwi dwy golofn cynifer ag un ar bymtheg ar hugain o dudalennau: mae’n bwynt cyfeirio amhrisiadwy. Dylanwad mawr ar ffordd Smith o ddefnyddio mapiau yn ei lyfr oedd The Personality of Britain (1932) gan Syr Cyril Fox,un o’r comisiynwyr cynharaf. Er i Fox honni bod Cymru gyfan yn perthyn, yn archaeolegol, i ‘barth ucheldiroedd’ Prydain, dangosodd Smith fod i Gymru ‘bersonoliaeth bensaernïol’ gymhleth a bod dosbarthiad nodweddion y bersonoliaeth honno’n amrywio o ranbarth i ranbarth.

Tai Canoloesol

Ar sail y mapiau o gerrig dyddio, daeth Peter Smith i’r casgliad i ddatblygiadau newydd ym myd pensaernïaeth ymledu, gan amlaf, o’r dwyrain  i’r gorllewin. Defnyddiodd fetaffor trawiadol o fyd y rheilffyrdd  i gyfleu’r pwynt hwnnw. Dangosai’r mapiau niferus ddosbarthiad daearyddol gwaith graenus seiri coed Cymru’r Oesoedd Canol: yr oedd dosbarthiad y nenffyrch llawn yn dangos yn syth gynifer o dai canoloesol yng Nghymru a oedd wedi goroesi, a’u dosbarthiad anwastad. Dangosodd hefyd fod cynllun unffurf i dai canoloesol, ac i’r tai hynny gael eu dilyn gan amrywiaeth o fathau rhanbarthol. Materion sy’n cyffroi diddordeb aruthrol heddiw  yw amseriad y newid  o’r neuadd agored i’r tŷ â dau neu ragor o loriau, a’r rhesymau dros yr amrywiaeth  yng nghynllun tai ôl-ganoloesol. Darluniodd Smith y gwahanol fathau o dai gan ddefnyddio amryw o gynlluniau a thorluniadau dadlennol, a deuai hynny’n batrwm  i waith yn y maes hwn  yn y dyfodol.

Y tŷ o ddau gyfnod yn y Dduallt ger Maentwrog. Ar y dde y mae'r tŷ cynharaf. Fe'i codwyd yn y bymthegfed neu'r unfed ganrif ar bymtheg.
Y tŷ o ddau gyfnod yn y Dduallt ger Maentwrog. Ar y dde y mae’r tŷ cynharaf. Fe’i codwyd yn y bymthegfed neu’r unfed ganrif ar bymtheg.
▶️ Y Tŷ Hynaf yng Nghymru

Hanes Tŷ

Taith ddarganfod oedd – ac yw – HWC. Yr oedd modd ei ysgrifennu am fod y wybodaeth  a ddeilliai o arolygon unigol wedi ei chrynhoi a’i chatalogio yn y Cofnod Henebion Cenedlaethol, archif a oedd erbyn hynny ar gynnydd. Syndod erbyn hyn yw sylweddoli mai Peter Smith a’r Comisiwn oedd y cyntaf i ddod o hyd i safleoedd allweddol fel Tŷ-mawr yng Nghastell Caereinion ac amryw o adeiladau pwysig eraill, a’u gosod yn eu cyd-destun. Tai oeddent, gan mwyaf, nad oedd eu hanes wedi’i gofnodi ar bapur: dangosodd Smith fod yr adeiladau’n ddogfennau hanesyddol ynddynt eu hunain a bod eu hastudio’n rhan annatod o astudio hanes yn fwy cyffredinol. Gan i HWC gyfoethogi ac ehangu’r gwerthfawrogi ar bensaernïaeth hanesyddol a brodorol Cymru, fe sicrhaodd gadwraeth llu o dai a fyddai, fel arall, wedi diflannu.

Daeth epigraff priodol HWC o lyfr O. M. Edwards Cartrefi Cymru: ‘Tybed fy mod wedi codi awydd ar rywun, yn y dalennau sydd yn y llyfr  hwn, i fyned ar bererindod i rai o gartrefi Cymru….’.

Gan Richard Suggett

▶️ Ymchwilio i Hanes eich Tŷ

09/21/2018

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x