
Hygyrchedd: Sut i Ddod o Hyd i Ni
Fel rhan o ymrwymiad y Comisiwn Brenhinol i Hygyrchedd, a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth, rydym wedi cynhyrchu canllaw digidol ar-lein gweledol a thestunol ar Sut i Ddod o Hyd i Ni.
Gellir gweld y canllaw yma https://cbhc.gov.uk/gwasanaethau/sut-i-ddod-o-hyd-i-ni/
Mae hefyd ar gael fel dogfen pdf y gellir ei lawrlwytho https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2019/03/Sut-i-Ddod-o-Hyd-i-Ni-1.pdf
Gan gymryd i ystyriaeth yr holl ffyrdd y gall pobl ddod i’n Swyddfeydd a’n Hystafell Ymchwil a Llyfrgell gyhoeddus – ar y trên neu’r bws, mewn car, neu ar droed – mae’r canllaw yn rhoi disgrifiadau manwl a chlir, ynghyd â lluniau, o’r llwybrau, y mannau parcio, a’r cyfleusterau sydd ar gael i ddefnyddwyr:
Ar y bws https://cbhc.gov.uk/gwasanaethau/sut-i-ddod-o-hyd-i-ni/#link2
Mewn car https://cbhc.gov.uk/gwasanaethau/sut-i-ddod-o-hyd-i-ni/#link1
Ar droed (yn berthnasol hefyd i bobl sy’n cyrraedd y dref ar y trên) https://cbhc.gov.uk/gwasanaethau/sut-i-ddod-o-hyd-i-ni/#link3
Parcio, Hygyrchedd, a Chyfleusterau i Ddefnyddwyr https://cbhc.gov.uk/gwasanaethau/hygyrchedd-a-chyfleusterau-defnyddwyr/
Mae hefyd yn cynnwys lluniau a thestun i ddangos i ymwelwyr sut i ddod o hyd i’n Hystafell Ymchwil a Llyfrgell ar ôl iddynt ddod i mewn i adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
Yn y lifft https://cbhc.gov.uk/gwasanaethau/sut-i-ddod-o-hyd-i-ni/#link5
I fyny’r grisiau https://cbhc.gov.uk/gwasanaethau/sut-i-ddod-o-hyd-i-ni/#link6
Drwy ddarparu gwybodaeth weledol ac ysgrifenedig ymlaen llaw, gobeithiwn y bydd ein hymwelwyr yn teimlo’n fwy hyderus pan fyddant yn ymweld â ni am y tro cyntaf. Gall pobl nad ydynt yn gyfarwydd ag archifau deimlo ychydig yn ansicr ar eu hymweliad cyntaf, felly gobeithiwn y bydd ein canllaw yn lleddfu unrhyw bryderon.
Rydym hefyd wedi creu sgan 3D o’r Ystafell Ymchwil a Llyfrgell er mwyn gwneud eu hymweliad yn brofiad mwy cyfeillgar.
Mae cynlluniau llawr ar gael hefyd:
Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr, hen a newydd: rydych chi’n siŵr o gael croeso mawr!

10/10/2019