
Japan a Sir Benfro – yr HIRANO MARU

HIRANO MARU – Ffynhonnell: David James, Cymdeithas Treftadaeth Forol Gorllewin Cymru.
Ar 4 Hydref 1918 roedd yr HIRANO MARU, llong fasnach a oedd yn eiddo i Gwmni Llongau Nippon Yusen Kaisha, yn hwylio o Lerpwl i Yokohama heibio i Dde Affrica gyda 320 o griw a theithwyr ar ei bwrdd. Ei chapten oedd Hector Fraser o’r Alban ac roedd hi mewn confoi a oedd yn cael ei hebrwng gan yr USS STERETT, distrywlong Americanaidd.
Pan oedd hi 200 milltir i’r de o Iwerddon fe ymosodwyd arni gan yr UB 91, llong danfor Dosbarth III Almaenig dan reolaeth y Capten Wolf Hans Hartwig. Cafodd yr HIRANO MARU ei tharo gan dorpido a suddodd mewn saith munud, gan fynd i lawr mor gyflym fel nad oedd hi’n bosibl lansio’r ychydig o fadau achub nad oeddynt wedi’u difrodi. Ymosododd y llong danfor ar yr USS STERETT hefyd, gan ei hatal rhag achub y rheiny a oedd wedi goroesi.
Bu farw bron 300 o ddynion, menywod a phlant yn y môr tywyll, oer a stormus. Golchwyd cyrff i’r lan ar hyd arfordir Penfro. Cafodd o leiaf 11 o gyrff eu darganfod ar draethau lleol a’u claddu heb enw mewn mynwentydd gerllaw. Dengys y cofnodion y bu claddedigaethau o’r fath ym Marloes, Dale a Llanisan-yn-Rhos. Roedd modd adnabod rhai o’r meirw a chawsant eu claddu yn Aberdaugleddyf ac Angle, lle codwyd cofeb hefyd.

Adroddiad ar y cwestau i farwolaethau criw a theithwyr yr HIRANO MARU a gynhaliwyd yn Hwlffordd, o’r Miford Haven Telegraph, 16 Hydref 1918. Ffynhonnell: Papurau Newydd Cymru Arlein.

Y gofeb bren i ddeg llongwr dienw o Japan ym mynwent Eglwys y Santes Fair, Angle. Y gŵr bonheddig yn y llun yw Mr Watkins, gofalwr yr eglwys ar y pryd.
Codwyd cofeb newydd o wenithfaen (darlun mewnosodedig) yma a ddadorchuddiwyd ar 4 Hydref 2018 i goffáu canmlwyddiant y trychineb. Mae’r arysgrif mewn Japaneg, Cymraeg a Saesneg ac mae’n darllen: ‘Yma y gorwedd Shiro Okosie a naw o’i gydlongwyr anhysbys a fu farw pan suddwyd y Llong Deithio Japaneaidd yr HIRANO MARU gan dorpido oddi ar arfordir Iwerddon ar y 4ydd o Orffennaf 1918’. Awgrymwyd y gofeb gan Ms Yuko Tsutsui, Uwch Gyfarwyddwr Cwmni Llongau Nippon Yusen Kaisha, perchnogion yr HIRANO MARU pan gafodd ei suddo. Ffynhonnell: David James, Cymdeithas Treftadaeth Forol Gorllewin Cymru.

Mae cofrestr claddu Eglwys y Santes Fair, Angle, yn rhestru’r cyrff o’r HIRANO MARU a olchwyd i’r lan yn Freshwater, Llanisan-yn-Rhos a Chapel Bay. Ffynhonell: Eglwys Santes Fair, Cofnod Claddedigaethau.
Awgrymwyd y deyrnged hon gan David James, West Wales Maritime Heritage Society
Mae’r ‘Prosiect Llongau-U’ yn coffáu’r Rhyfel Mawr ar y Môr ar hyd arfordir Cymru. Partneriaeth gwerth £1 filiwn yw hi a fydd yn para am ddwy flynedd ac sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i harwain gan CBHC. Mae’n darparu mynediad digyffelyb, am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd, i olion 17 longddrylliad sy’n gorwedd ar wely’r môr oddi ar arfordir Cymru. Mae’r rhain yn rhan bwysig o dreftadaeth y Rhyfel Mawr ac eto ychydig iawn o ymchwil a wnaed i’r safleoedd gwerthfawr hyn.
Gellir dilyn y datblygiadau yma:
Twitter: https://twitter.com/LlongauUBoat
Facebook: https://www.facebook.com/llongauUboat
Gellir cael mwy o wybodaeth am nodau’r Prosiect a sut mae’n cael ei ariannu yma:
https://rcahmw.gov.uk/world-war-one-u-boat-partnership-project-gets-green-light-from-heritage-lottery-fund-for-wales-year-of-the-sea-2018
Gellir cael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â:
e-bost: LlongauU@cbhc.gov.uk
04/10/2018