
John Newman 1936 – 2023
Bydd Cyfeillion a staff presennol a blaenorol y Comisiwn Brenhinol yn drist o glywed am farwolaeth John Newman yr wythnos diwethaf. Roedd yn un o haneswyr pensaernïol mwyaf disglair Prydain, a fu’n addysgu yn y Courtauld am ran helaeth o’i yrfa broffesiynol. Gŵr o Gaint oedd John ond treuliodd gyfnod yng Nghymru hefyd – ‘a Welsh period’, chwedl yntau. Pan oedd yn ei bumdegau a’i chwedegau, dechreuodd weithio ar arolygon Buildings of Wales (cyfrolau Pevsner) ar gyfer Morgannwg (1995) a Sir Fynwy/Gwent (2000), a gafodd eu canmol yn fawr. Enillodd arolwg Sir Fynwy/Gwent wobr G.T. Clark gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru. Cafodd John ei benodi’n un o Gomisiynwyr y Comisiwn Brenhinol wedyn (2000–2010) a byddai’n teithio yn rheolaidd ac yn ddi-gŵyn rhwng Caint a Cheredigion i fynychu cyfarfodydd y Comisiynwyr, lle’r oedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn gwaith arolygu (ym maes pensaernïaeth ac archaeoleg) a gwaith cofnodi brys. Drafftiodd bapur am esemptiad eglwysig ac anogodd waith i gofnodi adeiladau crefyddol segur. Ei gyfraniad i gyfrol canmlwyddiant y Comisiwn (Trysorau Cudd, 2008) oedd gwerthfawrogiad o ‘Eglwysi Oes Fictoria’. Roedd John, yn gywir ddigon, yn falch o’i gyfrolau Pevsner ac ychwanegodd Sir Amwythig (2006) at ei dali tra oedd yn Gomisiynydd. Cafodd ei geryddu am ddod o hyd i werth pensaernïol mewn archfarchnad ddadleuol yn Llwydlo, ond roedd John yn cymryd adeiladau o bob cyfnod o ddifrif, gan gynnwys adeiladau o’r ugeinfed ganrif. Roedd John yn arbennig o dda am ddisgrifio henebion cywrain a chymhleth, ac roedd ganddo ddawn ryfeddol i ddyddio adeiladau’n gywir, yn enwedig eglwysi. Mae ein rhaglen dyddio cylchoedd coed yn tystio i hynny. Mae ei drosolygon rhagarweiniol i’r cyfrolau Pevsner wedi bod yn ddylanwadol ar lawer o lefelau, a does dim amheuaeth nad ydynt wedi helpu’r mudiad cadwraeth yn ne Cymru drwy gynnig dadleuon dros gadw adeiladau a oedd dan fygythiad. Roedd John bob amser yn hynaws ac yn hael â’i wybodaeth ond roedd ei hollwybodusrwydd amlwg yn seiliedig ar waith caled, yn enwedig gwaith darllen eang a gwaith maes. Mae hynny’n amlwg o’r ‘slipiau’ yn ymwneud â’r cyfrolau Pevsner, a roddodd John yn unol â’i natur hael i archif y Comisiwn Brenhinol (Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru). Yn 2018, cafodd John ei gyfweld yn rhan o’r prosiect Hanes Llafar Haneswyr Pensaernïol Prydain (‘Oral History of British Architectural Historians’) a bu’n myfyrio ynghylch ei waith yng Nghymru. Dylai’r recordiadau sydd yn y Llyfrgell Brydeinig fod ar gael ar-lein maes o law. Ond cofeb John, wrth gwrs, fydd ei gyfrolau Pevsner.

04/27/2023