CBHC / RCAHMW > Newyddion > Kate Roberts a Chae’r Gors
A plan of Cae’r Gors drawn by Kate Roberts in her correspondence with Peter Smith, 1972.

Kate Roberts a Chae’r Gors

Adnabyddir Kate Roberts fel un o awduron pwysicaf yr iaith Gymraeg yn ystod yr 20fed ganrif a chyfeirir ati yn aml fel ‘Brenhines ein llên’ a ‘Brenhines y stori fer’.  Ysgrifennodd nofelau ac ysgrifau, bu’n athro, roedd yn feirniad ac yn ymgyrchydd ymroddedig ond fel awdur straeon byrion y daeth i amlygrwydd y byd llenyddol yng Nghymru.

Ganwyd hi #arydyddhwn ym mwthyn, Cae’r Gors, ym mhentref Rhosgadfan, sir Gaernarfon yn 1891 yn un o bedwar o blant Owen a Catrin Roberts, gyda’i brodyr Richard, Evan a David.  Chwarelwr oedd ei thad ei mham yn gyn-fydwraig a bu cefndir y chwareli, y bobl a’r bywyd yn y gymuned honno yn thema ganolog yn ystod ei gyrfa fel llenor.  Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol roedd y galw cynyddol am lechi, gyda’r mwyafrif o chwareli yn siroedd Caernarfon a Meirionnydd, wedi  arwain at greu cymunedau newydd yn ym Mlaenau Ffestiniog, Bethesda a Dyffryn Nantlle, ardaloedd agos i chwareli mawr Y Penrhyn a Dinorwig. Trysorau Cudd, ‘Y Diwydiant Llechi’, CBHC, tt.222-223. / Allt-Ddu Slate Quarry, Llanddeiniolen | Coflein / Felin Fawr slate-slab mills | Coflein / Bryn Eglwys, No. 4, St Anns, Bethesda | Coflein / Llechi Cymru, Archaeoleg a Hanes Cymru, tt.178 – 207, David Gwyn, 2015.

Golygfa blaen Cae’r Gors cyn ei adfer
Golygfa blaen Cae’r Gors cyn ei adfer.
Cynllun o Gae’r Gors a luniwyd gan Kate Roberts yn ei gohebiaeth gyda Peter Smith, 1972.
Cynllun o Gae’r Gors a luniwyd gan Kate Roberts yn ei gohebiaeth gyda Peter Smith, 1972.

Roedd Cae’r Gors yn dyddyn hunangynhaliol i’r teulu ac yn fwthyn cerrig wedi ei adeiladu ar gychwyn y 19eg ganrif, efo croglofft a beudy ynghlwm wrth ei ochr, fel yr oedd yn nodweddiadol i’r ardal adeg hynny.  (see Y Bwthyn Cymreig and Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru (CBHC) Yn sicr, roedd Cae’r Gors yn ymgnawdoliad concrit i Kate Roberts o’i phlentyndod a’i magwraeth, a’r diwylliant a berthynai i Ddyffryn Nantlle ac yn ddylanwad pwerus yn ei gwaith a’i arddull ysgrifennu.  Defnyddiau dafodiaith a iaith gyfoethog frodorol yr ardal yn ei gwaith  ac roedd ei harddull ysgrifennu syml a chynnil yn adlewyrchu pobl a thirwedd y bobl roedd hi’n adnabod. Cae’r-Gors;Early Home of Dr Kate Roberts | Coflein

Mae’r ail-gread digidol o Gae’r Gors yn rhoi cipolwg inni o sut fyddai wedi edrych yng nghyfnod plentyndod Kate Roberts:

Cafodd ei haddysg gynradd yn yr ysgol leol yn Rhosgadfan, yna Ysgol Sir Gaernarfon ac astudiodd radd Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor rhwng 1910-1913 lle bu’r Athro John Morris-Jones ac Ifor Williams yn ddarlithwyr iddi. Aeth ymlaen i hyfforddi fel athrawes a bu’n dysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng ngogledd a de Cymru, yn Nolbadarn a Llanberis ac hefyd yn Ysgol Sir Ystalyfera ac Ysgol Sir y Merched, Aberdâr, rhwng 1913-1928.

Mewn sawl ffordd mi wnaeth Kate Roberts dorri cwys newydd mewn sawl cyfeiriad yn ystod ei bywyd.  Bu’n flaengar ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth gan ymuno gyda Phlaid Genedlaethol Cymru pan sefydlwyd honno yn 1925 ac yn ystod y cyfnod yma cyfarfu gyda’i gŵr, yr argraffydd, Morris T. Williams, gyda’r ddau yn priodi yn 1928.  Wedi cyfnod yn byw yn Rhiwbeina, Caerdydd ac yna Tonypandy ar ddechrau’r 1930au, penderfynodd y pâr priod brynu Gwasg Gee yn 1935 Gwasg Gee, Denbigh | Coflein ac ymgartrefu yn nhref Dinbych, yng ngogledd Cymru. Trysorau Cudd, ‘Goroeswyr : Gwaith Argraffu Gwasg Gee’, CBHC, tt.288-289.

Roedd profiadau bywyd Kate Roberts yn ddylanwadau cryf ac yn themâu amlwg yn ei gwaith.  Bu cysgod y Rhyfel Byd Cyntaf yn drwm ar ei theulu gyda’i brawd Evan, yn cael ei anafu’n ddifrifol ac yn dioddef am weddill ei oes a’i brawd arall, David (Dei) yn marw o ddysentri ym Malta ym Mai 1917 wedi iddo yntau ddioddef anafiadau yn y rhyfel.  Ysgogodd hyn ar don o lenydda gyda chyhoeddi straeon byrion O Gors y Bryniau (1925), a gweithiau llenyddol eraill megis Deian a Loli (1927), a Laura Jones (1930).

Yn nes ymlaen yn ystod y 1930au cyhoeddodd Kate Roberts rhai o weithiau pwysicaf a mwyaf dylanwadol ei gyrfa lenyddol.  Yn eu plith oedd nofel Traed mewn Cyffion (1936), a chyfres o straeon byrion, Ffair Gaeaf a storïau eraill (1937).  Roedd Traed mewn Cyffion wedi cyd-ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn flaenorol  yng Nghastell-nedd ac yn darlunio bywyd  chwarelyddol sir Gaernarfon, a chaledi bywyd bob dydd y chwarelwr a’i deulu a’i gwytnwch urddasol yn ymdopi ag ef.  Portreadwyd sut oedd tair cenhedlaeth yn ceisio ymdopi gyda thlodi enbyd eu bywyd yn y gymdeithas honno yn ogystal â newidiadau ehangach yn y gymdeithas fel streiciau a gwrthdaro diwydiannol, a  digwyddiadau byd-eang fel y Rhyfel Byd Cyntaf, wedi ychwanegu at feichiau gormesol eu bywyd. Ond dewrder y cymeriadau yw eu penderfynrwydd i wella eu byd. Mae’n waith sydd hefyd yn rhoi cipolwg ar newidiadau cymdeithasol eraill a oedd yn digwydd yn y gymdeithas ar y pryd, er enghraifft, rôl y ferch a’r wraig, a’r heriau i dreftadaeth crefyddol ac ieithyddol yr ardal. 

Mae ei gwaith yn yr ail gyfnod (ar ôl marw ei mham yn 1944 a’i gŵr yn 1946) yn ymwneud fwy gyda dadansoddi emosiwn a hunanwerthuso seicolegol a meddyliol o’r unigrwydd hynny a deimlai fel menyw a’r heriau newydd a wynebai mewn cyfnod newydd yn ei bywyd yn ogystal â sut roedd ffiniau moesol y gymdeithas yn gyffredinol yn newid.

Pan fu farw ei gŵr yn sydyn yn 1946 esgorodd hyn ar gyfnod prysur arall yn ei gyrfa lenyddol gyda chyhoeddi Stryd y Glep yn 1949, Y Byw sy’n Cysgu yn 1956, straeon byrion Te yn y Grug yn 1959 wedi ei leoli yng nghyfnod ei bywyd cynnar a’r gwaith hunangofiannol Y Lôn Wen(1960) ble ail-ymwelodd Kate Roberts gyda’i magwraeth yn ardal chwareli Dyffryn Nantlle. Dilynwyd y rhain gan nofel Tywyll Heno (1962), ac ymhlith ei gweithiau eraill yn y ddegawd hon oedd Hyn o Fyd (1964), Tegwch y Bore (1967) a Prynu Dol (1969). Fel llawer o lenorion eraill o’r 1950au ymlaen yng Nghymru elwodd o’r nawdd a chefnogaeth ariannol a fuddsoddwyd mewn llenyddiaeth cyfrwng Cymraeg gan y Llywodraeth, y cynghorau sir a sefydliadau fel Cyngor Llyfrau Cymru. Haul a Drycin (1981) oedd ei chynnyrch llenyddol olaf cyn ei marwolaeth yn 1985.

Golygfa o’r stryd ar adeilad Gwasg Gee, Dinbych, 1998
Golygfa o’r stryd ar adeilad Gwasg Gee, Dinbych, 1998.

Roedd ei dawn fel awdur ond yn un deimensiwn i’w doniau aml-dalentog.  Gyda’i gŵr bu’n ffigwr amlwg yn rheoli Gwasg Gee ac wedi ei farwolaeth yn 1946 parhaodd i reoli’r wasg am ddeg mlynedd arall. Roedd rhychwant profiadau ei bywyd ei hun yn adlewyrchu sut oedd rôl menywod yn newid yn yr 20fed ganrif.  Roedd hefyd yn sylwebydd pwysig ym mywyd gwleidyddol a llenyddol Cymru drwy ei chyfraniadau i bapur newydd y Blaid Genedlaethol, Y Ddraig Goch, i Faner ac Amserau Cymru (Y Faner yn nes ymlaen), i gylchgrawn chwarterol W.J Gruffydd, Y Llenor, a fu’n lwyfan iddi hi a llenorion ifanc eraill fel T.H. Parry-Williams a Saunders Lewis.  Mae ei gohebiaeth gyda Saunders Lewis dros gyfnod o drigain mlynedd yn dangos ei diddordeb cynhenid mewn llenyddiaeth ac iaith, Cymru a gwleidyddiaeth.  Bu’n ffigwr dylanwadol cynnar yn hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru ac yn gefnogwr brwd i sefydlu un o’r ysgolion uwchradd cyntaf yng Nghymru yn ei hardal fabwysiedig, sef Ysgol Twm o’r Nant, yn Ninbych yn 1968.

Mae’r anrhydeddau lu a gafodd, yn eu plith, Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion a Phrifysgol Cymru yn dyst i’w mawredd a’i phwysigrwydd ym mhantheon llenorion yr iaith Gymraeg a chyfieithwyd ei nofelau a straeon byrion i’r Saesneg.

Bu farw yn Ebrill 1985 a chladdwyd gyda’i gŵr, Morris T. Williams, ym mynwent Capel Mawr, Dinbych.

Pan glywodd yn 1965 bod Cae’r Gors mewn adfeilion cychwynnodd Kate Roberts ymdrechion i’w achub, ac wedi ei brynu, cafodd ei gyflwyno i’r genedl yn 1969.  Mae ei gohebiaeth gyda Peter Smith o’r Comisiwn Brenhinol yn 1972 yn dangos ei phenderfynwydd i ymgyrchu dros achos a oedd mor agos at ei chalon a medrir ei weld yng nghyoeddiad CBHC, Trysorau Cudd, ’Dirywiad Bywyd y Bwthyn : Llythyr Kate Roberts at Peter Smith’, tt.276-277.  Erbyn 2007 roedd y bwthyn traddodiadol wedi cael ei adnewyddu i’w gyflwr gwreiddiol fel byddai Kate Roberts wedi ei gofio adeg ei magwraeth yn ardal chwareli Dyffryn Nantlle.  Mae heddiw yn gyrchfan i ymwelwyr ac yn ganolfan treftadaeth.

Bethan Hopkins-Williams, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Llyfryddiaeth

  • Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Meic Stephens (gol.), 1997.
  • Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines a Peredur I.Lynch, 2008.
  • Hanes Cymru, John Davies, 1991.
  • Gwefan Y Bywgraffiadur Cymreig
  • Gwefan CBHC
  • Casgliad y Werin Cymru / People’s Collection Wale.s
  • Trysorau Cudd: Darganfod Treftadaeth Cymru, golygwyd gan Peter Wakelin a Ralph A. Griffiths, RFS/RCAHMW/2008.
  • Y Bwthyn Cymreig, Eurwyn Wiliam, CBHC, 2010. Ar gael fel e-lyfr yn siop arlein y Comisiwn Brenhinol
  • Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru, Rachael Barnwell & Richard Suggett gyda chyfraniadau gan Helen Rowe, CBHC, 2014. Ar gael fel e-lyfr yn siop arlein y Comisiwn Brenhinol

Troednodiadau

  1. Trysorau Cudd, ‘Y Diwydiant Llechi’, CBHC, tt.222-223.  Gweler hefyd Coflein: Allt-Ddu Slate Quarry, Llanddeiniolen | Coflein / Felin Fawr slate-slab mills | Coflein / Bryn Eglwys, No. 4, St Anns, Bethesda | Coflein
  2. Llechi Cymru, Archaeoleg a Hanes Cymru, tt.178 – 207, David Gwyn, 2015.
  3. Coflein: Cae’r-Gors;Early Home of Dr Kate Roberts | Coflein
  4. Coflein: Ail-gread digidol o Gae’r Gors.
  5. Trysorau Cudd, ‘Goroeswyr : Gwaith Argraffu Gwasg Gee’, CBHC, tt.288-289. Hefyd Coflein: Gwasg Gee, Denbigh | Coflein
  6. Trysorau Cudd, ’Dirywiad Bywyd y Bwthyn : Llythyr Kate Roberts at Peter Smith’, CBHC, tt.276-277. 

13/02/2024

Subscribe
Notify of
guest

Security code *Time limit exceeded. Please complete the captcha once again.

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x