Ladis Llangollen

Drwy gydol mis Chwefror bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ar hyd a lled y DU i gydnabod cyfraniad pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol (pobl LHDdTh) i hanes Prydain. Cynhaliwyd y Mis Hanes Pobl LHDdTh cyntaf ym Mhrydain yn 2005, a chychwynnodd  rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau yng Nghymru yn 2011.

Maes astudio cymharol fodern yw hanes pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol. Mae dod o hyd i bobl LHDdTh a’u profiadau yn y llyfrau hanes, archifau a storfeydd amgueddfaol yn waith heriol a dadleuol yn aml. Serch hynny, mae un o’r enghreifftiau enwocaf yn hanes Prydain o berthynas rhwng pobl o’r un rhyw i’w chael yma yng Nghymru.

 

Plas Newydd. Yn ei dyddiadur, byddai Eleanor Butler yn aml yn ysgrifennu ‘my beloved and I went the Home Circuit.’ Tro byr o gwmpas yr ardd ym Mhlas Newydd oedd hyn, er y byddent yn rhedeg yn aml mewn tywydd gwael. NPRN 27760 DI2006_1033

Plas Newydd. Yn ei dyddiadur, byddai Eleanor Butler yn aml yn ysgrifennu ‘my beloved and I went the Home Circuit.’ Tro byr o gwmpas yr ardd ym Mhlas Newydd oedd hyn, er y byddent yn rhedeg yn aml mewn tywydd gwael. NPRN 27760 DI2006_1033

 

Ar noson o wanwyn ym mis Ebrill 1778, dihangodd dwy fenyw Wyddelig uchel eu tras o gartrefi eu teuluoedd yn Swydd Kilkenny, de-ddwyrain Iwerddon. Achosodd y Foneddiges Eleanor Butler (1739 – 1829) a Sarah Ponsonby (1755 – 1831) sgandal mawr ymhlith eu cyfoeswyr pan fu iddynt gynllwynio i ddianc rhag cynigion priodas a oedd yn wrthun ganddynt a dyfodol nad oeddynt ei eisiau fel gwragedd priod. Gan ffoi ar draws Môr Iwerddon, ymgartrefodd y ddwy yn y man mewn bwthyn deulawr di-nod o’r enw Pen y Maes ym mhentref gwledig distaw Llangollen yng ngogledd Cymru ym 1780.

Gyda’i gilydd, aethant ati i adnewyddu ac estyn Pen y Maes a’i diroedd a’i ailenwi’n Blas Newydd. Rhoddodd Plas Newydd ryddid i Eleanor a Sarah fyw’r bywyd yr oeddynt wedi dyheu amdano er ei fod yn hollol groes i ddisgwyliadau’r oes. Ymddengys nad oedd y ddwy, y daethpwyd i’w galw’n Ladis Llangollen, yn poeni dim am y cynnwrf yr oedd eu ffordd o fyw wedi’i achosi. Gyda’r incwm bach a ddarparwyd gan berthnasau beirniadol, ailddatblygwyd Plas Newydd ganddynt mewn arddull gothig, gyda ffenestri tri bwa, gwydr lliw ac ystafelloedd wedi’u haddurno â choed derw cerfiedig. Bu llawer o ffigurau adnabyddus y dydd yn ymweld â’r Ladis, gan gynnwys y beirdd Wordsworth, Shelley a Byron a oedd yn parchu eu perthynas hynod agos. Cawsant ymweliadau gan ffigurau gwleidyddol hefyd, megis Dug Wellington,  a barhaodd â’r traddodiad o ddod â darn o bren i addurno tu mewn a thu allan y tŷ yn rhodd am eu lletygarwch.

Roedd gwella’r tŷ a’r tiroedd yn brosiect oes iddynt ac mae eu llythyrau a’u dyddiaduron yn rhoi cryn sylw i hyn. Mae archif y Comisiwn Brenhinol yn cynnwys cynlluniau a ffotograffau o Blas Newydd sy’n dangos llawer o’r gwelliannau a wnaethant.

Bu farw Eleanor Butler ym 1829 a chafodd ei chladdu yn Eglwys Sant Collen yn Llangollen. Bu farw Sarah Ponsonby ddwy flynedd yn ddiweddarach, a chafodd ei chladdu yn yr un bedd, ynghyd â’u howsgiper ffyddlon, Mary Carryl. Roedd Ladis Llangollen wedi mwynhau bywyd gyda’i gilydd am hanner can mlynedd ym Mhlas Newydd. Er bod natur eu perthynas yn parhau’n bwnc llosg, mae’r tŷ’n sefyll yn gofeb i’w bywyd anghonfensiynol.

Mae Plas Newydd bellach yn amgueddfa sy’n eiddo i Gyngor Sir Ddinbych, ac mae ar agor i’r cyhoedd.

Gellir cael mwy o wybodaeth am Blas Newydd, gan gynnwys rhestr o’r deunydd yn yr archif, ar Coflein.

02/01/2013

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets