Lansiad Llyfr – Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200–1800

Yn ei gyflwyniad i’r llyfr darluniedig ysblennydd hwn, mae Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint, yn dweud ei fod yn “trysor o arolwg o faes yn hanes diwylliant Cymru sydd wedi’i esgeuluso ers tro byd, ac mae’n un sydd i’w groesawu’n fawr.”

Mae’r llyfr yn tynnu’r darllenydd i mewn i fyd eglwysi diweddar yr Oesoedd Canol a fyddai’n cael eu peintio o’r to i’r llawr â phobl, patrymau, a golygfeydd cyfarwyddiadol, weithiau â hiwmor yn ogystal â duwioldeb. Mae’r gyfrol awdurdodol hon yn dangos i ni mor fywiog a lliwgar oedd tu mewn eglwysi Cymru. Ceir ynddi astudiaethau achos sy’n ymdrin â’r muriau peintiedig syfrdanol a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn Eglwys Sant Cadog, Llancarfan (ger Caerdydd), a’r murluniau a gafodd eu hachub o Eglwys Sant Teilo yn Llandeilo Tal-y-bont a’u hail-greu â gofal mawr yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys:
• Cyflwyniad gan yr awdur, Richard Suggett
• Fideos o’r safleoedd
• Cwestiynau ac Atebion

Mae 275 o luniau gwych yn y campwaith dwyieithog, fformat-mawr hwn ac mae ar gael o siop ar-lein y Comisiwn Brenhinol. Cynigir disgownt o 10% i’r rheiny sy’n mynychu’r digwyddiad*.

*Rhoddir y cod disgownt yn y digwyddiad

14 Ebrill, 2022, 5pm

Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.

Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.

03/28/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x