
Lansio Hanes Sir Aberteifi!
Cafodd y gyfrol hirddisgwyliedig ar hanes Sir Aberteifi yn yr Oesoedd Canol ei lansio gerbron cynulleidfa lawn yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar Ddydd Sadwrn 5 Hydref. Cynhyrchwyd y llyfr sylweddol a hardd hwn, sy’n cynnwys nifer fawr o luniau, ar y cyd gan y Comisiwn Brenhinol, Gwasg Prifysgol Cymru, a Chymdeithas Hanes Ceredigion.
Lansio Llyfr

Mae’r gyfrol yn ymdrin â hanes cymdeithasol, gwleidyddol, crefyddol a diwylliannol cyfoethog tiriogaeth a ddaeth yn sir yn sgil y goresgyniad Eingl-Normanaidd o dde-orllewin Cymru. Mae penodau swmpus gan gyn Gadeiryddion y Comisiwn, Beverley Smith a Ralph Griffiths, yn ymdrin â hanes gwleidyddol a gweinyddol Ceredigion. Ceir penodau awdurdodol ar gestyll Cymreig a Seisnig Ceredigion gan David Browne a’r diweddar Jack Spurgeon, ac ar dai canoloesol a’r tai a’u dilynodd gan Richard Suggett. Trafodir amaethyddiaeth, addysg a rôl yr uchelwyr a’u hystadau, ynghyd â diwylliant llenyddol helaeth Ceredigion a chyfraniad beirdd diwedd yr Oesoedd Canol, gan gynnwys Dafydd ap Gwilym. Mae penodau eraill yn ymdrin â hanes crefydd yn yr Oesoedd Canol a rôl ganolog yr abaty Sistersaidd pwysig yn Ystrad Fflur, yr eglwys wedi’r Diwygiad, a hanes gweinyddol a chyfreithiol y sir cyn ac ar ôl y Deddfau Uno.
Ceir yn y llyfr lu o luniau, gan gynnwys mwy na 200 o ffotograffau (awyrluniau yn eu plith) a lluniadau o adeiladweithiau hanesyddol a nodweddion archaeolegol o gasgliadau archifol y Comisiwn Brenhinol a grëwyd gan Toby Driver, Iain Wright, Charles Green ac eraill. Gobeithir y bydd y gyfrol yn gyfraniad hirbarhaol i hanes y sir ac i hanes Cymru’r Oesoedd Canol yn gyffredinol.
Yn ystod y lansiad cafwyd rhaglen lawn o sgyrsiau (Geraint Jenkins, Richard Suggett, Eryn White), cerddoriaeth gan Owen Shiers a’r Gaseg Deircoes/Three Legg’d Mare, a chyfraniad gan Eurig Salisbury ar Dafydd ap Gwilym. Gellir gweld recordiad o’r lansiad ar Dudalen Facebook y Gymdeithas, Ceredigion History.

Richard Suggett
Cardiganshire County History, Volume 2: Medieval and Early Modern Cardiganshire. Golygwyd gan Geraint H. Jenkins, Richard Suggett ac Eryn M. White. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ar ran Cymdeithas Hanes Ceredigion Historical Society a CBHC/RCAHMW, 2019.
- Pris: £45.
- 550 tudalennau
- Clawr caled – ISBN 978-1-78683-452-2.
- eBook epub – 9781786834546
- eBook mobi – 9781786834553
- eBook PDF – 9781786834539
10/11/2019