CBHC / RCAHMW > Newyddion > Lansio Prosiect y Comisiwn Brenhinol, sef Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru: Dathlu ac Archifo Profiadau Asiaid Ugandaidd

Lansio Prosiect y Comisiwn Brenhinol, sef Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru: Dathlu ac Archifo Profiadau Asiaid Ugandaidd

Dewch i ymuno â’r digwyddiad ar-lein i lansio prosiect newydd cyffrous y Comisiwn, sef Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru a fydd yn dathlu ac yn archifo profiadau Asiaid Ugandaidd yng Nghymru ac yn cynnwys cofnodi lleoedd pwysig o safbwynt diwylliannol, crefyddol a hanesyddol.

  • Dydd Iau, 5 Hydref 2023
  • 17:00 – 18:30

Bydd siaradwyr yn y digwyddiad yn rhoi trosolwg o’r hinsawdd wleidyddol a arweiniodd at yrru Asiaid allan o Uganda, ac yn rhannu eu profiadau personol. Byddant hefyd yn rhoi manylion am sut y bydd y prosiect yn ymgysylltu ac yn cydweithio â chymunedau yng Nghymru i olrhain siwrnai pobl o’r adeg y cawsant eu gyrru allan i’w gwytnwch wedyn, ac am sut y bydd yn creu cofnod parhaol ar gyfer Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru a Chasgliad y Werin Cymru fel ei fod ar gael ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Siaradwyr

Y siaradwyr fydd Chandrika Joshi a oedd yn byw yng ngwersyll Tonfannau ac sy’n storïwr; Perminder Dhillon, Arweinydd Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru; a Christopher Catling, Prif Weithredwr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Tocynnau

Mae’r sgwrs hon yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Mae tocynnau’n gyfyngedig felly i osgoi cael eich siomi, rydym yn eich annog i archebu eich tocyn ymlaen llaw.

I gael tocynnau a rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Eventbrite.

Caiff y prosiect hwn ei gyllido gan Lywodraeth Cymru yn rhan o’i rhaglen i sicrhau Cymru wrth-hiliol. 

21/09/2023

Subscribe
Notify of
guest

Security code *Time limit exceeded. Please complete the captcha once again.

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x