Map showing roughly where the AGILE collided; quite a way away from its Maritime Named Location site and not in Welsh waters! Source gridreferencefinder.com

Lleoli llongddrylliadau yn nyfroedd Cymru

Nod y prosiect presennol, ‘Gwneud y Cysylltiad: Cofrestr Lloyd’s a Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru’, a ariennir gan Sefydliad Cofrestr Lloyds, yw cyfoethogi cofnodion y Comisiwn Brenhinol drwy eu cysylltu’n uniongyrchol â Chofnodion Colledion Lloyd’s.

Mae’r Cofnodion Colledion yn cofnodi’r holl longau a gollwyd drwy’r byd fesul chwarter. Ceir ynddynt fanylion fel enw, tunelledd, gwlad, cargo a thaith y llong. Gweler yma, er enghraifft, wybodaeth am yr agerlong sgriw TREE VILLA sydd, heblaw am ei rhif yn y Gofrestr, yn cynnwys yr holl fanylion perthnasol.

Y cofnod ar gyfer y Tree Villa yng Nghofnodion Colledion Lloyd’s, 1 Ebrill–30 Mehefin 1921, t.7
Y cofnod ar gyfer y Tree Villa yng Nghofnodion Colledion Lloyd’s, 1 Ebrill–30 Mehefin 1921, t.7

Un nodwedd sydd o bwys mawr i’r prosiect hwn yw’r manylion a geir yn y golofn sy’n nodi amgylchiadau a lleoliad y suddo. Nodir mai lleoliad y TREE VILLA oedd 5 milltir i’r de-orllewin o Ynys Sgogwm. Felly gallwn blotio lleoliad y llongddrylliad yn fras ar fap a dweud ei fod yn nyfroedd Cymru.

Dyma enghraifft arall, y tro hwn o fis Hydref 1969. Mae’r BANGARTH wedi’i rhestru yn y categori ‘Foundered’. Er bod rhai manylion heb eu cynnwys, er enghraifft y daith a’r cargo, rydyn ni yn cael gwybod beth oedd amgylchiadau ei cholli a ble. Yn yr achos hwn fe roddir y cyfesurynnau lledred a hydred, yn ogystal â’r lleoliad daearyddol (4 milltir oddi ar Ben Strwmbwl).

Y cofnod ar gyfer y Bangarth yng Nghofnodion Colledion Lloyd’s yn y chwarter yn diweddu 31 Rhagfyr 1969, t.51
Y cofnod ar gyfer y Bangarth yng Nghofnodion Colledion Lloyd’s yn y chwarter yn diweddu 31 Rhagfyr 1969, t.51

Mae’r cyfesurynnau hyn o gymorth i fapio llongddrylliadau’n fwy manwl. Mewn rhai achosion, cyfesurynnau’n unig sy’n cael eu rhoi, neu gyfesurynnau gyda lleoliad daearyddol cyffredinol iawn. Mae’r ARDLOUGH yn un enghraifft:

Y cofnod ar gyfer yr Ardlough yng Nghofnodion Colledion Lloyd’s, 1988, t.18
Y cofnod ar gyfer yr Ardlough yng Nghofnodion Colledion Lloyd’s, 1988, t.18

Pan gawn wybodaeth mor fanwl am leoliad llongddrylliad, gallwn ei fapio â hyder. Ond gall y wybodaeth fod yn weddol annelwig weithiau. Gweler, er enghraifft, y cofnod ar gyfer yr AGILE, brigantîn pren, yng Nghofnodion Colledion 1909.

Y cofnod ar gyfer yr Agile yng Nghofnodion Colledion Lloyd’s, 1 Gorffennaf–30 Medi 1909, t.9
Y cofnod ar gyfer yr Agile yng Nghofnodion Colledion Lloyd’s, 1 Gorffennaf–30 Medi 1909, t.9

Yr unig wybodaeth a roddir yn y Cofnodion am leoliad y suddo yw ‘Bristol Channel’. Gan nad oes gwybodaeth fwy penodol am leoliad y llongddrylliad, fe roddir Lleoliad Enw Morwrol i’r AGILE, sef Môr Hafren. Defnyddir y Lleoliadau Enw Morwrol hyn gan y Comisiwn Brenhinol i leoli safleoedd pan nad oes manylion penodol ar gael. Yna neilltuir cyfeirnod grid canolog i’r safleoedd – ar gyfer Môr Hafren yn yr achos hwn. Pan ddilynir y protocolau hyn, gwelwn fod yr AGILE yn gorwedd yn nyfroedd Cymru, fel y mae’r map hwn yn ei ddangos:

Map yn dangos y Lleoliad Enw Morwrol ar gyfer Môr Hafren. Ffynhonnell gridreferencefinder.com
Map yn dangos y Lleoliad Enw Morwrol ar gyfer Môr Hafren. Ffynhonnell gridreferencefinder.com

Ond drwy chwilio am yr AGILE mewn papurau newydd cyfoes, gallwn ddarganfod mwy o fanylion. Yn yr erthygl sy’n dilyn, nodir i’r llongddrylliad ddigwydd ym Mae Barnstaple, oddi ar arfordir Dyfnaint:

Adroddiad papur newydd am ddryllio’r Agile ym Mae Barnstaple
Adroddiad papur newydd am ddryllio’r Agile ym Mae Barnstaple

Mae hyn yn golygu bod safle llongddrylliad yr AGILE y tu allan i ddyfroedd Cymru. Felly ni chafodd y llong ei chynnwys yng nghofnodion llongddrylliadau’r Comisiwn.

Map yn dangos lleoliad bras y gwrthdrawiad a arweiniodd at suddo’r AGILE; mae’n gryn bellter o’i safle Lleoliad Enw Morwrol ac yn sicr nid yw yn nyfroedd Cymru! Ffynhonnell gridreferencefinder.com
Map yn dangos lleoliad bras y gwrthdrawiad a arweiniodd at suddo’r AGILE; mae’n gryn bellter o’i safle Lleoliad Enw Morwrol ac yn sicr nid yw yn nyfroedd Cymru! Ffynhonnell gridreferencefinder.com

Ar y llaw arall, mae yna gofnodion yn y Cofnodion Colledion, er enghraifft, ar gyfer yr agerlong TOURQUENNOIS o Wlad Belg, sydd hefyd yn nodi ‘Bristol Channel’, ond ni ddaethpwyd o hyd i ffynhonnell ychwanegol eto sy’n nodi union leoliad y suddo. Felly, am y tro, mae’r llong wedi cael Lleoliad Enw Morwrol a chyfeirnod grid cyffredinol sy’n ei rhoi yn nyfroedd Cymru.

Y cofnod ar gyfer y TOURQUENNOIS yn y Cofnodion Colledion, 1 Gorffennaf–30 Medi 1909
Y cofnod ar gyfer y TOURQUENNOIS yn y Cofnodion Colledion, 1 Gorffennaf–30 Medi 1909

Weithiau nid oes unrhyw wybodaeth mewn ffynonellau dogfennol. Gellir pennu lleoliadau mwy manwl drwy groesgyfeirio amrywiaeth o ffynonellau ond, yn y cyfamser, os deuwn ar draws enghraifft fel y TOURQUENNOIS nad yw’n nodi ond lleoliad fel ‘Bristol Channel’ neu ‘Irish Sea’ ar gyfer y llongddrylliad, neilltuir cyfesuryn gofodol iddo a ddiffinnir i gynrychioli canol yr ardal gyffredinol dan sylw.

Mae’n debyg bod safleoedd llawer o longddrylliadau eraill wedi’u nodi yn yr un lle, a rhoddir lleoliad mwy penodol i’r rhain wrth i fwy o wybodaeth ddod i law, naill ai o ffynonellau dogfennol neu drwy ymgymryd ag ymweliadau safle.

Gall dod o hyd i leoliad rhai llongau yn y Cofnodion Colledion fod yn heriol, ond mae’r wybodaeth a gesglir wrth chwilio yn ychwanegu at ein gwybodaeth am longddrylliadau Cymru ac yn ein galluogi i fireinio ein cofnodion a’u gwneud yn fwy manwl gywir.

Os hoffech ddysgu mwy am y prosiect hynod ddiddorol hwn, fe fydd Meilyr Powell, Cynorthwyydd Ymchwil Arforol (Sefydliad Cofrestr Lloyd’s), yn rhoi nifer o sgyrsiau am ddim ar-lein yn ystod yr wythnosau nesaf ar y prosiect Cofnodi Llongddrylliadau Cymru.

  • Canolfan Addysg Sefydliad Lloyd’s fydd yn cynnal y sgwrs gyntaf a roddir ar Ddydd Iau, 8 Medi, am 1pm (https://register.gotowebinar.com/register/4737491448083353358).
  • Ac ar 17 Medi, am 1pm, fe fydd Meilyr yn rhoi sgwrs ar ‘Gwneud y Cysylltiad: Cofnodion Colledion Lloyd’s a Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru’. Bydd y sgwrs hon ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar dudalen Facebook y Comisiwn Brenhinol a bydd Meilyr wrth law yn ystod y prynhawn i ymateb i unrhyw gwestiynau a sylwadau. https://www.facebook.com/Royal-Commission-on-the-Ancient-and-Historical-Monuments-of-Wales-146120328739808/

    Wedyn fe fydd modd gweld y ddwy sgwrs ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol. Mae detholiad eang o’n sgyrsiau ar gael eisoes ar y sianel hon. https://www.youtube.com/channel/UCHp_OWuWtBOaBe6zn99fwXA

    Prosiect treftadaeth cydweithredol yw Gwneud y Cysylltiad: Cofnodion Colledion Lloyd’s a Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru sydd â’r nod o gyfoethogi cofnodion am longddrylliadau yn nyfroedd Cymru drwy ddefnyddio Cofnodion Colledion Lloyd’s. Hyd yn hyn, mae’r prosiect cydweithredol chwe-mis rhwng Sefydliad Cofrestr Lloyd’s a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi arwain at ychwanegu mwy na 100 o longddrylliadau newydd at gofnodion y Comisiwn, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, ac at gyfoethogi’r cofnodion presennol drwy ddarparu gwybodaeth newydd. Bydd y catalog ar-lein o longddrylliadau Cymru, ar ei newydd wedd, yn cynnwys hypergysylltiadau i’r Cofnodion Colledion, gan alluogi defnyddwyr ac ymchwilwyr i symud yn hwylus o’r naill adnodd i’r llall ac i osod llongddrylliadau Cymru yn eu cyd-destun byd-eang. Ceir cysylltiadau hefyd i bapurau newydd cyfoes ar gyfer llawer o’r llongddrylliadau, sy’n cynnig trywydd ymchwil arall i ddefnyddwyr. Drwy gysylltu Cofnodion Colledion Lloyd’s â chofnodion y Comisiwn Brenhinol am longddrylliadau, mae’r prosiect yn hybu proffil y ddau sefydliad ac yn dangos bod modd cyrchu llawer iawn o wybodaeth am longau yn y ffynonellau dogfennol pwysig hyn.

Gan Meilyr Powell, Cynorthwyydd Ymchwil Arforol (Sefydliad Cofrestr Lloyd’s)

09/07/2020

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x