
Lleoliad Cefnogi Prosiect – Datblygu Deunyddiau Ysgol
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn Aberystwyth yn dymuno penodi rhywun i leoliad gwaith â phwyslais addysgol i’w gynorthwyo gyda’i brosiect llongau-U cyffrous sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Yn ystod y prosiect fe ddefnyddir technoleg canfod sain i greu delweddau o longddrylliadau o’r Rhyfel Byd Cyntaf sy’n gorwedd ar wely’r môr ar hyd arfordir Cymru, a manteisir ar ymchwil hanesyddol i adrodd storïau’r bobl yr effeithiodd y rhyfel arnynt.
Crëwyd y lleoliad fel cyfle datblygu i athro/athrawes newydd gymhwyso, neu ar fin cymhwyso, i helpu i wireddu elfennau gwaddol addysgol y prosiect.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn siarad Cymraeg a bydd ganddo/ganddi radd addysgu/TAR. Bydd yn gallu helpu tîm y prosiect i ddatblygu adnoddau gwyddoniaeth, mathemateg a hanes ar gyfer ysgolion (cyfnodau allweddol 3 a 4), yn gysylltiedig â ffrwyth gwaith y prosiect a’r cwricwlwm Cymreig newydd.
Bydd y lleoliad ar gyfer 8 wythnos yn ystod yr haf. Mae’n swydd amser-llawn, 37 awr yr wythnos, a gellir ymgymryd â hi ar sail hyblyg a/neu ran-amser.
Rydym yn cynnig cyflog o £19,240 pro rata y flwyddyn.
I gael mwy o wybodaeth am waith y prosiect ac am y lleoliad, gan gynnwys pecyn gwneud cais, ewch i’n gwefan yn
https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gweithio-ir-comisiwn/swyddi-syn-wag-ar-hyn-o-bryd/
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 28 Ebrill 2019.
04/03/2019