
Llofnodi y Siarter TUC Dying to Work

O’r chwith i’r dde: Christopher Catling, Charles Green, Sue Billingsley, Stephen Bailey-John a Jon Dollery.
Llofnododd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Siarter ‘Dying to Work’ y TUC ar 7 Chwefror 2019.
Meddai Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol:
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn croesawu’r cyfle i lofnodi Siarter ‘Dying to Work’ y TUC. Rydym yn llwyr gefnogi’r cynllun hwn a thrwy lofnodi’r Siarter rydym yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd gwaith lle mae’r holl staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n llawn, yn enwedig os ydynt yn dioddef o afiechyd terfynol.
Mae Prospect, yr undeb sy’n cynrychioli staff y Comisiwn, yn croesawu’n gynnes lofnodi’r Siarter ‘Dying to Work’, ymgyrch gan y TUC a ddechreuodd yn 2016. Mae’r Siarter yn rhan o ymgyrch ‘Dying to Work’ ehangach y TUC sy’n ceisio mwy o ddiogelwch i weithwyr ag afiechyd terfynol drwy sicrhau na allant gael eu diswyddo oherwydd eu cyflwr.
Dysgwch fwy am yr ymgyrch ‘Dying to Work’.
02/07/2019
Leave a Reply