CBHC / RCAHMW > Newyddion > Llongau, Llongddrylliadau a Ffynonellau Dogfennol

Llongau, Llongddrylliadau a Ffynonellau Dogfennol

Mae llongddrylliadau ymysg y safleoedd archaeolegol mwyaf cyfareddol. Gallant ddeffro delweddau o hen ymdrechion, gwrthdaro, antur arforol a gweithredoedd arwrol yn wyneb grym y môr. Ble bynnag y maent, o ddŵr dwfn i’r parth rhynglanwol, a heibio i dir sydd wedi’i adennill o’r môr, mae gweddillion archaeolegol y safleoedd hyn mor amrywiol â’r llongau eu hunain. Gall llongau a gollwyd mewn dŵr dwfn ymddangos fel pe baent wedi’u diogelu yn dda iawn, ond mae’n anochel bod eu strwythur wedi dirywio. Gall y llongau a gyrhaeddodd y lan cyn cael eu colli wedyn, ac sydd i’w gweld ar ein traethau a’n glannau creigiog, ymddangos fel pe baent wedi’u dryllio a’u malu’n llwyr, ond pan fyddant wedi’u claddu mewn haenen warchodol o waddod gallant barhau heb newid am ganrifoedd.

Llongddrylliad yr HELVETIA yn Rhosili, Bro Gŵyr. Er mai darn bach yn unig o’r llong sydd i’w weld uwchlaw’r tywod, mae’n debygol bod rhan helaeth o gorff y llong wedi’i diogelu dan wyneb y traeth.

Mae ein gallu i fapio gwely’r môr a’r arfordir, er mwyn dod o hyd i longddrylliadau a deall y prosesau sy’n effeithio arnynt, wedi elwa’n fawr o ddatblygiadau mewn technoleg dros y pum mlynedd ar hugain diwethaf. Caiff y themâu hyn eu harchwilio drwy ddau ‘Fap Stori’ o Becyn Gwaith 3.2 y prosiect ‘Unpath’d Waters’:

Map Stori 1: Delweddu ac adnabod llongddrylliadau ym Môr Iwerddon https://arcg.is/0GTyzz

Map Stori 2: Y potensial i ddiogelu llongddrylliadau ym Môr Iwerddon https://arcg.is/1WWm5i0

Mae ein gallu i gyfuno gwybodaeth am gofnod archaeolegol y llongddrylliad â setiau data hanesyddol yn rhan bwysig o’r ddau ddarn hyn o waith. Er enghraifft, yn y lle cyntaf, mae gallu enwi llongddrylliad yn dibynnu ar gael cofnod mor gyflawn ag sy’n bosibl o’r llongau a gollwyd yn ardal y llongddrylliad. Mae set ddata arforol Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn cynnwys dros 6000 o gofnodion ar gyfer llongddrylliadau, llongau a gollwyd a mannau lle daethpwyd o hyd i ddeunydd o longddrylliadau. Trwy gyfeirio at y set ddata hon, mae modd llunio rhestr o longau posibl. Fel yr eglurir ym Map Stori 1, mae gallu cysoni nodweddion megis hyd y llong neu ffurf ei chorff rhwng ein harsylwadau ni o’r cofnod archaeolegol a’r wybodaeth sydd mewn ffynonellau hanesyddol yn gallu helpu i gadarnhau enw’r llong dan sylw.

Map o longddrylliadau o amgylch Cymru yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Yn rhan o’r broses hon rhaid i wybodaeth lifo’r ddwy ffordd, a gall gwella ein gwybodaeth am y deunydd archaeolegol ein helpu i ddeall o’r newydd y cofnod hanesyddol. Mae gwaith ymchwil gan Innes McCartney (2022) wedi dangos sut y defnyddiwyd hyn ar raddfa fawr yng nghanol Môr Iwerddon, ac mae’n amlygu’r rhyngberthynas hollbwysig rhwng data arolygon a dogfennau hanesyddol. Dangosodd Map Stori 1 sut y mae gwella eglurder arolygon yn gwella’n fawr y gwaith dehongli sy’n gallu digwydd yng nghyswllt llongddrylliad penodol. Yn yr un modd, wrth i ddulliau arolygu wella dros amser, mae nodweddion sylfaenol safleoedd, megis eu hyd, wedi cael eu mireinio. Mewn rhai achosion, gall y nodweddion hynny newid yn ddramatig o ganlyniad i arolygon newydd.

Mae llongddrylliad sydd 1.7 milltir fôr i’r gogledd-orllewin o Ben-caer yn rhan ddeheuol Môr Iwerddon yn gallu dangos graddfa newidiadau o’r fath. Cafodd y llongddrylliad, UKHO 9855, ei ddarganfod a’i archwilio gyntaf gan Swyddfa Hydrograffig y DU yn 1980, ac yn dilyn yr arolwg nodwyd bod ei hyd yn 48m. Ar y sail honno, nodwyd mai hwn oedd safle llongddrylliad yr agerlong Moyallon a gollwyd yn yr ardal yn 1924 ac a oedd yn 43m o hyd. Ailarchwiliwyd safle UKHO 9855 gan Swyddfa Hydrograffig y DU yn 2019, ac ar sail yr arolwg mwy newydd nodwyd bod ei hyd yn 81m, a oedd dipyn yn hirach na’r hyn a nodwyd yn wreiddiol. Cadarnhawyd yr hyd cyffredinol hwnnw gan waith arolygu a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor a gwaith dadansoddi a gynhaliwyd gan Innes McCartney ym mis Mehefin 2021, a nododd fod hyd y llongddrylliad yn 76m (McCartney, 2022). Dangosodd gwelliannau i eglurder arolygon yn ystod y 40 mlynedd ers 1980 yn glir fod gweddillion UKHO 9855 ar wely’r môr yn rhy hir o lawer i fod yn weddillion yr agerlong Moyallon, ac ar hyn o bryd mae’r llongddrylliad (NPRN 800297) wedi’i nodi yn un ‘Anhysbys’ yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Lleoliad UKHO 9855 a UKHO 93302 oddi ar Ben-caer. Mae’n cynnwys data Swyddfa Hydrograffig y Deyrnas Unedig © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata.

Beth felly am yr agerlong Moyallon? Yn rhan o’r un arolwg a arweiniodd at adolygu hyd UKHO 9855, cafodd llongddrylliad newydd ei ddarganfod 2.5 milltir fôr i’r dwyrain-dde-ddwyrain. Yn ôl yr arolwg, mae hyd y llongddrylliad hwnnw, sef UKHO 93302, yn 43m, sy’n cyfateb yn agos i hyd cyffredinol yr agerlong Moyallon. Caiff y dybiaeth gychwynnol mai’r Moyallon yw’r llongddrylliad hwn, ar sail hyd a’r ardal gyffredinol lle collwyd y llong, ei hatgyfnerthu trwy gyfeirio at gynlluniau’r agerlong Moyallon, sydd ar gael trwy Sefydliad Cofrestr Lloyd’s. Mae’r cynlluniau yn dangos llong sydd â threfniant tebyg o howldiau a pheirianwaith i’r hyn a welir yng ngweddillion UKHO 93302 ar wely’r môr, sy’n golygu ei bod yn rhesymol cofnodi’r llongddrylliad hwnnw fel yr agerlong Moyallon yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NPRN 273191).

Proffil a Chynllun Dec ar gyfer yr agerlong Moyallon, 29 Rhagfyr 1917 (Hawlfraint Canolfan Treftadaeth ac Addysg Sefydliad Cofrestr Lloyd’s, cyfeirnod y ddogfen LRF-PUN-W706-0030-P)

Mae enghraifft yr agerlong Moyallon yn ein galluogi hefyd i feddwl ychydig yn fwy am y berthynas rhwng gweddillion llongddrylliadau a dogfennau hanesyddol. Mae yna wahaniaethau ffisegol amlwg rhwng y ddwy ffynhonnell wybodaeth; mae’r naill yn llongddrylliad 43m o hyd ac mae’r llall yn gyfres o ddogfennau papur. Eto i gyd, mae angen i ni eu hystyried yn un set ddata sy’n ymwneud â tharddiad y llong, ei hadeiladwaith, y defnydd a wnaed ohoni, y modd y’i collwyd a’i bywyd wedi hynny. Hwyrach ei bod yn anodd dirnad hynny, ond mae’n werth cofio bod dogfennau wedi bod yn sail i’r broses o archebu, adeiladu a chomisiynu’r Moyallon a bod y rheiny’n amrywio o lythyrau i adroddiadau arolygu, cynlluniau’r llong, a’i gosodiadau a’i ffitiadau. Heb y rhain, ni fyddai wedi bod yn bosibl adeiladu’r llong, ei lansio, ei hyswirio na’i defnyddio. Yn yr un modd, mae dogfennau megis logiau mordwyo yr un mor hanfodol i weithrediad y llong o ddydd i ddydd ag y mae ei hinjan neu’i chwmpawd. Mae arsylwadau o’r fath yr un mor wir am longau mewn canrifoedd cynharach ag y maent am longau’r oes fodern (Whitewright: 2020: 14) Yn olaf, yn achos yr agerlong Moyallon, gellir olrhain bywyd y llong wedi hynny gan ddechrau gydag Ymchwiliad y Bwrdd Masnach i’w cholli, sy’n cynnwys adroddiad manwl iawn am ei mordaith olaf. Mae ei bywyd fel llong yn ymdoddi wedyn, trwy gofnodion arolygu Swyddfa Hydrograffig y DU, i’w statws fel llongddrylliad. Mae cyflawnder ein dealltwriaeth o long/llongddrylliad unigol yn dibynnu ar ein gallu i ‘ddarllen’ y ffynonellau dirifedi hyn, o lyfrau lòg i weddillion archaeolegol, a hynny mewn modd eithaf cyfochrog (gweler hefyd Adams 2013: 47-49, Pink a Whitewright, 2022: 7-9).

Afraid dweud bod yn rhaid eich bod yn medru cael gafael ar rywbeth cyn y gallwch ei ddarllen. Yn ei hanfod, mae a wnelo’r prosiect UnPath’d Waters â chysylltu casgliadau o ddata arforol (yn ei holl ffurfiau) â’i gilydd er mwyn gwella mynediad. Mae hynny yn ei dro’n gwella dealltwriaeth a mwynhad o’r casgliadau hynny. Mae’r enghreifftiau a gaiff eu crynhoi uchod yn egluro’r manteision sydd i’w cael o allu gweld canlyniadau arolygon archaeolegol a dogfennau hanesyddol cysylltiedig ochr yn ochr â’i gilydd. Ond yn draddodiadol mae hynny wedi bod yn anodd, gan fod gwahanol fathau o ddata’n cael eu cadw mewn gwahanol leoliadau gan wahanol sefydliadau, sy’n adlewyrchu eu hanes unigol nhw o grynhoi a churadu gwybodaeth. O ran llongau’n benodol, y ffynonellau pwysicaf o bell ffordd ar gyfer y cyfnod o tua 1760 ymlaen yw’r gwahanol ddogfennau sydd gan Gofrestr Lloyd’s, a oedd yn ymwneud ag arolygon manwl o longau, a fyddai’n sail i’r system yswiriant morol. Ar raddfa facro mae’r rhain yn cynnwys Cofrestr Lloyd’s o Longau, y cofnodion ynghylch damweiniau a’r rhestrau o longau colledig, ac ar raddfa fwy micro maent yn cynnwys yr arolygon a’r cynlluniau o longau unigol yn ogystal â llythyrau rhwng arolygwyr a pherchnogion llongau ac ati. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae gwaith Canolfan Treftadaeth ac Addysg Sefydliad Cofrestr Lloyd’s wedi gweddnewid ein gallu i gael gafael ar ffynonellau crai, wrth i’r Ganolfan ddigido mewn modd systematig gofnodion sy’n gysylltiedig â llongau unigol yn ogystal â sicrhau bod adnoddau ar raddfa fwy, megis Cofrestr Lloyd’s, ar gael yn gyson ar-lein. O ganlyniad, mae bellach yn bosibl cyrchu dogfennau o’r fath yn uniongyrchol o gofnodion llongddrylliadau a gedwir mewn casgliadau cenedlaethol megis Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Gan ddychwelyd am y tro olaf at yr agerlong Moyallon, mae’r cofnod ar gyfer y llong yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am yr arolwg o wely’r môr ar gyfer dau safle posibl i’r llongddrylliad, a’r rhesymeg dros briodoli un ohonynt yn safle llongddrylliad y Moyallon. Darperir disgrifiad cryno o hanes y llong yn ogystal â dolenni cyswllt mynediad agored â ffynonellau dogfennol sy’n cynnwys y cofnod gwreiddiol am y ddamwain ac ymchwiliad y Bwrdd Masnach i golli’r llong. Mae dolen gyswllt â chofnod y llong yn archif Canolfan Treftadaeth ac AddysgCofrestr Lloyd’s yn rhoi mynediad i dri deg o ddogfennau hanesyddol eraill sy’n amrywio o gynlluniau peirianyddol a thrawstoriadau i lythyrau sy’n ymwneud â thalu ffïoedd arolygu. Yn rhan o waith y prosiect ‘UnPath’d Waters’ mae cofnodion 47 o longddrylliadau eraill sydd yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru wedi’u cysylltu bellach â’r cyfoeth o gynnwys sydd ar gael trwy Ganolfan Treftadaeth ac Addysg Cofrestr Lloyd’s.

Mae angen gallu cysylltu ffynonellau crai fel hyn â’i gilydd er mwyn i ni allu rhesymoli a deall y set ddata am y llongddrylliadau sydd yn ein moroedd ac ar hyd ein harfordiroedd. Mae gallu ymchwilio’n sydyn ac yn effeithiol i fanylion hanesyddol llong unigol neu fanylion arolygu safle llongddrylliad penodol, heb orfod cynnal sawl taith ymchwil i wahanol rannau o’r DU, yn hanfodol mewn byd lle mae’n anochel y bydd cyllidebau’n crebachu ac y bydd lefelau staffio’n gostwng. Dylid pwysleisio eto hefyd nad unig ddiben y broses hon yw gallu enwi llongddrylliad fel modd i werthuso’n well ei arwyddocâd hanesyddol. Mae cael gwybodaeth well am nodweddion ffisegol llong, yr hyn yr oedd yn ei gario, y modd y cafodd ei cholli ac ati’n gallu arwain at ddealltwriaeth well o’r llwybr y gallai unrhyw ddeunydd archaeolegol ei ddilyn o ran y modd y mae’n dirywio. Mae hynny yn ei dro’n ei gwneud yn bosibl i ni ddeall yn well sut y mae llongddrylliadau’n goroesi ar raddfa ehangach (gweler Map Stori 2) neu ragweld ble y gallai llygredd o longddrylliadau hanesyddol fod yn broblem. Gyda phwysau nas gwelwyd ei debyg o’r blaen ar ddatblygu yn y moroedd o amgylch y DU, mae gallu deall ein treftadaeth arforol yn llawn o bob safbwynt, archaeolegol a dogfennol, yn hollbwysig os ydym am ei rheoli, ei deall a’i mwynhau yn awr ac yn y dyfodol.

Dr Julian Whitewright, Uwch Ymchwilydd (Arforol), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Ffynonellau a dolenni cyswllt

Adams, J., 2013. A Maritime Archaeology of Ships: Innovation and Social Change in Medieval and Early Modern Europe. Oxford: Oxbow.

Canolfan Treftadaeth ac Addysg Sefydliad Cofrestr Lloyd’s https://hec.lrfoundation.org.uk/

Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, Set Ddata Arforol: ar gael i’w lawrlwytho trwy FapDataCymru https://mapdata.llyw.cymru/layers/geonode:nmrw_jan2024_maritimesites

McCartney, I., 2022. Echoes from the Deep. Leiden: Sidestone Press. https://www.sidestone.com/books/echoes-from-the-deep

NPRN 273191 Moyallon (UKHO 93302) https://coflein.gov.uk/cy/safle/273191/

NPRN 273914 Helvetia (UKHO 12338) https://coflein.gov.uk/cy/safle/273914/

NPRN 800297 Llongddrylliad anhysbys (UKHO 9855) https://coflein.gov.uk/cy/safle/800297/

Pink, J., a Whitewright, J., 2022. ‘A Life Less than Ordinary: The Schooner Ocean (1821-1865)’. Historical Archaeology 56: 3-15.

Prosiect ‘UnPath’d Waters’ https://unpathdwaters.org.uk/

Swyddfa Hydrograffig y Deyrnas Unedig – Trwydded Data Bathymetreg fersiwn 1.0 https://seabed.admiralty.co.uk/assets/TERMS%20OF%20USE%20Seabed%20Mapping%20Data.pdf

Whitewright, J., 2020. ‘Vessel History: Building, Service and Loss’. Yn The Stirling Castle, a 70-gun Ship Lost in the Great Storm of 1703. Archaeological Investigations 1979–2009, J. Whitewright (gol.), tt. 5-14. Oxford: British Archaeological Reports, British Series 656.

Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor https://www.bangor.ac.uk/cy/yge

13/06/2024

Subscribe
Notify of
guest

Security code *Time limit exceeded. Please complete the captcha once again.

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x