
Llongddrylliad llong danfor a suddwyd ar Ddiwrnod Nadolig 1917 – wedi’i warchod bellach

Yn 2018 darganfu tîm arolygu morol Prifysgol Bangor longddrylliad yr U-87, llong danfor Almaenig, yn nyfroedd Cymru oddi ar Ynys Enlli. Cafodd y llongddrylliad ei ddynodi’n ‘safle wedi’i warchod’ o dan Orchymyn 2019 Deddf Gwarchod Gweddillion Milwrol 1986 (Dynodi Llongau a Safleoedd Rheoledig). Gall deifwyr edrych ar y safle ond ni chaniateir iddynt gyffwrdd â dim na mynd i mewn i’r llong-U.
Suddwyd oddi ar Ynys Enlli ar Ddiwrnod Nadolig 1917 gyda’i holl griw o 43
Ar Ddiwrnod Nadolig 1917, ymosododd yr U-87 ar gonfoi yn Sianel San Siôr (ar yr AGBERI, agerlong Brydeinig, yn neilltuol). Roedd un o longau hebrwng y confoi, yr HMS P56, 150 o lathenni’n unig i ffwrdd o’r AGBERI gan gafodd ei tharo a throdd i fwrw i mewn i’r llong-U; yr un pryd fe daniodd llong hebrwng arall, y BUTTERCUP, arni a tharo ei thŵr rheoli. Suddodd y llong-U mewn deng munud. Yn ôl rhai llygad-dystion fe gafodd yr U-87 ei sleisio yn ei hanner, ac arhosodd y rhan flaen ar yr wyneb am ddeng munud, gyda dynion yn y golwg y tu mewn iddi.
Ond er gwaethaf yr adroddiadau hyn, dengys y delweddau newydd o’r llong-U ei bod yn gorwedd yn gyfan ar wely’r môr. Er iddi gael ei thyllu, fe suddodd i’r gwaelod heb dorri’n ddarnau. Yn y ddelwedd, gellir gweld y toriad mawr yn y corff a wnaed gan yr HMS P56 yn gogwyddo’n ôl tuag at y tŵr rheoli. Ni ddihangodd y criw, a sylweddolwn heddiw ein bod ni’n edrych ar fedd rhyfel, efallai am y tro cyntaf mewn mwy na chan mlynedd.
Darllenwch fwy am yr U-87 yma: https://uboatproject.wales/wrecks/u-87/
Gwyliwch y ffilm animeiddiedig sy’n dangos sut y cafodd ei suddo yma: https://www.youtube.com/watch?v=DSW8N1tkhwU
12/20/2019