Llongddrylliadau adnabyddus ar gyfer Blwyddyn y Môr: Elfin anlwcus, Resurgam anlwcus

Cant tri deg saith o flynyddoedd yn ôl, byddai tywydd garw yn rhoi terfyn ar freuddwydion y Parch. George William Garrett i adeiladu llong danfor i’r Llynges Frenhinol.

Y lluniadau peirianegol ar gyfer y Resurgam a ymddangosodd yn The Engineer ar 6 Ionawr 1882.

Y lluniadau peirianegol ar gyfer y Resurgam a ymddangosodd yn The Engineer ar 6 Ionawr 1882.

 

Ym 1878, roedd wedi sefydlu’r Garrett Sub-Marine Navigation and Pneumatophore Company Ltd. Roedd ei syniadau’n deillio o ddigwyddiad yn y rhyfel rhwng Rwsia a Thwrci ym 1877 pan nodwyd yr angen am gwch a allai fynd o dan gadwyni amddiffynnol i ddinistrio llongau rhyfel. Gofynnodd y Llynges Frenhinol am brototeip a chafodd ei ddyluniad cyntaf, a lysenwyd ‘The Egg’, ei brofi yn Nociau Lerpwl ym mis Gorffennaf 1878. Arweiniodd y llwyddiant hwn at ddylunio ac adeiladu’r RESURGAM (yng Ngwaith Haearn Britannia J T Cochrane, Penbedw) ar gost o £1538 ym 1879.

Ar 10 Rhagfyr 1879, gadawodd y RESURGAM Benbedw o dan ei bŵer ei hun i ymgymryd ag arbrofion yn Portsmouth ond nid aeth ymhellach na’r Rhyl. Ar ôl i Garrett ei hatgyweirio, a threfnu i’r iot ager ELFIN ei thynnu, cychwynnodd y RESURGAM am Portsmouth eto. Gadawodd y ddwy long y Rhyl am 10pm ar 24 Chwefror 1880, ond oddi ar Benygogarth, mewn môr garw, bu’n rhaid i gapten yr ELFIN ofyn i griw’r llong danfor helpu i drwsio pympiau sbydu’r iot. Anfonwyd cwch i’w nôl ac aeth y Parch. George Garrett a’i gyd danforwyr, y Capten W. E. Jackson a George Price, ar fwrdd yr ELFIN wrth i’r iot gael ei thrwsio. Parhawyd â’r daith wedyn, ond aeth y storm o ddrwg i waeth yn ystod y nos. Tua 10 y bore y diwrnod wedyn fe dorrodd y dynraff a suddodd y llong danfor maes o law. Roedd yr ELFIN yn dal mewn perygl. Trodd yn ôl, cyrhaeddodd Afon Dyfrdwy ac angorodd oddi ar Fostyn, ond yna fe newidiodd y gwynt, torrodd ceblau’r angor ac aeth yr iot gyda’r llif. Aeth y tynfad yr IRON KING i achub yr iot ond, mewn amodau anodd, fe drawodd yn ei herbyn. Suddodd yr iot ac roedd hithau’n golled lwyr.

O gasgliadau’r Comisiwn Brenhinol – deifiwr o’r Uned Deifio Archaeolegol yn archwilio’r llong danfor ar waelod y môr ym 1997.

O gasgliadau’r Comisiwn Brenhinol – deifiwr o’r Uned Deifio Archaeolegol yn archwilio’r llong danfor ar waelod y môr ym 1997.

 

Ffynonellau ar gyfer darllen pellach:

 

03/14/2018

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x