
Llonyddwch wedi’r Storm
Ar 18 Hydref, aeth Dr Toby Driver, archaeolegydd o’r awyr y Comisiwn Brenhinol, ar daith hedfan o Hwlffordd yn Sir Benfro i ogledd Môn a barodd am dair awr. Pwrpas y daith oedd gwneud arolwg o gyflwr safleoedd treftadaeth ar hyd arfordir Cymru yn sgil Storm Callum a hynny ar ran y Prosiect CHERISH sy’n cael ei ariannu gan Ewrop. Roedd y tywydd yn wych a dyma rai o uchafbwyntiau’r daith.

Harbwr Aberaeron. Gwnaed difrod i nifer o gychod yn yr harbwr yn ystod Storm Callum.
Lansiad cyd-genedl CHERISH, prosiect Iwerddon-Cymru newydd

Aber-soch. Gellir gweld amlinell dau longddrylliad o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Aber-soch, Gwynedd. Mae’r ddau’n cael eu hastudio ar gyfer y Prosiect CHERISH. Dim ond yn ddiweddar y daeth y llongddrylliad isaf i’r golwg yn y tywod rhynglanw.

Llandysul yn y niwl. Roedd y niwl yn dal i glirio o Landysul, Ceredigion yn y bore wrth i’r awyren hedfan tua’r gogledd.

Moryd Mawddach. Roedd yn drawiadol o glir dros Abermo a Moryd Mawddach, yn edrych tuag at Gadair Idris yn y pellter ar y dde.

Y Rhinogau. Mae tirwedd arw Rhinog Fawr a Llyn Cwm Bychan (yn y cysgod, chwith isaf) yn sefyll allan yn lliwiau’r hydref a’r cysgodion dwfn.

Niwl Teifi. Cafwyd llawer o lifogydd yma yn ystod Storm Callum ac yn y llun hwn gwelir Dyffryn Teifi dan orchudd o niwl o Dre-fach yn y blaendir ar y chwith i Gastellnewydd Emlyn yn y pellter canol, yn edrych i’r gorllewin tuag at Aberteifi.
Tweet / Facebook: Awyrluniau diweddar a dynnwyd gan ein ffotograffydd yn ystod arolwg o safleoedd treftadaeth ar hyd arfordir Cymru ar gyfer y @CHERISHproj
10/25/2018