
Lluniadau wedi’u digido a ffotograffau anhygoel: Enghreifftiau gwych o’n Casgliadau Ar-lein
Fel yn y rhan fwyaf o archifau, mae nifer o gasgliadau amrywiol yn archif y Comisiwn Brenhinol, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Mae gennym 916 o gasgliadau i gyd, yn amrywio o rai bach a phenodol i rai mawr ac eang eu cwmpas.
Casgliadau papur yw llawer o’r rhain a rhaid dod i’n hystafell ymchwil yn bersonol i’w gweld neu gysylltu â’r tîm ymholiadau i ofyn am gopïau. Er bod cyfyngiadau eleni wedi’i gwneud hi’n anodd i bobl gyrchu’r casgliadau papur, maen nhw hefyd wedi peri i ni sylweddoli o’r newydd mor amhrisiadwy yw ein casgliadau digidol.
Mae nifer cynyddol o’r casgliadau a dderbyniwn heddiw yn rhai digidol. Oherwydd hyn, a’n rhaglen barhaus o ddigido ein casgliadau, mae gennym fwy na 100,000 o eitemau y gall y cyhoedd eu gweld am ddim drwy gyrchu ein catalog ar-lein, Coflein. Yn y blog hwn, rhown sylw i rai o’r casgliadau gwych hyn:
Casgliad Aerofilms
Casgliad Aerofilms yw un o lawer o gasgliadau o awyrluniau a gedwir yn CHCC. Cafodd y lluniau yn y casgliad hwn eu tynnu rhwng 1919 a 2006 gan Aerofilms Ltd., cwmni awyr-ffotograffiaeth preifat a sefydlwyd wedi’r Rhyfel Mawr. Ar ôl i’r cwmni roi’r gorau iddi, prynwyd y ffotograffau Cymreig yn y casgliad gan y Comisiwn Brenhinol. Yn 2010 fe dderbyniwyd sawl grant i’n galluogi i sefydlu ‘Prydain oddi Fry’, prosiect pedair blynedd o hyd ar y cyd â phartneriaid yn Lloegr a’r Alban i ddigido’r ffotograffau mwyaf gwerthfawr, sef y rheiny a dynnwyd rhwng 1919 a 1953. Gellir gweld y ffotograffau hyn, sy’n dangos sut mae trefi a dinasoedd Cymru wedi newid ar hyd y blynyddoedd, ar Coflein ac ar wefan Prydain oddi Fry.


Darganfyddwch fwy am Aerofilms a’r newidiadau yn nhirweddau Prydain yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif yn y gyfrol Aerofilms: A History of Britain From Above (2015) y gellir ei phrynu drwy fynd i’n gwefan.
Casgliad Arthur Chater
Botanegydd adnabyddus oedd Arthur Chater, ond ychydig o bobl sy’n gwybod iddo hel at ei gilydd gasgliad enfawr o ffotograffau. Mae rhyw 4,000 o’i ffotograffau du a gwyn, y rhan fwyaf ohonynt o safleoedd yn Sir Aberteifi a dynnwyd rhwng 1955 a 1965, wedi’u rhoi ar adnau yn CHCC, ac mae miloedd eraill ar eu ffordd. Gellir gweld mwy na 2,800 o’r lluniau hyn ar-lein eisoes.


Archif Falcon Hildred
Mae’r arlunydd Falcon Hildred yn enwog am ei ddarluniau pensil, inc a dyfrlliw o dirweddau diwydiannol, yn enwedig Blaenau Ffestiniog. Enghraifft nodedig o gasgliad a brynwyd gan y Comisiwn Brenhinol yw hon, ac rydym erbyn hyn wedi digido bron 600 o’i weithiau celf. Yn ogystal â rhoi’r rhain ar-lein, mae llyfr y Comisiwn Brenhinol am ei waith yn cynnwys 200 a rhagor o ddarluniau lliw gan yr arlunydd a ddewiswyd o lawer o wahanol gasgliadau. Yn ogystal â bod yn llyfr celf bendigedig, mae’n ddefnyddiol fel cyfeirlyfr o adeiladau a thirweddau diwydiannol.
Gall Worktown: The Drawings of Falcon Hildred gael ei brynu yn ein siop lyfrau ar-lein.


Awyrluniau Digidol Arosgo Lliw CBHC
Mae awyrluniau a dynnwyd gan yr Awyrlu Brenhinol, yr Arolwg Ordnans a sefydliadau eraill i’w cael yng nghasgliadau helaeth y Comisiwn Brenhinol. Ond ers 1986 mae gan y Comisiwn ei raglen ei hun o dynnu lluniau o’r awyr. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar safleoedd hanesyddol ac archaeolegol Cymru ac yn cynnwys monitro henebion cofrestredig ar ran Cadw yn ogystal â darganfod safleoedd archaeolegol newydd.




Tirweddau sy’n newid, eiliadau mewn amser, golygfeydd syfrdanol a darganfyddiadau newydd.
A wyddech chi?
Mai Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, ers 2016, yw’r archif genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth o’r awyr yng Nghymru, a bod ynddi erbyn hyn fwy na 2 filiwn o awyrluniau sy’n cwmpasu’r can mlynedd ddiwethaf.Dysgwch fwy am ein hawyrluniau hanesyddol yn y fideo hwn: https://www.youtube.com/watch?v=PUg0tMh2uGQ
Casgliad Ffotograffig y Swyddfa Gwybodaeth Ganolog
Sefydlwyd y Swyddfa Gwybodaeth Ganolog ym 1946 yn olynydd i Weinyddiaeth Gwybodaeth yr Ail Ryfel Byd. Hi oedd adran marchnata a chyfathrebu llywodraeth y DU a bu’n cynhyrchu deunyddiau hyrwyddo a gwybodaeth i bobl Prydain. Arweiniodd y gwaith hwn at greu llyfrgell sylweddol o ffotograffau a gafodd ei gwasgaru yn y man, ac ym 1992 daeth casgliad o ffotograffau, tryloywderau a negatifau o adeiladau a safleoedd yng Nghymru i feddiant CBHC. Mae mwy na 700 o’r lluniau hyn wedi’u digido bellach a gellir eu gweld ar Coflein.




Gan Rhodri Lewis, Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell
11/26/2020